Cyngor Sir Ynys Môn

Môn Mam Cymru i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd estynedig yn 2026

Bydd Môn Mam Cymru yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd estynedig wrth iddi ddychwelyd i’r ynys flwyddyn nesaf.

Daeth cyhoeddiad heddiw (Dydd Gwener 30 Mai) ar faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro, fod Urdd Gobaith Cymru yn bwriadu cynyddu’r ŵyl i saith diwrnod yn 2026.

Daw hyn mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau. Mae mwy o gofrestriadau i gystadlu nag erioed o’r blaen a galw am gystadlaethau llwyfan ychwanegol, ac rydym mor falch o weld yr effaith gadarnhaol mae’r ŵyl yn ei gael drwy gynyddu’r cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth.”

“Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, byddwn yn ymestyn yr Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod.”

Ers 1929 mae Eisteddfod yr Urdd wedi rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Cymru i arddangos ei doniau, datblygu sgiliau newydd a chymdeithasu gydag eraill o bob cwr o Gymru.

Bellach yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn croesawu hyd at 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Cynhaliwyd y digwyddiad ddiwethaf yn Ynys Môn yn ôl yn 2004.

Croesawyd y cyhoeddiad ar faes yr ŵyl gan Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard.

Dywedodd, “Bydd cynnal yr ŵyl unigryw yma - fydd yn para am saith diwrnod pan ddaw i safle Mona - hwb anferthol i’r Iaith Gymraeg, ein pobl ifanc a’r economi.

“Rydym ni fel Cyngor Sir a’r Fam Ynys yn wir edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymhen blwyddyn. Ni fyddai gwell lle nag Ynys Môn i lwyfannu’r digwyddiad Cymreig yma ar gyfer pobl ifanc Cymru a hynny, wedi’r cyhoeddiad heddiw, y cawn wythnos gyfan o gystadlu.”

“Hoffwn ddiolch i Bwyllgor Gwaith yr Urdd Ynys Môn a’r holl wirfoddolwyr am weithio mor galed i sicrhau y bydd Môn unwaith eto yn gartref teilwng i’r ŵyl arbennig yma yn 2026.”

Ychwanegodd “Edrychaf ymlaen weld plant, pobl ifanc a theuluoedd o hyd a lled y wlad yn ymweld â Môn Mam Cymru.”

Bydd y cystadlu yn cychwyn ar ddydd Sadwrn cyn Sulgwyn ac yn rhedeg tan ddydd Gwener yr wythnos hynny gyda Gŵyl Triban yn symud i’r penwythnos cyntaf gyda’r bartneriaeth ddarlledu yn parhau gyda S4C.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, Manon Wyn Williams, “Mae’r cynnydd blynyddol o ran y nifer sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn galonogol iawn ac yn golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd amhrisiadwy drwy’r mudiad.”

“Mae’r diolch am hynny i waith diflino hyfforddwyr, athrawon, gwirfoddolwyr a staff gweithgar yr Urdd ledled Cymru. O ganlyniad, mae ymestyn hyd yr Eisteddfod i saith niwrnod yn ddatblygiad hanfodol a chyffrous. Mae’n fraint ein bod ni ym Môn yn cael croesawu’r Eisteddfod arbrofol hon ac mae’n gyfle i edrych o’r newydd ar strwythur yr ŵyl gan gydweithio â phlant a phobl ifanc Cymru wrth wneud hynny. Mae yna hen edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Fam Ynys ymhen blwyddyn!”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J Williams, “Mae yna frwdfrydedd mawr yn lleol ac mae pobl yn awyddus iawn i groesawu’r ŵyl ieuenctid unigryw hon i’r Ynys. Mae hwn yn gyfle rhagorol i ni ddangos Ynys Môn ar ei gorau. Byddwn rŵan yn parhau i gydweithio â’r Urdd a’r Pwyllgor Lleol gyda’r nod o gynnal yr Eisteddfod a chroesawu pobl Cymru yma yn 2026.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ystod wythnos olaf mis Mai fel arfer sy’n cyd-fynd â gwyliau hanner tymor ysgolion. Cynhelir yr Ŵyl naill ai yn y de neu’r gogledd bob yn ail.

Diwedd 30 Mai 2025