Cyngor Sir Ynys Môn

‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’ yn Oriel Môn

Mae pedair arlunwraig a cherflunwraig wedi dod a’u harddangosfa boblogaidd i Oriel Môn yn Llangefni.

Wedi ei lansio Dydd Sadwrn, (Ebrill 27), mae arddangosfa’r ‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’ yn cynnwys gwaith pum artist cyfoes sydd wedi gwreiddio eu dulliau artistig yn nhir Cymru.

Mae’r meddyliau blaenllaw benywaidd y tu ôl i’r arddangosfa hon i gyd wedi’u magu yn ystod y 70au a’r 80au cynnar, fel y’u gelwir yn ‘Generation X’, pan roedd unigolion benywaidd cryf a chydraddoldeb yn cael eu dathlu mewn cerddoriaeth, ffasiwn a chelf. Mae’r arddangosfa yn goctêl o waith celf oesol a theimladwy.

Mae Angie Hoopert, Jane Paice, Catherine Taylor Parry, Louise Morgan a Wendy Lawrence i gyd wedi dilyn llwybrau gwahanol yn ystod eu gyrfaoedd, ond drwy drefnu ambell gyfarfod nawr ac yn y man, mae eu llwybrau wedi’u harwain i Oriel Môn. Bu Angie a Catherine yn ffodus i gwrdd trwy Helfa Gelf, ac yn dilyn hynny, maent wedi cynnal sawl arddangosfa ar y cyd ac wedi ffurfio cyfeillgarwch cadarn. Bu i Catherine a Wendy gwrdd drwy waith Wendy fel mentor DAC ac roedd yn edmygu ei cherfluniau gwych. Roedd Louise, Wendy a Catherine yn grŵp bach o artistiaid o Ogledd Cymru a oedd yn arddangos yn Ffair Gelf Caer, lle cafodd Catherine y cyfle i dreulio amser gyda Louise a gwerthfawrogi ei phaentiadau, ac yna aeth Louise ati i wahodd Catherine i arddangos yn ei horiel ym Mangor, Galeri 45. Daeth Louise, Catherine a Jane ar draws ei gilydd tra’n arddangos yn unigol yn yr arddangosfa 'Life Full Colour'.

Er mwyn creu’r arddangosfa ‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’ roedd angen dod o hyd i le addas i’w chynnal, a rhywle oedd yn plesio’r pum artist. I rai yn y grŵp, roeddynt wedi arddangos eu gwaith yn Oriel Môn yn y gorffennol, ond i eraill o ogledd ddwyrain Cymru, mae’r oriel yn rhywle maent wedi’i edmygu ac wedi mwynhau ymweld ag o. Dywedodd Catherine, trefnydd yr arddangosfa, “Gofynnais i gael arddangos gwaith y grŵp yn Oriel Môn gan fod yr Oriel yn cadw amrywiaeth ddiddorol o arddangosfeydd, dylanwad Kyffin Williams ac oherwydd safon arbennig yr arddangosfeydd a welir yno’n rheolaidd. Mae ein gwaith wedi’i wreiddio yn nhirlun Cymru, felly mae’r Oriel mewn lleoliad perfformiad i ddangos y gwaith sydd wedi’i greu a’i ddatblygu gan y tir rydym yn byw arno.”

Ganwyd Louise Morgan RCA ym Mangor ac mae bellach yn byw yng Nhregarth. Mae ei gwaith yn llawn mynegiant, technegau marcio cymhleth ac mae ganddi arddull y gellir ei adnabod yn syth boed yn baentio mynydd neu tyrfa o bobl. Mae ei gwaith wedi’i ysbrydoli gan amrywiaeth o ddylanwadau, gan gynnwys tirlun Cymru, etifeddiaeth diwydiannol, profiadau bywyd personol a materion cyfredol. Cafodd ei harddangosfa flaenorol ar y cyd â’r artist Gilly Thomas yn Oriel Môn, ‘Art as Antidote’, a’i harddangosfa unigol ‘Figuratively Speaking’ yng Nghaernarfon eu cynnwys yn y 10 Prif Arddangosfa gan Artistiaid Cymreig, 2022 a 2023, gan Wales Arts Review Magazine

