Cyngor Sir Ynys Môn

Nadolig hudolus llawn crefftau yn Oriel Môn

Dewch i gefnogi’r crefftwyr gorau yng Nghymru yn ffair grefftau Nadolig boblogaidd Oriel Môn. Bydd y ffair grefftau’n cael ei lansio ddydd Gwener 10 Tachwedd am 6pm, a bydd gwin cynnes a mins-peis ar gael i bawb.

Agorwyd Oriel Môn ym 1991, ac ers hynny mae wedi cefnogi crefftwyr lleol drwy roi cyfle iddynt ddangos a gwerthu eu gwaith yn y ffair grefftau Nadolig boblogaidd hon. Mae Oriel Môn yn ymfalchïo mewn dangos cynnyrch unigryw wedi’u gwneud â llaw, o’r ansawdd orau. Mae’r eitemau sydd ar werth yn amrywio o emwaith, dodrefn i’r cartref, nwyddau ceramig, gwaith coed, gwydr a thecstilau i addurniadau Nadoligaidd diddorol ac atyniadol.

Dywedodd Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Oriel Môn: “Mae’r ffair grefftau’n ddigwyddiad mae pob un ohonom yn yr Oriel yn edrych ymlaen ato, ac mae eleni’n arbennig iawn! Bydd gennym 46 o grefftwyr yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion gwych, sy’n golygu mai dyma’r ffair grefftau fwyaf i ni ei chynnal hyd yma. Rydym hefyd yn falch iawn y bydd ein caffi poblogaidd newydd ‘Caffi Bach y Bocs’ yn dathlu ei Nadolig cyntaf gyda ni, a chewch wledd yn blasu eu bwydlen Nadoligaidd.”

Mae ffair grefftau eleni’n addo bod yr orau eto, a thrwy gyflwyno siopa gyda’r nos a digwyddiadau gwledda, mae Oriel Môn yn ceisio rhoi’r cyfle delfrydol i ymwelwyr fwynhau pryd bwyd bendigedig cyn dechrau siopa Nadolig dan yr un to. Cofiwch nodi’r dyddiadau hollbwysig sef dydd Iau 23 a 30 Tachwedd, a dydd Iau 7 a 14 Rhagfyr. Bydd y caffi a’r ffair grefftau ar agor tan 8pm.

Mae siop Oriel Môn hefyd yn gwerthu amrywiaeth helaeth o anrhegion a chynnyrch lleol sy’n haeddu lle ar unrhyw fwrdd Nadoligaidd. P’un a’ch bod yn chwilio am anrheg unigryw i rywun arbennig neu’n chwilio am rywbeth i chi’ch hun, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer yr Ŵyl yn Oriel Môn.

Bydd y ffair grefftau Nadolig ar agor tan 24 Ragfyr, a bydd yn cau’n brydlon am 12.30pm ar Noswyl Nadolig. Bydd Oriel Môn hefyd yn cau’n gynt ar Nos Galan a bydd wedi cau ar 25 a 26 Rhagfyr, yn ogystal ag 1 Ionawr 2024.

Bydd oriau agor arferol yn dod yn ôl i rym ar 2 Ionawr, a bydd yr oriel ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Sul o 10am tan 5pm gyda mynediad am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01248 724 444 / neu ewch i www.orielmon.org

Diwedd 25 Hydref 2023