Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Cyflenwi cynnwys digidol: beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawliau pwysig i chi pan fyddwch yn gwneud contract gyda masnachwr ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chynnwys digidol.

Efallai na fydd cwyno am gynnwys digidol yn ymddangos mor syml â chwyno am nwyddau a gwasanaethau. Byddwch yn ymwybodol o'ch hawliau a darganfyddwch beth allwch chi ei wneud os aiff pethau o chwith cyn prynu.

Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg i chi o'r hawliau allweddol sydd gennych pan fydd masnachwr yn cyflenwi cynnwys digidol i chi a chyfeiriad clir i'w ddilyn pan fyddwch am gwyno.

Cyflenwi cynnwys digidol: trosolwg o'ch hawliau

Cyn i chi gysylltu â'r masnachwr gyda chwyn am y cynnwys digidol sydd wedi'i gyflenwi i chi, mae'n bwysig gwybod eich hawliau a gwneud yn siwr bod gennych ddealltwriaeth glir o'r hyn y mae gennych hawl iddo a phryd y mae gennych hawl iddo. Mae'r siart isod yn rhoi golwg i chi ar eich hawliau a'ch rhwymedïau allweddol pan nad yw cynnwys digidol o ansawdd boddhaol, heb fod yn addas at ddiben penodol ac nid fel y disgrifiwyd.

Fodd bynnag, os oes arnoch ei angen, mae'r canllaw 'Cyflenwi cynnwys digidol: eich hawliau ddefnyddwyr'  yn rhoi mwy o wybodaeth fanwl.

Dilynwch y saethau o'r un lliw i ganfod pa ateb allweddol sy'n berthnasol i ba hawl allweddol.

 

Digital content flowchart

id="_x0000_t75" coordsize="21600,21600" o:spt="75" o:preferrelative="t"
path="m@4@5l@4@11@9@11@9@5xe" filled="f" stroked="f">

















style='width:346.5pt;height:539.5pt;visibility:visible;mso-wrap-style:square'>
o:title=""/>

Beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith 

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'n debyg y byddwch yn fodlon ar y cynnwys digidol a roddwyd i chi ac ni fydd angen cwyno i'r masnachwr, ond os bydd problem dilynwch y camau isod:

