Cyngor Sir Ynys Môn

Tanysgrifio i wasanaeth casglu gwastraff gwyrdd 2023/24 bellach ar agor

Gall trigolion Ynys Môn bellach danysgrifio ar-lein ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd 2023/24.

Mae dros 15,000 o gartrefi ledled yr Ynys wedi tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth yng 2022/23.

Er mwyn sicrhau bod y pecyn casglu gwastraff gwyrdd a’r sticer yn cyrraedd mewn pryd (cyn 1 Ebrill), mae trigolion yn cael eu hannog i gofrestru ar-lein cyn Chwefror 28ain, 2023.

Mae’r ffi flynyddol o £35 yn rhoi’r hawl i gartrefi dderbyn 26 casgliad o’u biniau gwyrdd gwastraff gardd 240 litr. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn codi ffi am y gwasanaeth hwn.

Eglurodd Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff, Huw Percy, “Mae y nifer sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth gwastraff gwyrdd yng 2022/23 yn dda ac rydym yn ddiolchgar i drigolion am eu cefnogaeth barhaus i’n hymdrechion ailgylchu.”

“Rydym unwaith eto’n annog trigolion Ynys Môn sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd i danysgrifio cyn gynted â phosibl.”

Bydd casglu gwastraff gardd yn helpu Ynys Môn i gyflawni targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o’i wastraff erbyn 2025.

Ychwanegodd Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Môn, y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, “Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â thrigolion Ynys Môn er mwyn gwella ein cyfraddau ailgylchu.”

“Mae ailgylchu yn chwarae rhan hanfodol pan ddaw hi at leihau ein ôl-troed carbon a gofalu am ein hynys ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Gall y rhai hynny nad ydynt yn dymuno talu am y gwasanaeth fynd â’u gwastraff i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref Penhesgyn neu Gwalchmai am ddim neu gallant barhau i gompostio gwastraff gwyrdd eu hunain.

Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at Gwyrdd@ynysmon.llyw.cymru neu dilynwch dudalen Facebook ein Tîm Rheoli Gwastraff ‘Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff’.

Diwedd 12.12.22