Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gan fod memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi’n ffurfiol gan lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn.
Mae’r cytundeb yn datgloi gwerth £25 miliwn o gyllid ac mae’n golygu fod y Porthladd Rhydd yn gallu symud ymlaen i fod yn llawn weithredol erbyn gwanwyn 2026.
Bydd y Porthladd Rhydd yn gatalydd economaidd sylweddol ar gyfer Ynys Môn a Gogledd Cymru – gan ysgogi buddsoddiad, cefnogi swyddi sgiliau uchel a chryfhau safle’r ynys ym maes ynni carbon isel, gweithgynhyrchu uwch ac arloesi. Mae gwaith paratoi eisoes yn mynd rhagddo, gan gynnwys trefniadau llywodraethu, dynodi safleoedd treth ac ymgysylltu â thirfeddianwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth y Porthladd Rhydd gan fod hyn yn garreg filltir bwysig o ran gwireddu cyfleoedd economaidd newydd ar gyfer yr ynys. Mae’r cytundeb yn cadarnhau ymrwymiad ar y cyd gyda’r ddwy lywodraeth, a Stena Line, i sefydlu Porthladd Rhydd sy’n gallu denu buddsoddiad, cefnogi arloesi a chreu swyddi sgiliau uchel ar gyfer cymunedau lleol.
“Mae sicrhau cyllid sbarduno yn gam pwysig iawn gan ei fod yn golygu y gellir mynd ati i wneud gwaith cychwynnol hanfodol, ac mae’n arwydd o hyder ym mhotensial strategol Ynys Môn. Gyda’r sylfaen hwn wedi’i sefydlu gall y cyngor a phartneriaid eraill gyflymu cynlluniau sy’n cryfhau rôl yr ynys yn y meysydd ynni, gweithgynhyrchu a masnach, a chynorthwyo i hyrwyddo ffyniant hirdymor yn Ynys Môn a Gogledd Cymru.”
Ychwanegodd Ian Hampton, Cadeirydd Gweithredol Stena Line UK, “Rydym yn croesawu bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo memorandwm cyd-ddealltwriaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi cychwyn cam gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn ac mae’n y dilyn gwaith a wnaed hyd yma i sicrhau statws Porthladd Rhydd, cwblhau ein hachosion busnes a pharatoi ein safleoedd treth i dderbyn buddsoddiad.
“Rydym yn ddiolchgar i lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus a byddwn yn parhau i weithio gyda’r ddwy lywodraeth a holl bartneriaid y Porthladd Rhydd i wireddu ein gweledigaeth o ddarparu swyddi a thwf economaidd ar gyfer Ynys Môn a Gogledd Cymru, yn ogystal â gwarchod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.”
Dywedodd Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Ynys Môn, “Yn sgil hyn, bydd yr holl bartneriaid yn dod at ei gilydd ac yn ymrwymo ar y cyd i greu cyfleoedd newydd, buddsoddiad a swyddi sgiliau uchel ar gyfer ein cymunedau.
“Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn darparu’r fframwaith sydd ei angen arnom i weithio’n effeithiol â’r ddwy lywodraeth, Stena Line a phartneriaid eraill wrth i ni edrych ymlaen yn hyderus at y cam cyflawni yn ddiweddarach eleni. Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn gyfle sylweddol ac mae’r cytundeb ffurfiol heddiw yn atgyfnerthu ein gallu i wireddu’r uchelgeisiau hynny.”
Diwedd 20 Mawrth 2026
Nodiadau i olygyddion
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn bartneriaeth rhwng y sector gyhoeddus a phreifat, rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line, perchnogion Porthladd Caergybi. Y cyngor, fel corff atebol, fydd yn rheoli’r cyllid gan y llywodraeth.
Mae’r Porthladd Rhydd yn cynnwys chwe safle treth a thollau:
- Prosperity Parc (230 acer)
- Parc Cybi (203 acer)
- Tir M‑SParc (49 acer)
- Safleoedd Bryn Cefni (32 acer)
- Hen safle Shell, Rhosgoch (203 acer)
- Hen safle Octel site, Amlwch (61 acer)
Gweledigaeth y Porthladd Rhydd yw bod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer ynni carbon isel a masnach ryngwladol, gyda’r nod o:
- Hybu gweithgarwch economaidd, sgiliau a chyflogaeth
- Lleihau nifer y bobl sy’n symud o’r ardal a chefnogi’r Iaith Gymraeg
- Meithrin arloesi a chynyddu masnach mewn sectorau allweddol
Mae’r prosiect yn gwbl gydnaws â Chynllun y Cyngor 2023 i 2028.