Cyngor Sir Ynys Môn

Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld ag ysgolion cynradd newydd Môn

Ddoe (Dydd Llun, 15 Gorffennaf) fe ymwelodd Ysgrifennydd Cabinet Addysg Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle AS, â dwy ysgol gynradd newydd Ynys Môn.

Daeth disgyblion, staff a gwesteion ynghyd yn Ysgol Corn Hir, Llangefni, ac Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch i estyn croeso a phlannu coeden i nodi’r ymweliad.

Agorodd Ysgol Corn Hir ei drysau’r llynedd gyda nawdd gan Gyngor Sir Ynys Môn a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Agorwyd Ysgol Santes Dwynwen, sydd gan ddyluniad unigryw yn seiliedig ar safle hanesyddol Llys Rhosyr y tu allan i bentref Niwbwrch, yn ôl yn 2019.

Dywedodd deilydd portffolio Addysg a’r Gymraeg Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Dafydd Roberts, "Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma i Ynys Môn er mwyn iddi gael gweld sut yr ydym wedi gwneud defnydd da o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu prosiectau addysg newydd a chyffrous.”

Ychwanegodd, “Rydym wedi buddsoddi’r arian mewn ysgolion newydd addas i’r diben, yn y llefydd cywir, sy’n cwrdd ag anghenion disgyblion ac sy’n cynnig adnodd i gymunedau. Mae Ysgol Corn Hir ac Ysgol Santes Dwynwen yn enghreifftiau gwych o’r hyn y gellir ei gyflawni. Mae’r ddwy ysgol yn cynnig seilwaith ac adnoddau newydd, ac yn bwysicach fyth ffordd o sicrhau’r addysg orau mewn amgylchedd gwych i genedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, "Mae’n wych cael gweld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi elwa cymunedau ar Ynys Môn drwy adeiladau ysgol newydd. Law yn llaw ag addysgu gwych a dysgu, gall y cyfleusterau yma, sydd o'r radd flaenaf, helpu sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau posib."

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae agenda moderneiddio ysgolion Cyngor Sir Ynys Môn wedi canolbwyntio ar y sector addysg gynradd ac mae pedwar prif brosiect wedi cael ei gwblhau hyd yma:

  • Ysgol Rhyd-y-Llan, Llanfaethlu
  • Ysgol Cybi, Caergybi
  • Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch
  • Ysgol Corn Hir, Llangefni

Mae prosiect hefyd ar y gweill i godi estyniad yn Ysgol y Graig, Llangefni, a fydd wedi ei gwblhau erbyn mis Medi 2024.

Unwaith y bydd y prosiect hwn wedi cael ei gwblhau, bydd y cyngor sir wedi buddsoddi £42.5m i agor pum ysgol newydd sbon mewn pedair ardal (yn cynnwys ei ysgol carbon sero net gyntaf yn Ysgol y Graig), uwchraddio ac ehangu dwy ysgol a chau 12 o ysgolion bach.

Mae hyn yn golygu bod oddeutu 20% o ddisgyblion ar Ynys Môn bellach yn cael eu dysgu mewn amgylcheddau wedi'u cynllunio i gwrdd ag anghenion y dirwedd addysg fodern.

Diwedd 16 Gorffennaf 2024