  • ·       bydd y rhan fwyaf o'r cynnwys digidol yn cael ei gyflenwi 'o bell', sy'n golygu heb gysylltiad wyneb yn wyneb â'r masnachwr. Rhaid i'r masnachwr roi i chi, cyn i'r contract gael ei wneud, wybodaeth bwysig benodol am y cynnwys digidol: cyfanswm y pris, y trefniadau talu, sut y caiff y cynnwys digidol ei gyflwyno, eu henw a'u manylion cyswllt, gwybodaeth ôl-werthu, gwybodaeth am yr hawl i ganslo (gan gynnwys pan gollir yr hawl hon) a manylion unrhyw bolisi ymdrin â chwynion a allai fod ganddynt. Rhaid i'r wybodaeth hon gael ei rhoi i chi mewn ffordd sy'n briodol i'r dull cyfathrebu o bell a ddefnyddir
  • ·       gwiriwch cyn i chi ymrwymo eich hun i brynu a ydych yn cytuno i lawrlwytho'r cynnwys digidol cyn i'r cyfnod canslo 14 diwrnod ddod i ben. Os ydych am i'r masnachwr ei gyflenwi cyn diwedd y cyfnod canslo, rhaid i chi roi eich caniatâd penodol a chydnabod y bydd eich hawl i ganslo yn cael ei golli. Mae hyn wedi'i gynllunio i'ch atal rhag canslo ar ôl i chi lawrlwytho'r cynnwys digidol
  • ·       gwiriwch fformat a fersiwn y cynnwys digidol cyn i chi fynd ymlaen â'r pryniant
  • ·       bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth yn cael ei harddangos yn amlwg ond efallai y gwelwch rywfaint o'r wybodaeth mewn 'telerau ac amodau', 'cwestiynau cyffredin' neu 'gosodiadau'
  • ·       gweithredwch cyn gynted ag y dewch yn ymwybodol bod problem gyda'r cynnwys digidol
  • ·       gwnewch yn siwr eich bod wedi dilyn y cyfarwyddiadau lawrlwytho / ffrydio yn ofalus
  • ·       rhaid i'r masnachwr ddarparu, lle bo'n berthnasol, wybodaeth cyn y contract ar ymarferoldeb a chydnawsedd y cynnwys digidol. Gwiriwch i weld a gawsoch y wybodaeth hon
  • nodwch pam eich bod yn credu bod y cynnwys digidol yn ddiffygiol rhag ofn y byddwch yn colli allan rhai manylion pwysig
  • ai'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd, darparwr cebl neu weithredwr rhwydwaith symudol sy'n gyfrifol am y broblem yn hytrach na'i fod oherwydd nam ar y cynnwys digidol? Gwiriwch cyn i chi gwyno
  • cadwch gofnod o'r digwyddiadau: pan wnaethoch chi gwyno, ac i bwy, a beth y dywedasant y gallent ei wneud ac erbyn pryd
  • os yn berthnasol, cymerwch sgrînlun ar eich cyfrifiadur, gliniadur neu ffôn clyfar, neu defnyddiwch ddyfais arall i gymryd fideo o'r sgrin fel tystiolaeth o'r broblem
  • cadwch gopïau o negeseuon e-bost a anfonir a'u derbyn
  • byddwch yn barod i gael eich holi am eich dyfais - er enghraifft, efallai y bydd y masnachwr yn gwirio a yw'r cynnwys digidol yn gydnaws neu y gall eich dyfais gefnogi uwchraddiad
  • efallai bod gennych nifer o ffyrdd o gysylltu â'r masnachwr. Trefnwch alwad ffôn gan y masnachwr i chi, defnyddiwch sgwrs ar y we neu anfonwch ebost
  • defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i wneud cwyn neu i adrodd pryder; efallai y byddwch yn derbyn ymateb cyflym
  • bydd rhai masnachwyr yn cynhyrchu e-bost cymorth gwsmeriaid ddrafft i chi sydd â rhai o fanylion / manylion eich dyfais wedi'u cynnwys yn awtomatig
  • os yw'r cynnwys digidol yn methu lawrllwytho neu ffrydio, rhowch gynnig arall arni. Os na fydd hyn yn llwyddo yna cysylltwch â 'chymorth cwsmeriaid' am help
  • os yw'r cynnwys digidol yn llwyddo i lwytho neu ffrydio ond nid yw o ansawdd boddhaol, heb fod yn addas i'r diben neu heb fod wedi'i ddisgrifio, yna gwnewch nodyn o'r broblem ac yna gwiriwch yn erbyn y cynnyrch a hysbysebir
  • gofynnwch iddo gael ei drwsio (i roi'r broblem yn iawn) neu ei ddisodli yn y lle cyntaf
  • os nad yw atgyweirio neu amnewid yn bosibl, nad yw'n gweithio, yn rhy gostus, yn cymryd gormod o amser neu'n sylweddol anghyfleus, cysylltwch â'r masnachwr am ad-daliad neu ostyngiad yn y pris
  • os ni fyddwch yn cael digon o fynediad ar-lein i'r cynnwys digidol - er enghraifft, os cafodd y ffilm y gwnaethoch ei ffrydio ei symud cyn i chi ei gweld yn llawn, yna gwnewch nodyn o'r amser y bu'n rhaid i chi ei gweld a chwynwch i'r masnachwr
  • os credwch fod y cynnwys digidol - mae hyn yn berthnasol i gynnwys digidol am ddim yn ogystal â thâl - wedi difrodi eich dyfais neu gynnwys digidol arall, nodwch manylion y broblem a'ch colled ariannol a chysylltwch â'r masnachwr yn nodi eich cais am ad-daliad
  • gwyliwch allan am adnewyddu tanysgrifiadau digidol yn awtomatig. Gwiriwch y telerau a'r amodau i gael gwybod sut i ddiffodd awto-adnewyddu. Os nad yw'n amlwg, adroddwch y mater i wasanaeth cymorth cwsmeriaid y masnachwr
  • nodwch efallai na fydd diffyg bach mewn cynnwys digidol cymhleth yn cyfrif fel bai, oni bai ei fod yn effeithio ar ymarferoldeb - mae'n dibynnu ar amgylchiadau amrywiol gan gynnwys y math o gynnwys digidol, disgwyliadau rhesymol a'r pris a dalwyd gennych
  • os nad oes gan y masnachwr yr hawl gyfreithiol i gyflenwi'r cynnwys digidol, gofynnwch am ad-daliad llawn
  • os oeddech chi'n talu am y cynnwys digidol gan ddefnyddio cyllid a drefnwyd gan y masnachwr neu os gwnaethoch chi dalu gan ddefnyddio eich cerdyn credyd a'i fod yn costio mwy na £100 ond yn llai na £30,000, mae'r darparwr cerdyn cyllid/credyd yr un mor gyfrifol â'r masnachwr os yw'r cynnwys digidol yn ddiffygiol. Ysgrifennwch at y darparwr cyllid / cerdyn credyd neu anfonwch e-bost gyda manylion eich cwyn. Mae'r canllaw 'Cyflenwi cynnwys digidol: eich hawliau ddefnyddwyr'  yn rhoi mwy o wybodaeth
  • ·       os ydych yn defnyddio cerdyn debyd i brynu'r cynnwys digidol neu os ydych yn defnyddio cerdyn credyd a bod pris y cynnwys yn llai na £100 (ni fyddai eich hawliau o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 yn berthnasol) efallai y byddwch yn gallu manteisio ar y cynllun 'Chargeback'. Chargeback yw'r term a ddefnyddir gan ddarparwyr cardiau am adennill taliad cerdyn gan fanc y masnachwr. Os gallwch ddarparu tystiolaeth o dorri contract (ni ddarparwyd y cynnwys, er enghraifft) gallwch ofyn i ddarparwr eich cerdyn geisio adennill y taliad. Holwch eich darparwr cerdyn ynghylch sut mae rheolau'r cynllun yn berthnasol i'ch cerdyn, a yw trafodion y rhyngrwyd wedi'u cynnwys a beth yw'r terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad
  • ·       os gwnewch gontract oherwydd bod masnachwr wedi eich camarwain neu wedi defnyddio ymarfer masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau i chi wneud iawn: yr hawl i ddadflino'r contract, yr hawl i ostyngiad a'r hawl i iawndal. Gweler y canllaw 'Yn camarwain y rhai arferion ymosodol: hawliau iawndal' am ragor o wybodaeth
  • ·       defnyddiwch ddulliau amgen o ddatrys anghydfodau fel ffordd i ddatrys eich cwyn heb fynd i'r llys. Pan fethith popeth arall, gallwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y masnachwr yn y llys. Gweler 'Meddwl am siwio yn y llys?' i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau hyn

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Credyd Defnyddwyr 1974

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Awst 2022

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2022 itsa Ltd.