Mae Angie Hoopert yn cael ei hysbrydoli’n gyson gan ei hamgylchedd. Graddiodd o Fryste yn 1991 gyda gradd BA (Anrh) mewn Dylunio Graffig a Darlunio. Ers hynny mae Angie wedi ymgymryd â rolau creadigol amrywiol gan gynnwys bod yn gyd-berchen ar ei horiel ei hun. Ers 2009, mae wedi bod yn datblygu ei chariad at greu paentiadau o’i thref enedigol, yr Wyddgrug, gan ddefnyddio olew ac wedi’i hysbrydoli gan dir a morluniau lleol Cymru, ac yn enwedig yr awyr sy’n newid yn barhaus. Mae ei chorff diweddaraf o waith a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon yn tynnu ar y berthynas rhwng tywydd a hwyliau pobl. Dywedodd Angie “Mae’n gyffrous ac yn anrhydedd cael arddangos yn Oriel Môn am y tro cyntaf ochr yn ochr â phedair artist benywaidd gwych. Tra bod ein gwaith yn amlwg yn wahanol, mae yna gyffredinedd cytûn, cysylltiad organig a pharch tuag at ein hamgylchedd Cymreig, a gobeithio mai’r arddangosfa hon yw’r gyntaf lle byddwn yn cydweithio gyda’n gilydd”. Mae Jane Paice yn cael ei hysbrydoli gan odidogrwydd y tir a’r môr o amgylch ei chartref ar Ynys Môn. Mae hi hefyd yn treulio oriau yn crwydro mynyddoedd a ceudyllau Eryri, yn braslunio, peintio a chael cysur o fawredd a pharhad mawreddog byd natur. Meddai “Mae fy nghelfyddyd yn cael ei hysbrydoli gan bob agwedd ar fy mywyd, o fy mhlentyndod yn Swydd Gaerhirfryn i gyffuniau fy nghartref presennol ar Ynys Môn. Ar gyfer yr arddangosfa hon, rwyf wedi archwilio treftadaeth gyfoethog diwydiant copr Cymru a’i gysylltiadau anorfod â’r arfordir. Rwyf wedi edrych ar gyfosodiad moroedd stormus, deinamig a llonyddwch aflonydd ceudyllau dwfn, tanddaearol. Os edrychwch yn ofalus, efallai y byddwch yn gweld ambell i longddrylliad, arfau wedi'u gadael neu ddelweddau ysbrydion y cenedlaethau a fu. Byddaf yn defnyddio’r thema hon ar gyfer fy arddangosfa unigol, ‘Elfennau’, yn Oriel Môn yn hwyrach eleni”.

Mae Wendy Lawrence, y cerflunydd yn y grŵp, wedi datblygu arddull bersonol o weithio gyda serameg, gan ymateb i rinweddau tirwedd a daeareg sy’n ei hysbrydoli’n weledol ac yn emosiynol, gan wneud darnau sy’n ceisio dal grym ffurf a gwead naturiol. Dywedodd Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr, Oriel Môn, “Mae gwaith y pum artist yn amrywio’n fawr, ond mae cysylltiad agos rhwng y ffordd maent yn teimlo dros y deunyddiau maent yn eu defnyddio a’r cysylltiad emosiynol sydd gan bob un gyda’i pwnc. Mae hon yn arddangosfa bwysig sy’n adlewyrchu dulliau arloesol a chyffrous a ddefnyddir gan artistiaid benywaidd sy’n gweithio yng Nghymru heddiw”. Mae ‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’ yn Oriel Môn tan 9 Mehefin. Mae Oriel Môn ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10.00am i 5.00pm ac mae mynediad am ddim. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â, 01248 724444 neu www.orielmon.org

Diwedd 29 Ebrill 2024