Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Edrych cyn i chi rentu

Yn y canllawiau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru

Os ydych chi'n penderfynu rhentu ty, fflat neu ystafell mewn ty sy'n cael ei rannu, gallwch ddefnyddio gwasanaethau asiant gosod tai, sy'n gweithredu ar ran landlordiaid eiddo. Rôl yr asiant gosod tai yw dod o hyd i denant addas ar gyfer eiddo'r cleient. Maent yn ymdrin, ymhlith pethau eraill, â'r cytundeb tenantiaeth, taliadau rhent, taliadau eraill ac unrhyw atgyweiriadau i'r eiddo. Er bod y cytundeb tenantiaeth rhyngoch chi a'r landlord, rhaid i'r asiant gosod eich trin yn deg ac yn onest.

Ni chaiff landlord neu asiant gosod ei gwneud yn ofynnol i chi, rhywun sy'n gweithredu ar eich rhan neu fel eich gwarantwr wneud rhai taliadau gwaharddedig mewn cysylltiad â thenantiaeth.

Rhaid i landlordiaid preifat yng Nghymru fod wedi cofrestru'n gyfreithiol gyda Rhentu Doeth Cymru ac os ydyn nhw'n rheoli eu heiddo eu hunain mae'n rhaid iddyn nhw gael trwydded gan Rent Smart Wales. Rhaid i asiantau gosod hefyd gael trwydded. Gallwch wirio a yw landlord wedi'i gofrestru ac a yw'r person sy'n gosod ac yn rheoli'r eiddo wedi'i drwyddedu trwy wirio'r gofrestr gyhoeddus.

Y gyfraith

Er bod y cytundeb tenantiaeth rhyngoch chi a'r landlord, mae'r asiant gosod tai yn darparu gwasanaeth i chi ac mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn gymwys. Mae'r Ddeddf hon yn nodi'r hyn y mae gennych hawl i'w ddisgwyl o bob contract sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaeth, megis gwasanaeth asiant gosod tai.

Yr hawliau allweddol yw:

  • mae'n rhaid i'r gwasanaeth gael ei gyflawni gyda gofal a sgil rhesymol. Mae'n rhaid i asiant gosod tai gyflawni'r gwasanaeth i'r un safon â'r hyn a ystyrir yn dderbyniol i asiantiaid gosod
  • mae gwybodaeth am fasnachwr neu wasanaeth yn rhwymol yn gyfreithiol. Mae unrhyw beth sy'n cael ei ddweud neu ei ysgrifennu gan asiant gosod (neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran) am y gwasanaeth asiantaethau gosod yn ffurfio rhan o'r contract os ydych chi'n ystyried y wybodaeth cyn i chi gytuno ar y contract neu os ydych chi'n gwneud penderfyniad am y gwasanaeth ar ôl i'r contract gael ei wneud
  • pris rhesymol i'w dalu am wasanaeth. Dim ond am y gwasanaeth y mae asiant gosod yn ei roi y mae'n ofynnol i chi dalu pris 'rhesymol' oni bai fod y pris (neu'r ffordd y caiff y pris ei weithio allan) wedi'i bennu fel rhan o'r contract
  • rhaid cynnal y gwasanaeth o fewn amser rhesymol. Weithiau bydd y contract yn pennu'r amser y mae'n rhaid cwblhau gwasanaeth asiantaeth gosod eiddo. Os nad yw'r amser wedi'i bennu, yna mae'n rhaid cwblhau'r gwasanaeth 'o fewn amser rhesymol'

Y rhwymedi allweddol yw:

  • yr hawl i ailadrodd perfformiad. Os ydych yn anfodlon â gwasanaeth yr asiant gosod tai am nad yw wedi'i gyflawni â gofal a sgil rhesymol, neu os nad yw'r asiant gosod tai wedi darparu'r gwasanaeth yn unol â'r wybodaeth a roddwyd i chi ymlaen llaw, yna rhaid iddynt gyflawni'r gwasanaeth eto. Dylid gwneud hyn o fewn amser rhesymol, heb unrhyw anghyfleustra sylweddol ac ni fydd yn costio dim i chi
  • hawl i ostyngiad mewn pris. Os bydd perfformiad ailadroddus o wasanaeth yr asiant gosod tai yn methu â datrys y broblem (efallai ei fod yn amhosibl neu na ellir ei gyflawni o fewn amser rhesymol neu heb achosi anghyfleustra sylweddol i chi) yna mae gennych hawl i ostyngiad mewn pris, sy'n yn gallu bod cymaint ag ad-daliad llawn

Gweler ein canllaw 'Cyflenwi gwasanaethau: eich hawliau defnyddwyr' am fwy o wybodaeth.

O dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 mae gan asiantau gosod ddyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd sy'n ymwneud â gwaith asiantaethau gosod neu waith rheoli eiddo. Rhaid i restr o'r ffioedd gael ei harddangos yn amlwg ym mhob un o adeiladau busnes yr asiant gosod tai ac ar eu gwefan, os oes ganddynt un. Rhaid i'r rhestr ffioedd gynnwys:

  • disgrifiad clir a dealladwy o bob ffi
  • yn achos ffi y mae tenant yn atebol i'w thalu, nodi a yw'r ffi yn ymwneud â phob eiddo neu â phob tenant o dan denantiaeth o fewn eiddo
  • swm pob ffi (gan gynnwys unrhyw drethi). Os na ellir cyfrifo'r ffi ymlaen llaw, dylid cael disgrifiad o sut y cyfrifir y ffi

Mae'r gofyniad i arddangos manylion ffioedd perthnasol ac aelodaeth o gynlluniau gwneud iawn a diogelu arian cleientiaid hefyd yn ymestyn i wefannau trydydd parti sy'n hysbysebu eiddo i'w osod.

Rhaid i asiantau gosod fod yn aelod o gynllun gwneud iawn asiantaeth osod cymeradwy. Mae'r cynlluniau hyn yn darparu gwasanaeth datrys anghydfod annibynnol ac am ddim i asiantau gosod, landlordiaid a thenantiaid. Y cynlluniau gwneud iawn yw'r Ombwdsmon Eiddo a'r Cynllun Gwneud Iawn am Eiddo. Yn ogystal, mae angen yswiriant indemniad proffesiynol ar bob asiant gosod ac, os ydynt yn trin arian cleientiaid, mae angen amddiffyniad arian cleientiaid arnynt.

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 hefyd yn ymdrin â thermau annheg ym mhob contract defnyddwyr (contractau rhwng masnachwr a defnyddiwr), gan gynnwys contractau ar gyfer darparu gwasanaethau asiantaethau gosod, p'un a ydynt yn rhai ysgrifenedig ai peidio. Mae hefyd yn cynnwys hysbysiadau os ydynt yn 'hysbysiadau defnyddwyr', sy'n golygu eu bod yn pennu hawliau neu rwymedigaethau rhyngoch chi a masnachwr, neu'n ceisio gwadu neu gyfyngu ar gyfrifoldeb masnachwr i chi.

Rhaid i fasnachwyr ddrafftio a chyflwyno eu contractau a'u hysbysiadau i chi mewn ffordd sy'n deg ac yn agored, ac sy'n parchu eich buddiannau cyfreithlon. Dylai termau a hysbysiadau fod yn dryloyw; dylai'r geiriad a ddefnyddir fod yn un plaen (dim jargon cyfreithiol), a gellir ei ddeall a'i ddarllen. Ni ddylid eu cynllunio i'ch twyllo neu i'ch caethiwo ac mae'n rhaid i unrhyw dermau sy'n bwysig (oherwydd efallai eu bod yn eich rhoi o dan anfantais) fod yn amlwg.

Nid ydych wedi'ch rhwymo'n gyfreithiol gan derm contract annheg neu hysbysiad gan ddefnyddiwr ac mae gennych hawl i'w herio, yn y llys os oes angen.

