Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Cystadleuaeth nwy a thrydan - gwybodaeth i ddefnyddwyr

Yn y canllawiau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Gallech arbed arian drwy newid prisiau neu gyflenwyr ynni ond gall cymharu cyflenwyr a dewis y fargen iawn fod yn ddryslyd.

Gall cyflenwyr ynni gynnig amrywiaeth o dariffau gwahanol i'ch nwy a'ch trydan. Gwiriwch pa dariff sy'n gweddu i'ch amgylchiadau, yna cymharwch y tariffau rhwng cyflenwyr. Darganfyddwch pa wasanaethau mae'r cyflenwr ynni yn eu darparu a pha ostyngiadau allai fod ar gael i chi.

Mae gennych hawliau a rhwymedïau o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 gan fod y cyflenwr ynni yn darparu gwasanaeth i chi.

Y gyfraith

Pan fydd cyflenwr ynni yn cytuno i roi nwy a/neu drydan i chi mae'r ddau ohonoch yn gwneud contract cyfreithiol rwymol sy'n dod o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mae'r ddeddf hon yn nodi'r hyn y mae gennych hawl i'w ddisgwyl o bob contract sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaeth, megis cyflenwi nwy a thrydan. Mae'r canllaw 'Cyflenwi gwasanaethau: eich hawliau fel defnyddiwr' yn rhoi mwy o wybodaeth.

Mae'n rhaid i gyflenwyr ynni gydymffurfio â Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 pan fyddant yn contractio i ddarparu ynni oddi ar y safle (megis yn eich cartref) neu o bell a heb gyswllt wyneb yn wyneb (megis fel ar-lein). Mae gennych hawl i ganslo'r rhan fwyaf o gontractau oddi ar y safle a chontractau o bell a'r cyfnod canslo yw 14 diwrnod. Mae'r canllawiau 'Prynu o'r cartref: egluro contractau oddi ar y safle' a 'Phrynu trwy'r rhyngrwyd, ffôn ac archebu drwy'r post: egluro contractau o bell' yn rhoi mwy o wybodaeth.

Os byddwch yn ymrwymo i gontract am fod cyflenwr ynni wedi'ch camarwain neu am eu bod wedi defnyddio arfer masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau i chi unioni'r cam: yr hawl i ddirwyn y contract i ben, yr hawl i disgownt a'r hawl i iawndal. Gweler y canllaw 'Ymarferion camarweiniol ac ymosodol: eich hawl i iawn' i gael rhagor o wybodaeth.

Dewis cyflenwr

Mae'r pris a godir am nwy a thrydan yn amrywio rhwng cyflenwyr ynni. Gallant gynnig amrywiaeth o dariffau a chontractau nwy a thrydan gwahanol i chi sy'n rhoi dewis i chi o ran sut yr ydych yn rheoli ac yn talu am eich nwy a'ch trydan. Er mwyn ei gwneud yn haws i chi ddeall eich bil, dim ond un strwythur gwefru sydd wedi'i ffurfio o dâl sefydlog a phrisiau uned y nwy a'r trydan. Dylech gael cymaint o wybodaeth â phosibl ar y gwahanol gyflenwyr ynni a'u cynhyrchion cyn newid. Cofiwch, os bydd un cyflenwr ynni yn torri/cynyddu ei brisiau, gall y lleill ddilyn. Arhoswch nes bod y prisiau'n sefydlogi cyn mynd ymlaen.

Mae'n bwysig eich bod yn cyfrifo faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd a faint rydych yn ei dalu amdano. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw gymariaethau a wnewch rhwng tariffau, gwasanaethau a chontractau yn gywir. Bydd y dull a ddefnyddiwch i dalu am eich nwy a thrydan (fel mewn debyd uniongyrchol, rhagdaliad neu ddull talu arall) hefyd yn ystyriaeth ariannol. Gallwch wirio eich datganiad ar-lein, eich datganiad blynyddol (os ydych yn dal i dderbyn copi papur) neu ofyn i'ch cyflenwr presennol eich helpu i'w weithio allan. Yna gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i gymharu cyflenwyr neu i weld a all eich cyflenwr presennol gynnig bargen ratach.

