Cyngor Sir Ynys Môn

Mae traethau Ynys Môn yn hedfan eu Baner Las ar gyfer 2021

Mae chwech o draethau Ynys Môn (Benllech, Porth Swtan, Llanddona, Llanddwyn, Porth Dafarch a Bae Trearddur) wedi'u henwi fel rhai o rhai gorau Cymru, gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

Gyda chyfyngiadau Coronafeirws yn cael eu llacio a’r sector dwristiaeth yn dechrau ail-agor yng Nghymru, gall pobol edrych ymlaen at gynllunio dyddiau allan gwyliau'r haf yma. Gall unrhyw un sy’n ymweld â thraethau Ynys Môn fod yn sicr y byddant yn mwynhau rhai o’r traethau glanaf, mwyaf diogel a rhai o’r gorau yn y wlad.

Mae Ynys Môn yn ffodus iawn o gael nifer o draethau euraidd o gwmpas yr Ynys sydd yn wych ar gyfer ymdrochi, padlo, traeth gribo a cherdded. Mae’r traethau Baner Las yn cynnig adnoddau gan gynnwys toiledau a maes parcio ac maent hefyd yn ddigon agos i bobl ymweld â phentrefi a threfi lleol sydd gerllaw.

Mae Gwobrau'r Faner Las, Gwobrau Glan Môr a Gwobr Arfordir Glas yn cael eu rhedeg yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus.

Mae gwobrau'r arfordir yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn ein hamgylchedd morol ac fe'u cydnabyddir ledled y byd fel symbol o ansawdd. O gyrchfannau poblogaidd i berlau cudd, rhaid i bob traeth fodloni a chynnal y safonau amgylcheddol uchaf a chyflawni targedau ansawdd dŵr ymdrochi rhyngwladol.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, “Rydym yn ffodus i gael rhai o draethau a marinas gorau'r byd ar garreg ein drws. Mae'r llwyddiant yn dyst i bawb sydd wedi gweithio mor galed i amddiffyn a gwella ein traethau a chadw ein harfordir yn lân ac yn ddiogel.”

“Gyda gwasanaethau lleol dan bwysau aruthrol oherwydd Coronafeirws, roedd angen i ni i gyd dynnu at ein gilydd i ofalu am ein hamgylchedd naturiol. Gobeithiwn y bydd ymwelwyr sy'n dychwelyd i'n harfordir syfrdanol yn ei drysori'n fwy nag erioed ac yn mwynhau ein traethau'n gyfrifol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud atgofion, nid llanast ac yn mynd â'ch sbwriel adref gyda chi.”

Ychwanegodd deilydd portffolio Datblygu’r Economi a Phrosiectau Mawr Ynys Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Rwy’n hynod o falch bod ein Hynys wedi cadw’r chwe traeth Baner Las. Mae'r rhain yn gemau yng nghoron yr Ynys ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae ein traethau yn cymharu yn ffafriol iawn i unrhyw un a welwch drwy Gymru a Phrydain, ac yn chwarae rhan fawr yn y croeso a gynigiwn i’r ymwelwyr. Fel trigolion lleol, mae ein traethau hefyd yn golygu cymaint i ni ac yn chwarae rhan fawr yn ein ffordd a’n mwynhad o’n bywyd.”

 

Diwedd 3.6.21