Mae Oriel Môn yn falch o gynnal arddangosfa hyfryd gan Sian McGill, artist sydd wedi’i lleoli yn Abertawe, ar y 10fed o Awst.
Ganwyd Sian ar Ddydd Gŵyl Dewi ym 1973 ym Mhont-y-pŵl, de Cymru. Ar ôl llwyddo i gael gradd Saesneg o Brifysgol Abertawe, dychwelodd i’w chariad tuag at gelf gan dreulio amser yn peintio ac yn magu teulu ifanc. Cyn bo hir, roedd ganddi awch am beintio, rhywbeth sydd bellach yn swydd amser llawn. Mae hi’n arddangos ei gwaith mewn galerïau ledled Cymru a Lloegr a dewiswyd darnau o’i gwaith ar gyfer yr Academi Frenhinol Gymreig.
Daw ysbrydoliaeth Sian yn syth o’r mannau hynny y mae hi wrth ei bodd yn treulio ei hamser ynddynt – yn yr awyr agored yn mwynhau arfordir a mynyddoedd Cymru. Eglurodd “Mae’r lluniau yn ymateb i’r tirlun, yn ymgais i ddal profiad ac egni y lle – sut mae’n teimlo i fod yno ar y pryd”.
Yn beintiwr mynegiannol a greddfol, mae hi’n gweithio’n bennaf â chyllell balet ond hefyd yn peintio â brwshys neu fysedd neu be bynnag sydd fwyaf addas er mwyn creu’r effaith a ddymunir. Mae hi’n mwynhau arbrofi â gwneud marciau, lliw a gwead er mwyn creu amrywiaeth o wahanol effeithiau sy’n aml iawn yn arwain at raddau o luniau anrhagweladwy sy’n galluogi’r lluniau i ymddangos ar eu pen eu hunain, bron iawn.
Nododd Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Oriel Môn: “Rydym wedi bod yn edrych ymlaen at gael arddangos gwaith Sian ers peth amser bellach. Er ei bod wedi’i lleoli yn ne Cymru mae’r rhan fwyaf o’r tirluniau sy’n cael eu harddangos yn olygfeydd lleol a fydd yn gyfarwydd iawn i lawer o bobl. Mae hi’n wybodus iawn o’i chyfrwng, mae ei gwaith yn dangos gwir ryddid wrth iddi drafod y paent ar y cynfas mewn modd digymell”.
Gellir gweld arddangosfa Sian tan yr 22ain o Fedi. Bydd croeso cynnes i bawb yn ystod lansiad yr arddangosfa rhwng hanner dydd a 2:00pm ar y 10fed o Awst. Mae Oriel Môn ar agor bob dydd rhwng 10am a 5pm ac mae mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01248 724444 neu ewch i www.orielynysmon.info
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Nicola Gibson, Rheolwr Profiadau Ymwelwyr
01248 752014 / NicolaGibson@ynysmon.llyw.cymru