Mae Canolfan addysg y Bont wedi eu cyflwyno â dyfarniad Gwobr Lleoliad Cyfathrebu Gyfeillgar Elklan.
Mae’r ysgol arbennig yn Llangefni yn un o’r cyntaf yng Nghymru i gael yr achrediad ar ôl i staff ddilyn hyfforddiant cyfathrebu a datblygiad iaith uwch dros gyfnod o ddwy flynedd.
“Mae cyfathrebu effeithiol yn allweddol er mwyn i ni allu helpu disgyblion sydd yn aml iawn yn cael problemau wrth geisio mynegi eu hunain mewn sefyllfaoedd bob dydd”, eglurodd Pennaeth Canolfan Addysg y Bont, Andreas Huws.
“Mae ein staff wedi gweithio’n galed am yr achrediad newydd hwn a hoffwn ddiolch iddynt am sicrhau ein bod yn un o’r ysgolion arbennig cyntaf yng Nghymru i gael y dyfarniad o Leoliad Cyfathrebu Gyfeillgar Elklan.”
Mae Elklan yn gweld blaen athrawon yn rhaeadru hyfforddiant i’r holl staff eraill (yn staff addysgu, staff nad ydynt yn addysgu, staff cefnogi a staff gweinyddol) er mwyn datblygu a chefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu ledled yr ysgol. Mae’r sesiynau yn cynnwys:
- Deall cyfathrebu a rhyngweithio
- Gofyn cwestiynau effeithiol
- Datblygu geirfa
- Datblygu dealltwriaeth a galluogi plant i siarad allan
- Annog iaith fynegiannol a datblygiad naratif
Ychwanegodd Mr Huws, “Rydym eisoes yn dechrau gweld y manteision wrth i ethos cyfathrebu gyfeillgar ymledu drwy’r ysgol. Mae staff wedi datblygu hyder newydd yn y ffordd maent yn rhyngweithio a chyfathrebu ac mae hyn yn helpu ein disgyblion wrth iddynt drafod pynciau a mynegi barn eu hunain yn yr ystafell ddosbarth.”
“Rydym yn sicr yn gweld pwyslais newydd, mwy cyfannol tuag at hyrwyddo cyfathrebu a gwell dealltwriaeth o fewn Canolfan Addysg y Bont, sy’n rhagorol i’w weld ar gyfer yr ysgol gyfan wrth symud ymlaen.”
Bu deilydd portffolio addysg Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Meirion Jones, longyfarch Canolfan Addysg y Bont ar ei llwyddiant. Dywedodd y Cynghorydd Jones, “Dyma lwyddiant rhagorol ar gyfer yr holl staff a’r ysgol gyfan. Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol mewn ysgol gan ei fod yn helpu i greu i amgylchedd dysgu diogel lle gall disgyblion ffynnu, llwyddo a dysgu. Mae sicrhau dyfarniad Elklan yn dangos bod Canolfan Addysg y Bont wedi ymrwymo i feithrin cyfathrebu rhagorol fel rhan annatod o ddatblygiad a dysgu disgyblion ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd Liz Elks, Cyfarwyddwr Hyfforddiant Elklan, “Roeddwn yn falch iawn â’r adborth gwych a ddarparwyd gan Ganolfan Addysg y Bont fel rhan o dystiolaeth y lleoliad. Rwy’n falch bod yr hyfforddiant wedi cael effaith mor gadarnhaol ar yr ysgol gyfan ac mae’n amlwg yn elwa staff a disgyblion fel ei gilydd.”
Diwedd 27.5.21