Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd y trydydd mewn cyfres o ddiwrnodau agored yng Nghanolfan Hamdden Caergybi.
Wedi’i drefnu mewn partneriaeth rhwng gwasanaeth hamdden y cyngor, Môn Actif a’r Gwasanaethau Oedolion, roedd y digwyddiad yn dilyn y ddau ddiwrnod agored blaenorol a gynhaliwyd yng Nghanolfannau Hamdden Amlwch a Biwmares.
Roedd y diwrnod agored yng Nghaergybi’n rhoi cyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden amrywiol rhad ac am ddim, yn cynnwys:
• pickleball
• pêl-rwyd cerdded
• ymarferion grŵp
• celf a chrefft
Roedd sefydliadau partner, gan gynnwys Medrwn Môn, Re-engage, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, Tai Môn ac Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ynys Môn, hefyd yn bresennol i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau lleol a chyfleoedd yn eu cymunedau i’r rheiny a oedd yn cymryd rhan.
Roedd GIG Cymru yn bresennol hefyd ac yn cynnig brechiadau ffliw i unigolion.
Derbyniodd y digwyddiad ymateb cadarnhaol iawn gan gyfranogwyr a mynegodd nifer eu diolch am yr ystod o ddigwyddiadau a ddarparwyd a’r wybodaeth a oedd ar gael.
Esboniodd Swyddog Datblygu Cymunedau Oed Gyfeillgar Ynys Môn, Sioned Young, “Rydym wedi ymrwymo i greu Ynys Môn Oed Gyfeillgar, gan gynnwys hyrwyddo bywyd iach a ffyniannus i holl breswylwyr yr Ynys. Trwy weithio ar y cyd â Môn Actif, rydym wedi llwyddo i drefnu cyfres o Ddiwrnodau Agored 50+ mewn canolfannau hamdden lleol, gan sicrhau cyfle cyfartal i bob preswylydd.
Ychwanegodd, “Mae adborth gan unigolion a fu’n cymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath yn hynod gadarnhaol ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal mwy yn fuan.”
Dywedodd yr aelod portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cynghorydd Alun Roberts, “Rydym yn falch o fedru cynnig y gweithgareddau yma i drigolion Ynys Môn. Mae’r diwrnodau agored hyn yn dangos yr amrywiaeth o weithgareddau cynhwysol sydd ar gael.”
Ychwanegodd, “Mae’r digwyddiadau yma’n cyd-fynd â nifer o’n blaenoriaethau Cymunedau Oed Gyfeillgar sy’n cynnwys; cynyddu cyfleoedd i gadw’n iach ac yn actif a darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gymunedau lleol.”
Cynhelir y digwyddiad 50+ nesaf yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni ar 21 Mawrth.
Diwedd 6 Chwefror 2023