Mae'r canllaw ' Telerau annheg mewn contractau defnyddwyr a hysbysiadau' yn rhoi mwy o wybodaeth.

Os ydych yn 'denant sicr' (sydd, i'r rhan fwyaf o denantiaid sicr, yn golygu eich bod yn talu rhent i landlord preifat nad yw'n byw yn yr un adeilad, gwnaethoch symud i mewn rhwng 15 Ionawr 1989 a 27 Chwefror 1997, a chi sy'n rheoli pwy sy'n mynd i'r eiddo) mae Rheoliadau Amddiffyn Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn eich amddiffyn rhag arferion camarweiniol neu ymosodol ac yn rhoi hawliau i chi wneud iawn: yr hawl i ddad-ddirwyn contract, yr hawl i gael disgownt a'r hawl i iawndal. Mae'r hawliau hyn yn ychwanegol at yr hawliau sydd gennych eisoes o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mae mwy o wybodaeth yn y canllaw ' Arferion camarweiniol ac ymosodol: hawliau i wneud iawn ' .

Ffioedd tenantiaid

O dan y Ddeddf Cartrefi Rhentu (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019, nid oes rhaid i chi wneud taliadau 'gwaharddedig', hynny yw, maent wedi'u gwahardd. Mae enghreifftiau o daliadau gwaharddedig fel a ganlyn:

  • ffioedd i weld eiddo
  • gwirio ffioedd i mewn / allan
  • ni all fod yn ofynnol i chi dalu ffioedd i drydydd partïon, er enghraifft pan fydd landlord neu asiant gosod yn gofyn i chi gael geirda gan wasanaeth cyfeirio trydydd parti neu dalu am wasanaeth rhestr eiddo trwy drydydd parti
  • ffioedd am sefydlu'r denantiaeth
  • ffioedd am lanhau proffesiynol ar ddiwedd y denantiaeth

Mae'r taliadau y gellir gofyn i chi eu gwneud fel a ganlyn:

  • rhent
  • adneuon diogelwch
  • blaendaliadau dal (blaendal bach wedi'i dalu i sicrhau eiddo)
  • taliadau sy'n ofynnol os bydd diffyg yn codi o dorri'r cytundeb tenantiaeth gennych chi megis talu rhent yn hwyr
  • talu treth gyngor
  • taliadau cyfleustodau (nwy, dwr, trydan, ac ati)
  • talu trwydded deledu
  • talu gwasanaethau cyfathrebu (gan gynnwys mynediad i'r rhyngrwyd, teledu cebl neu lloeren a ffôn llinell dir)

Gweler Ffioedd Gosod: Canllawiau i Denantiaid i gael mwy o wybodaeth.

Blaendaliadau dal

Efallai y gofynnir i chi wneud taliad i landlord i 'ddal' yr eiddo tra bod tystlythyrau a gwiriadau credyd yn cael eu cynnal. Gall blaendal daliad fod yn unrhyw swm, ond mae wedi'i gapio yn gyfatebol i wythnos o rent. Rhaid ei ad-dalu i chi erbyn y dyddiad cau ar gyfer cytuno, sy'n golygu cyn pen 15 diwrnod calendr ar ôl talu. Fodd bynnag, gellir ei ymestyn os ydych chi a'r landlord yn cytuno'n ysgrifenedig. Os bydd y ddau ohonoch yn cytuno i ymrwymo i denantiaeth, rhaid ad-dalu'ch blaendal cyn pen saith diwrnod calendr o'r cytundeb. Os na chytunwch i ymrwymo i denantiaeth, rhaid ad-dalu'ch blaendal cyn pen saith diwrnod calendr o'r dyddiad cau ar gyfer cytuno (15 diwrnod o'r taliad, neu ddyddiad arall y cytunwyd arno yn ysgrifenedig).

