Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Prosiect lleol arloesol i ddarparu cynnyrch ffres i fanciau bwyd Ynys Môn

Wedi'i bostio ar 4 Gorffennaf 2022

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth ag Elfennau Gwyllt, yn arwain ar phrosiect newydd i ddarparu ffrwythau a llysiau ffres i Fanc Bwyd Ynys Môn, Banc Amlwch a Bwyd Da Môn.

Trwy gyllid o gronfa ‘Tlodi Bwyd ac Ansicrwydd’ Llywodraeth Cymru mae’r prosiect wedi llwyddo i gael gafael ar bedwar safle ar yr ynys i’w defnyddio i dyfu bwyd yn lleol.

Mae’r safleoedd wedi’u lleoli yn:

  • Digartref Cyf, Caergybi – bydd pobl ifanc yn helpu i ofalu am y safle hwn
  • Rhandiroedd Traeth Newry - bydd y tîm rhandiroedd yn cynnal y safle hwn
  • Parc Mount, Llangefni - mae’r tir hwn wedi cael ei ddarparu gan Carelink Homecare Services Ltd a bydd yn cael ei gynnal gan gleientiaid The Wallich
  • Cymdeithas Rhandiroedd Biwmares – bydd y safle hwn yn cael ei gynnal gan y gymdeithas

Yn ogystal â thyfu ffrwythau a llysiau ffres, mae’r safle ym Mharc Mount, Llangefni wedi cael ei drawsnewid yn fan gwyrdd bywiog.

Mae tŷ gwydr, gwelyau blodau uchel, casgenni dŵr a sied wedi cael eu gosod ar y safle. Bydd yr ardal yn cael ei ehangu’n fuan gyda diolch i gleientiaid The Wallich sydd hefyd wedi adeiladu mainc ar y safle.

Dywedodd Ned Michael, Pennaeth Gwasanaethau Tai Ynys Môn, “Mae tyfu bwyd fel cymuned yn bwysicach nawr nag y bu erioed. Rydym yn ymwybodol bod ein banciau bwyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am eu gwasanaethau ers dechrau’r pandemig.”

“Mae nifer uchel o drigolion Ynys Môn yn dal i ddibynnu ar barseli bwyd gan ein banciau bwyd. Rydym yn falch o gael bod yn rhan o brosiect pwysig a chynaliadwy ar Ynys Môn ac edrychwn ymlaen at ddatblygu mwy o safleoedd yn y dyfodol.”

Mae’r argyfwng costau byw a Covid-19 wedi arwain at gynnydd yn y galw ar fanciau bwyd ledled yr Ynys a Bwyd Da Môn yn Llangefni.

Eglurodd Roy Fyles, Ymddiriedolwr Banc Bwyd Ynys Môn, “Mae’n wych gweld y safleoedd hyn yn weithredol yn dilyn yr holl waith caled i’w datblygu. Mae’r gefnogaeth barhaus ychwanegol gan unigolion, ynghyd â chefnogaeth The Wallich, yn golygu y bydd y prosiect yn darparu bwyd i’n banc bwyd yn ogystal â chefnogi lles y rheiny sy’n gofalu am y safleoedd hyn fel rhan o’u hadferiad.”

Ychwanegodd, “Gyda’r cynnydd yn y galw, rydym bob amser angen mwy o fwyd. Bydd darparu bwyd ffres, sydd wedi’i dyfu’n lleol yn llesol iawn i’n cleientiaid.”

Hefyd, mae Tîm Cyfranogiad Tenantiaid Cyngor Ynys Môn, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, wedi dechrau cynnig sesiynau sgiliau coginio yn y gymuned gyda phwyslais ar goginio prydau cynaliadwy ar gyllideb.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, Deilydd Portffolio Tai Ynys Môn, “Mae pandemig y coronafeirws a’r argyfwng costau byw wedi amlygu’r caledi ariannol y mae nifer o bobl yn ei wynebu.”

“Mae’n bwysig ein bod ni yn dal i wneud cymaint ag y gallwn i helpu unigolion a theuluoedd sy’n gorfod gwneud dewisiadau ariannol anodd. Dyma brosiect ardderchog sy’n siŵr o gefnogi nifer o deuluoedd ledled yr ynys.”

Bydd y cynnyrch lleol ffres a fydd yn cael ei dyfu ar y safleoedd uchod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cyrsiau hyn.

Diwedd 4 Gorffennaf 2022


Wedi'i bostio ar 4 Gorffennaf 2022