Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Gwerthu a chyflenwi nwyddau: beth i'w wneud os bydd pethau mynd o chwith

Yn y canllawiau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawliau pwysig i chi pan fyddwch yn gwneud contract gyda masnachwr ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chynnwys digidol.

Cael dealltwriaeth glir o'ch hawliau yw'r cam cyntaf tuag at fod yn ddefnyddiwr hyderus. Y cam nesaf yw gwybod sut i roi'r wybodaeth honno ar waith pan fydd pethau'n mynd o chwith. 

Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg i chi o'r hawliau allweddol sydd gennych pan fydd masnachwr yn cyflenwi nwyddau i chi a rhoi llwybr clir i'w ddilyn os ydych am gwyno wrth y masnachwr am y nwyddau hynny.

Gwerthu a chyflenwi nwyddau: trosolwg o'ch hawliau

Cyn i chi gysylltu â masnachwr gyda chwyn am nwyddau sydd wedi cael eu cyflenwi i chi, rhaid gwybod eich hawliau a gwneud yn siwr bod gennych ddealltwriaeth glir o'r hyn y mae gennych hawl iddo a phryd y mae gennych hawl iddo. Mae'r siart isod yn rhoi golwg i chi ar eich hawliau a'ch rhwymedïau allweddol pan nad yw nwyddau o ansawdd boddhaol, ddim yn addas at ddiben penodol, nid fel y disgrifiwyd a ddim yn cyd-fynd â sampl neu fodel.

Os ydych ei angen, mae'r canllaw 'Gwerthu a chyflenwi nwyddau: eich hawliau ddefnyddwyr' yn rhoi mwy o wybodaeth fanwl.

 

Sale and supply of goods flowchart

Beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn fodlon gyda nwyddau a roddwyd i chi ac ni fydd angen cwyno i'r masnachwr, ond os bydd problem dilynwch y camau isod:

  • rhowch orau i ddefnyddio'r nwyddau cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol bod problem
  • dewch o hyd i'ch prawf prynu, fel arfer eich derbynneb ar bapur, e-dderbynneb neu dderbynneb rhodd, neu eich copi o'r contract ond gall hefyd gynnwys eich datganiad banc / cerdyn credyd. Bydd angen prawf prynu arnoch os bydd masnachwr yn gofyn i chi am dystiolaeth eu bod mewn gwirionedd wedi cyflenwi'r nwyddau i chi neu eich bod wedi derbyn y nwyddau fel anrheg
  • ar gyfer y rhan fwyaf o gontractau, mae'n rhaid i'r masnachwr roi gwybodaeth bwysig benodol i chi am y nwyddau, trefniadau talu, cyflwyno, ei enw a'i fanylion cyswllt, gwybodaeth ôl-werthu a manylion unrhyw bolisi sy'n ymwneud â delio â chwynion a allai fod ganddynt. Os byddwch yn derbyn y wybodaeth hon, cadwch mewn man diogel
  • os nad yw'r masnachwr yn darparu gwybodaeth ôl-werthu na manylion polisi ymdrin â chwynion mae angen i chi ddarganfod at bwy i gwyno. Edrychwch ar wefan y masnachwr, y dderbynneb, y ffurflen archebu neu'r nodyn danfon am fanylion
  • casglwch yr holl ddogfennau perthnasol yn ogystal â nodiadau ar eich cwyn gan y bydd y masnachwr yn gofyn i chi am eich enw a'ch cyfeiriad, eich cwsmer / rhif archeb, y dyddiad y cafodd y nwyddau eu cyflenwi a natur eich cwyn
  • os ydych yn cwyno'n bersonol, chwiliwch am wasanaeth cwsmer penodol neu ddesg ad-daliad yn y siop. Os nad oes gan y siop un, gofynnwch i siarad â'r rheolwr neu'r person sydd â gofal dros y siop. Gwnewch yn siwr eich bod yn gofyn am eu henw a'u manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i chi siarad â hwy eto
  • os byddwch yn cwyno dros y ffôn, ffoniwch rif y llinell gymorth benodol ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid os oes un. Gwnewch yn siwr eich bod yn cael cyfeirnod y gwyn neu ffoniwch y siop neu'r brif swyddfa a gofynnwch am gael eich trosglwyddo i rywun a all eich helpu. Gofynnwch am eu henw a'u manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i chi siarad â nhw eto.  
  • pan fyddwch yn cwyno'n bersonol neu dros y ffôn, mae'n ddoeth gwneud gwaith dilynol gydag e-bost neu lythyr i gadarnhau manylion eich cwyn, yr ateb rydych yn chwilio amdano a rhoi dyddiad cau i'r masnachwr ymateb.
  • gallwch gwyno yn ysgrifenedig. Holwch i weld â phwy i gysylltu ymlaen llaw er mwyn osgoi anfon eich cwyn at y person neu'r swyddfa anghywir. Gallwch atodi copïau o'ch gwaith papur i gynorthwyo'r masnachwr i ddelio â'ch cwyn. Cewch dystysgrif postio ar gyfer llythyrau rydych yn eu hanfon neu defnyddiwch ddosbarthiad cofnodedig fel y gallwch olrhain y dyddiad y derbyniwyd y llythyr. Chwiliwch am ffurflen gwyno ar-lein ar wefan y masnachwr y gallwch chi ei defnyddio. Os byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth e-bost awtomatig o'ch cwyn, cadwch hi. Mae'r canllaw 'Ysgrifennu llythyr cwyn effeithiol'  yn cynnwys llythrennau templed y gallwch eu defnyddio
  • defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i wneud cwyn neu i adrodd pryder; efallai y bydd yn cael ymateb cyflym
  • cadwch gofnod o'r digwyddiadau: pryd wnaethoch chi gwyno ac i bwy a beth y dywedasant y gallent ei wneud ac erbyn pryd
  • cadwch gopïau o lythyrau a negeseuon e-bost a anfonwyd a'u derbyn
  • rhowch gyfle rhesymol i'r masnachwr ddelio â'ch cwyn
  • efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i'r masnachwr i gefnogi eich cwyn. Gallai hyn gynnwys anfon copïau o'ch dogfennau i'r masnachwr (derbynneb, e-byst a llythyrau) yn ogystal ag unrhyw beth a fydd yn eich barn chi yn helpu i ddangos bod y nwyddau'n ddiffygiol, fel ffotograffau neu fideos. Os ydych yn chwilio am nwyddau newydd neu eu hatgyweiriad o fewn y chwe mis cyntaf o'r dyddiad cyflenwi, cofiwch mai mater i'r masnachwr yw profi bod y nwyddau'n foddhaol pan gawsant eu gwerthu, a nid i chi brofi eu bod yn ddiffygiol. Gelwir hyn yn 'faich prawf wedi'i wrthdroi'
  • os nad yw'r masnachwr yn derbyn unrhyw dystiolaeth yr ydych wedi'i chyflwyno i gefnogi'ch cwyn a'ch bod yn parhau mewn anghydfod, efallai y bydd angen i chi gael barn arbenigwr. Mae canllaw ' Casglu tystiolaeth i brofi eich hawliad ' yn rhoi mwy o wybodaeth am hyn
  • gall y masnachwr ymateb gyda chynnig o rwymedi arall, megis ei amnewid yn lle ad-daliad. Efallai yr hoffech ystyried y cynnig ond, os ydych yn cwyno o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y cyflenwyd y nwyddau, mae gennych hawl i gael eich arian yn ôl
  • os gwrthodir eich cwyn, nid yw'r ateb a gynigir yn dderbyniol neu os na chewch ateb o gwbl, anfonwch lythyr neu e-bost arall; dilynwch y broses o uwchgyfeirio cwyn os bydd un neu cwynwch i rywun uwch o fewn y siop
  • os yw'r masnachwr yn trefnu bod nwyddau'n cael eu danfon atoch chi, maen nhw'n gyfrifol am y nwyddau tan y pwynt eich bod chi'n cymryd meddiant ohonyn nhw. Os yw'r nwyddau'n cael eu difrodi neu eu colli wrth eu cludo er enghraifft, mae gennych hawl i gael ad-daliad gan y masnachwr ac nid y cludwr
  • os gwnaethoch dalu am y nwyddau gan ddefnyddio cyllid a drefnwyd gan y masnachwr neu os wnaethoch dalu gan ddefnyddio eich cerdyn credyd a bod y nwyddau'n costio mwy na £100 ond yn llai na £30,000, mae'r darparwr cerdyn cyllid / credyd yr un mor gyfrifol â'r masnachwr os ydynt yn ddiffygiol. Ysgrifennwch at y darparwr cyllid / cerdyn credyd neu anfonwch e-bost gyda manylion eich cwyn. Mae canllaw ' Gwerthu a chyflenwi nwyddau: eich hawliau defnyddwyr '  yn rhoi mwy o wybodaeth
  • os ydych yn defnyddio cerdyn debyd i brynu'r nwyddau neu os ydych yn defnyddio cerdyn credyd a bod pris y nwyddau yn llai na £100 (ni fydd eich hawliau o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 yn berthnasol) efallai y byddwch yn gallu manteisio ar y cynllun 'Chargeback'. Chargeback yw'r term a ddefnyddir gan ddarparwyr cardiau am adennill taliad cerdyn gan fanc y masnachwr. Os gallwch ddarparu tystiolaeth o dor-contract (fel y nwyddau heb fod wedi eu danfon, os ydynt yn ddiffygiol neu os yw'r masnachwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu, er enghraifft) gallwch ofyn i ddarparwr eich cerdyn geisio adennill y taliad. Holwch eich darparwr cerdyn ynghylch sut mae rheolau'r cynllun yn berthnasol i'ch cerdyn, a yw trafodion y rhyngrwyd wedi'u cynnwys a beth yw'r terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad
  • os ydych yn ymrwymo i gontract oherwydd bod masnachwr wedi eich camarwain neu wedi defnyddio ymarfer masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau i chi wneud iawn: yr hawl i ddadflino'r contract, yr hawl i ostyngiad a'r hawl i iawndal . Gweler y canllaw 'Arferion camarweiniol ac ymosodol: hawliau i wneud iawn' am ragor o wybodaeth
  • gwiriwch a yw'r masnachwr yn aelod o gymdeithas fasnach neu gorff rheoleiddio. Mae rhai cymdeithasau masnach a chyrff rheoleiddio yn darparu cynlluniau datrys anghydfodau fel rhan o'r gwasanaeth felly os oes gennych gwyn yn erbyn un o'u haelodau, gallant gynorthwyo i ddatrys y broblem. Mae canllaw ' Cymdeithasau masnach a chyrff rheoleiddio '  yn rhoi mwy o wybodaeth
  • defnyddiwch dulliau amgen o ddatrys anghydfodau fel ffordd i ddatrys eich cwyn heb fynd i'r llys. Pan fethith popeth arall, gallwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y masnachwr yn y llys. Gweler 'Meddwl am siwio yn y llys?' i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau hyn

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Credyd Defnyddwyr 1974

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Hydref 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.