Nid oes rhaid ad-dalu'r blaendal daliad:

  • rydych chi'n ei roi tuag at eich taliad cyntaf o rent neu'ch blaendal diogelwch
  • gwnaethoch ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar yr adeg y gwnaethoch gais am y denantiaeth, megis rhoi tystlythyrau ffug
  • eich bod yn dewis peidio â llunio cytundeb tenantiaeth neu'n methu â chymryd camau rhesymol

Pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth benderfynu rhentu

Cyn i chi gofrestru gydag asiant gosod tai dylech gael gwybodaeth glir am y taliadau y bydd gofyn i chi eu talu os ewch yn eich blaen (chwiliwch am y rhestr ffioedd), manylion y cytundebau tenantiaeth y maent yn eu gweithredu a'r costau rhentu nodweddiadol. Darganfyddwch beth mae'r asiant gosod yn gyfrifol amdano a'r amgylchiadau pan fydd angen i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r landlord.

Dylech ddefnyddio asiant gosod sy'n aelod o gorff proffesiynol (manylion isod) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'w aelodau gydymffurfio â chod ymarfer.

Edrychwch i weld pa gynllun gwneud iawn (manylion isod) a gymeradwyir gan y Llywodraeth sydd wedi ymuno â'r asiant gosod tai. Mae'r cynlluniau hyn yn delio â chwynion am eu haelodau a dylai roi ffordd ratach a haws i chi geisio iawndal.

Dylech bob amser siopa o gwmpas a pheidio â llofnodi cytundeb tenantiaeth hyd nes y byddwch wedi darllen, deall a bodloni'r telerau a'r amodau.

Bydd yr asiant gosod tai yn cynnal gwiriadau cyn cytuno i'ch derbyn fel tenant. Gall y rhain gynnwys gwiriadau hanes credyd, eich amgylchiadau cyflogaeth a phrawf adnabod.

Os penderfynwch fynd ymlaen â rhent, rhaid i'r landlord neu'r asiant gosod eiddo, yn ôl y gyfraith, osod y blaendal yr ydych yn ei dalu mewn Cynllun Blaendal Tenantiaeth (TDP) o fewn 30 diwrnod ar ôl i chi wneud y taliad. Mae'n rhaid i chi gael gwybod pa gynllun sydd wedi'i ddefnyddio, sut i gael eich blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth a beth yw'r broses os oes anghydfod ynghylch unrhyw ddidyniadau o'r blaendal. Os ydych yn cydymffurfio â'ch cytundeb tenantiaeth, fel gwneud y taliadau angenrheidiol a heb achosi difrod i'r eiddo, rydych yn sicr o dderbyn eich blaendal yn ôl. Rhaid dychwelyd eich blaendal i chi o fewn 10 diwrnod i ddiwedd y denantiaeth. Os byddwch yn gadael yr eiddo cyn diwedd y cyfnod tenantiaeth, efallai y byddwch yn gyfrifol am y rhent sy'n weddill am weddill y cyfnod hwnnw, ynghyd â'r rhent sy'n weddill gan y rhai a oedd yn rhentu gyda chi. Os ydych yn y sefyllfa hon cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am gyngor.

Rhaid i landlordiaid roi tystysgrif diogelwch nwy a thystysgrif perfformiad ynni i chi.

Wrth ddewis llety wedi'i ddodrefnu ar gyfer rhentu, edrychwch yn ofalus ar y dodrefn a'r cyfarpar. Gwnewch yn siwr eu bod yn cydymffurfio â'r cyfreithiau sydd yn eu lle i'ch amddiffyn rhag eitemau diffygiol sy'n gallu achosi anaf neu farwolaeth. Yn aml, bydd asiantau gosod yn ogystal â landlordiaid yn atebol os nad yw'r nwyddau a gyflenwir gyda'r denantiaeth o'r safon sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Yn gyffredinol, rhaid i ddodrefn wedi'u clustogi fod â gorchudd sy'n gwrthsefyll cynnau yn sgil prawf fflam cyfatebol, clustogwaith sy'n gwrthsefyll tân o ganlyniad i brawf sigarét sy'n mudlosgi, deunyddiau llenwi priodol a'r labelu gofynnol.