Mae gwefannau cymharu prisiau a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i fargen well. Fe'ch cynghorir i ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau sydd wedi'u hachredu gan Ofgem (rheoleiddiwr nwy a thrydan y DU) ac sy'n cydymffurfio â chod ymarfer Ofgem, sef y Cod Hyder. Mae'r Cod Hyder yn nodi'r rheolau y mae'n rhaid i aelodau gwefannau cymharu prisiau lynu wrthynt, megis eich helpu i ddod o hyd i'r fargen orau, darparu gwasanaeth switsio sy'n hawdd i'w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim, gan roi gwybodaeth gynhwysfawr am bob tariff a darparu gwybodaeth am unrhyw ostyngiadau sydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ofgem

Gallwch hefyd gael cyngor a gwybodaeth am newid eich cyflenwr o wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Tariffau ynni a disgowntiau

Mae tariffau a gynigir gan gyflenwyr ynni yn ystyried y math o fesurydd sydd gennych (safonol neu flaendaliad) a gall gynnwys:

  • tariff newidiol safonol
  • tariffau gwyrdd; cefnogi cynlluniau amgylcheddol
  • pris penodedig; gwarantu'r pris uned a dalwch am eich egni am amser penodedig
  • tariffau economi 7 ac economi 10; rydych chi'n talu cyfraddau trydan gwahanol yn dibynnu ar yr amser o'r dydd
  • tariff wedi'i gapio; gwarantu na fydd pris yr uned am eich egni yn codi uwchben lefel benodol am amser penodedig
  • tariff bwydo i mewn; os byddwch yn cynhyrchu eich trydan eich hun (drwy gael paneli solar wedi'u gosod er enghraifft) byddwch ar dariff bwydo i mewn lle cewch eich talu gan eich cyflenwr ynni ar gyfer y trydan a gynhyrchwyd gennych

Gall eich cyflenwr ynni hefyd gynnig disgownt am gyfrif tanwydd deuol (gallwch gael eich nwy a'ch trydan gan yr un cyflenwr) neu reoli eich cyfrif ar-lein.

Beth ddylwn i ei ofyn cyn cytuno i newid

Elfen bwysig o gontract yw bod yn rhaid i'r cyflenwr ynni roi gwybodaeth cyn cysylltu penodol i chi fel y nodir yn Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013. Mae'r canllawiau 'Prynu o eiddo busnes: contractau ar y safle wedi'u egluro ', 'Prynu drwy'r rhyngrwyd, ffôn ac archebu drwy'r post: egluro contractau o bell' a 'Prynu o'r cartref: contractau oddi ar y safle wedi'u egluro'  yn esbonio beth yw'r gofynion cyn-gontract hyn. Os nad yw cyflenwr ynni yn darparu'r wybodaeth ofynnol, gallwch wneud cais i gael eich costau (os oes rhai) wedi'u had-dalu. Gofynnwch i'ch darpar gyflenwr newydd fynd drwy brif bwyntiau'r contract cyn i chi lofnodi.

Y broses o newid cyflenwr

Gallwch newid drwy wefan cymharu neu drwy gysylltu â'r darparwr newydd rydych chi'n ei ffafrio yn uniongyrchol.

Mae'r broses drosglwyddo, a drefnir gan eich cyflenwr newydd, yn cymryd tua 17 diwrnod fel arfer ond ni ddylai gymryd mwy na 21 diwrnod o'r dyddiad y bydd y cyflenwr newydd yn derbyn eich cais wedi'i gwblhau. Bydd eich cyflenwr newydd yn dweud wrth eich cyflenwr presennol eich bod yn gadael. Bydd angen i chi roi darlleniadau o'ch mesurydd: cadwch nodyn o'r darlleniadau hyn i chi eich hun. Mae gan eich cyflenwr presennol yr hawl i wrthwynebu trosglwyddiad (os ydych mewn dyled gyda nhw, er enghraifft). Holwch am y trefniadau ar gyfer talu dyledion sy'n weddill.

Fydda i'n gallu newid fy meddwl ar ôl i mi gytuno ar gontract?

Mae Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 yn rhoi hawl i chi ganslo'r rhan fwyaf o gontractau ' oddi ar y safle ' (a wneir ar garreg eich drws, gartref neu yn eich lle gwaith, er enghraifft) a chontractau ' o bell ' (a wneir heb cyswllt wyneb yn wyneb â'r cyflenwr, megis drwy'r rhyngrwyd neu dros y ffôn neu drwy e-bost). Mae hyn yn cynnwys contractau ynni.

