Cyngor Sir Ynys Môn

Ynys Môn yn penodi ei brif weithredwr newydd

Cafodd Dylan Williams ei benodi’n unfrydol fel prif weithredwr newydd Ynys Môn yn ystod cyfarfod o’r Cyngor Llawn heddiw (21 Rhagfyr). Bydd yn olynu Annwen Morgan, sydd yn ymddeol ym mis Mawrth.

Yn frodor o’r Ynys, ymunodd gyda’r Cyngor ym 1996, cyn derbyn y rôl o ddirprwy brif weithredwr ym mis Hydref 2019.

Dywedodd Dylan Williams, “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi ac yn edrych ymlaen at gychwyn fy rôl newydd ym mis Mawrth, er yr heriau a’r ansicrwydd parhaus. Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i weithio ochr yn ochr ag Annwen, cydweithwyr a phartneriaid er mwyn cynnal gwasanaethau ac amddiffyn iechyd a lles trigolion yr ynys.”

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Hoffwn longyfarch Dylan ar ei apwyntiad. Mae o wedi gweithio’n agos gydag Annwen yn ystod cyfnod y pandemig, ac maent wedi profi’n bartneriaeth sydd wedi gweithio’n ddygn ac yn effeithiol. Hoffwn hefyd ddiolch i Annwen am ei gwasanaeth yn ystod ei hamser fel prif weithredwr a dymuno’n dda iddi wrth iddi ymddeol yn y flwyddyn newydd.”

Diwedd 21 Rhagfyr 2021