Rhaid i nwyddau trydanol a theclynnau nwy fod yn ddiogel gyda chyfarwyddiadau priodol lle bo angen. Mae'n rhaid i'r holl nwyddau a gyflenwir fod yn ddiogel a gall y rhain gynnwys gwresogyddion olew, gwresogyddion catalytig nwy, gwydro, peiriannau torri gwair, byrddau smwddio, cadeiriau ac ysgolion gris.

Gweler y canllaw 'Diogelwch cynnyrch mewn llety ar rent i denantiaid' am fwy o wybodaeth.

Mae gennyf gwyn am asiant gosod tai: Beth alla i ei wneud?

Mae nifer o lwybrau y gallwch eu cymryd i ddatrys cwyn yn erbyn asiant gosod tai.

Mae'n rhaid i bob asiant gosod tai ymuno â chynllun gwneud iawn a gymeradwyir gan y Llywodraeth ar gyfer asiantau gosod. Mae'r cynlluniau hyn yn darparu gwasanaeth di-dâl a diduedd i ddatrys anghydfodau er mwyn i landlordiaid a thenantiaid ei ddefnyddio. Dylech gwyno wrth yr asiant gosod yn y lle cyntaf ond os na chaiff eich cwyn ei datrys o fewn wyth wythnos, gallwch ddefnyddio'r cynllun y mae'r asiant gosod yn aelod ohono.

Gweithredir y cynlluniau presennol gan yr Ombwdsmon Eiddo Cyfyngedig a'r cynllun gwneud iawn am eiddo.

Os bydd landlord neu asiant gosod tai yn gofyn i chi dalu ffi waharddedig, mae gennych hawl i wrthod. Os ydych wedi talu ffi o'r fath, mae gennych hawl i'w hadennill. Os ydych am roi gwybod i landlord neu asiant gosod tai am godi ffi waharddedig, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 am atgyfeiriad i awdurdod gorfodi.

Edrychwch i weld a yw'r asiant gosod tai yn aelod o gorff proffesiynol sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelodau gydymffurfio â chod ymarfer. Os oes gennych gwyn yn erbyn un o'u haelodau, gall y corff proffesiynol ymchwilio i'r mater.

Y prif gyrff proffesiynol yw:

Os oes gennych gwyn yn erbyn landlord neu asiant gosod tai, megis ynglyn â chyflwr yr eiddo yr ydych yn ei rentu, gallwch gysylltu â tîm tai eich awdurdod lleol.

Os ydych wedi cael gwasanaeth gwael gan yr asiant gosod a'ch bod yn dymuno gwneud cais am arian, mae gennych hawl i fynd â'ch achos i'r llys. Ceir gwahanol lwybrau - y cyfeirir atynt fel 'traciau' - yn y llys sirol. Os yw eich cais am £10,000 neu lai a bod yr asiant gosod wedi'i leoli yng Nghymru neu Loegr, gellir ymdrin ag ef fel hawliad bach gan ddefnyddio 'trac hawliadau bach' y llys. Gall cymryd y llwybr hwn fod yn ffordd gymharol syml ac anffurfiol o geisio datrysiad. Os yw gwerth eich hawliad yn uwch na'r terfyn hawliadau bach o £10,000, efallai y bydd eich cais yn cael ei ddyrannu i'r llwybr carlam neu'r llwybr aml-drac. Yn yr achos hwn, dylech ofyn am gyngor cyfreithiwr oherwydd mae'n debygol y bydd angen cynrychiolaeth arnoch yn y llys. Mae'r canllaw 'Meddwl siwio yn y llys? ' yn rhoi mwy o wybodaeth.

Cyswllt defnyddiol

Shelter Cymru
25 Ffordd Walter

Abertawe

SA1 5NN

Ffôn: 0808 800 4444

Deddfwriaeth allweddol

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Chwefror 2021

 

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.