Bydd eich cyflenwr newydd yn anfon manylion eich cytundeb newydd atoch, ac yna bydd gennych gyfnod canslo o 14 diwrnod ac yn ystod y cyfnod hwnnw gallwch newid eich meddwl. Os ydych chi'n penderfynu canslo, byddwch yn aros gyda'ch cyflenwr presennol.

Mae'r canllawiau ' prynu yn y cartref: contractau oddi ar y safle ' a ' phrynu ar y rhyngrwyd, ffôn ac archebu drwy'r post: egluro contractau o bell ' yn rhoi mwy o wybodaeth.

Codi tâl dwbl

Dylai eich cyflenwyr presennol a newydd weithio gyda'i gilydd; fodd bynnag, nid yw'r broses o newid yn rhedeg yn esmwyth bob amser. Gwyliwch allan am orgyffwrdd lle mae eich hen gyflenwr yn parhau i godi tâl arnoch chi pan fydd cyflenwr newydd wedi cymryd drosodd eich cyflenwad. Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch ei ddatrys yn uniongyrchol gyda'r cyflenwr sydd wedi eich codi'n anghywir. Rhowch fanylion y contract a'r dyddiad cychwyn i'r cyflenwr newydd a sicrhewch eich bod yn cael y darlleniad terfynol ar eich mesurydd, fel y cytunwyd gyda'r cyflenwr newydd.

Gweler yr adran ' beth alla i ei wneud os oes gen i gwyn? ' i gael manylion am bwy y gallwch gwyno iddynt.

Cap ar brisiau ynni

Mae capiau prisiau ynni yn eu lle i'ch amddiffyn rhag gorgodi, ond nid ydynt yn berthnasol i bob tariff ynni. Mae pris y tariff wedi'i gapio os:

  • ydych yn defnyddio mesurydd rhagdalu
  • ydych yn derbyn disgownt cartref cynnes y Llywodraeth
  • eich bod ar dariff ynni newidiol safonol neu dariff ' diofyn ' (un nad ydych wedi'i ddewis)

Os ydych yn gymwys i gael cap ar brisiau, bydd y cyflenwr yn ei ddefnyddio'n awtomatig.

Cam-werthu ynni

Mae'n ofynnol i bob cyflenwr ynni fodloni safonau a bennwyd gan Ofgem sy'n ymdrin â sut mae nwy a thrydan yn cael ei werthu i chi.

Gall y cyflenwr ynni neu ei gynrychiolydd fethu â chyflawni ei rwymedigaethau; efallai y byddwch wedi dioddef gwerthu pwysedd uchel, wedi'ch camarwain dros nodweddion gwasanaeth penodol, wedi cael gwybodaeth anwir am arbedion posibl, pe bai eich contract wedi pallu neu wedi symud ymlaen heb eich caniatâd. Efallai mai dim ond pan fyddwch yn cael llythyr ' croeso ' neu gopi o gontract gan gyflenwr newydd y byddwch yn ymwybodol o hyn. Mae gennych yr hawl i gwyno. Mae'r adran ' beth alla i ei wneud os oes gennyf gwyn? ' yn rhoi manylion am bwy y gallwch gwyno iddynt.

Mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn gwahardd arferion masnachol sy'n annheg i ddefnyddwyr. Os bydd cyflenwr ynni yn eich camarwain neu'n cymryd rhan mewn ymarfer masnachol ymosodol a'ch bod yn gwneud penderfyniad i wneud contract na fyddech wedi'i wneud fel arall, gall y cyflenwr fod yn torri'r Rheoliadau.

Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr wedi symud i ffwrdd o werthu ar garreg y drws fel dull o ddarbwyllo defnyddwyr i newid, gan eu bod yn cydnabod nad yw defnyddwyr yn hoffi cael eu rhoi dan bwysau ar stepen y drws.

Os ydych wedi cael eich trosglwyddo drwy gamgymeriad neu heb eich caniatâd, gallwch newid yn ôl. Os bydd trosglwyddiad gwallus, gallwch gysylltu naill ai â'r hen gyflenwr neu'r un newydd i gwyno. O fewn pum diwrnod gwaith, dylech gael gwybodaeth glir am y camau a fydd yn cael eu cymryd i ddatrys y mater ac, os byddwch yn gofyn amdano, manylion y trefniadau iawndal. O fewn 20 diwrnod gwaith, dylech gael gwybod eich bod yn cael eich anfon yn ôl at eich hen gyflenwr. Mae'r rheolau hyn yn rhan o'r ' siarter trosglwyddo gwallus i gwsmeriaid ' y mae'n rhaid i gyflenwyr ei dilyn.

