Cyngor Sir Ynys Môn

Ynys Môn yn croesawu Balchder Gogledd Cymru

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o groesawu Balchder Gogledd Cymru i'r ardal am y tro cyntaf. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Llangefni ddydd Sadwrn, 20 Gorffennaf 2024.

Mae'r dathliadau'n dechrau am hanner dydd gyda stondinau a gweithgareddau i'r teulu yn Neuadd y Dref, a gorymdaith i ddilyn o faes parcio Nant y Pandy. Bydd barddoniaeth yn cael ei ddarllen a pharti swyddogol yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref a Gwesty'r Bull.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard, “Rydym yn falch iawn o gael ein dewis fel lleoliad Balchder Gogledd Cymru eleni. Mae’r achlysur cynhwysol hwn yn dathlu amrywiaeth - gan gynnwys amrywiaeth ein cymunedau ni. Mae'n bwysig bod aelodau o gymunedau gwledig fel Ynys Môn yn cael cyfle i gymryd rhan. Dymunwn yn dda i'r trefnwyr a'r cyfranogwyr.”

Sefydlwyd Balchder Gogledd Cymru yn 2011 i greu cyfle i ardaloedd gwledig ddod at ei gilydd i ddathlu a chefnogi'r gymuned LHDTC+. Mae'r cyngor sir yn nodi'r digwyddiad trwy chwifio baner yr enfys y tu allan i'w brif swyddfa yn Llangefni.

Ychwanegodd Prif Weithredwr cyngor Môn, Dylan J Williams, “Gweledigaeth ein cyngor yw creu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu. Cefnogwn nod Balchder Gogledd Cymru o leihau unigedd cymdeithasol trwy gynnig cyfle i bob aelod o'n cymunedau gwledig ffynnu. Bydd trigolion, p'un a ydyn nhw'n rhan o’r gymuned LHDTC+ ai peidio, yn gallu cymryd rhan yn y digwyddiad yn Llangefni.”

Cewch ragor o wybodaeth am y digwyddiad Balchder yma: https://www.northwalespride.wales/

Diwedd 17 Gorffennaf 2024