Beth alla i ei wneud os oes gen i gwyn?

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni i roi cyfle iddo ddatrys eich cwyn. Edrychwch ar eich bil neu ewch i wefan y cyflenwr ynni i gael manylion am ble i gyfeirio eich cwyn.

Os na chaiff y gwyn ei datrys o fewn chwech i wyth wythnos neu os byddwch yn derbyn llythyr anghytundeb llwyr, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Ynni. Mae'r sefydliad hwn wedi'i gymeradwyo gan Ofgem i ymdrin â chwynion defnyddwyr am filiau ynni, camwerthu, problemau gyda chyflenwad ynni a phroblemau gyda newid cyflenwr. Mae'r gwasanaeth yn annibynnol ac yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr.

Os ydych wedi cael eich camarwain neu fod y cyflenwr ynni wedi ymddwyn yn ymosodol, adrodd eich cwyn wrth wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Cystadleuaeth nwy a thrydan: rhestr wirio defnyddwyr

  • byddwch yn ofalus rhag galwyr ffug - gofynnwch am fanylion adnabod a'u gwirio bob tro. Os ydych yn ansicr peidiwch â agor y drws
  • os gofynnir i chi lofnodi unrhyw ddogfen, megis ffurflen gyflwyno neu ffurflen prawf o ymweliad, gwiriwch nad yw'n gytundeb. Os oes gennych unrhyw amheuon, peidiwch â llofnodi
  • os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, fel mesurydd rhagdalu neu drefniadau talu biliau, gofalwch fod y cyflenwr yn gallu darparu ar eich cyfer. Ni chaniateir i'r cyflenwr wrthod eich busnes ar y sail bod gennych ofynion arbennig
  • faint fydd cost y nwy neu'r trydan? Os ydych yn edrych ar dablau cymharu prisiau, gwiriwch fod yr un lefel o wasanaeth ar gael
  • gwiriwch i weld a oes rhaid i chi dalu ffi ymadael i'ch cyflenwr er mwyn gadael eich contract cyfnod penodol
  • pa mor hir yw'r contract? A fyddwch yn cael eich clymu i'r cyflenwr hwnnw am nifer o flynyddoedd? Beth am gostau canslo?
  • a oes unrhyw daliadau sefydlog? Os felly, i ba raddau?
  • pa opsiynau talu sydd yno?
  • pa mor aml y byddwch yn cael bil neu ddatganiad?
  • pa wasanaethau eraill sydd ar gael? A oes unrhyw fesurau arbed ynni a allai leihau'r bil?
  • byddwch yn ymwybodol y gallwch newid cyflenwyr os oes gennych fesurydd 'smart' ond efallai na fydd eich cyflenwr newydd yn cynnig yr holl wasanaethau mesuryddion smart, fel darlleniadau mesuryddion pell
  • a oes unrhyw gytundebau tanwydd deuol a allai leihau'r bil?
  • pa gymorth y gall y cyflenwr ei roi i drwsio neu wasanaethu eich boeler, nwy neu gyfarpar trydan?
  • pa gymorth all y cyflenwr ei gynnig os ydych chi'n cael trafferth talu eich biliau?
  • cymerwch ddarlleniad mesurydd ar y dyddiad trosglwyddo a bennwyd i sicrhau na chodir tâl arnoch ddwywaith am yr un tanwydd
  • os ydych chi'n talu trwy ddebyd uniongyrchol, gwnewch yn siwr nad ydych chi'n ei ganslo cyn i chi dalu'ch bil terfynol neu dderbyn ad-daliad credyd
  • gall cynrychiolwyr gwerthiant fod yn ddarbwyllol iawn felly byddwch yn ofalus. Peidiwch ag ymrwymo eich hun nes eich bod yn gwbl fodlon bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch a pheidiwch byth llofnodi dogfen nes eich bod wedi darllen y print mân

Deddfwriaeth allweddol

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2020

 

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.