Mae cymuned ar Ynys Môn yn torri tir newydd drwy weithio mewn partneriaeth er mwyn llunio ei blaenoriaethau a’i gwasanaethau ei hun.
Ddoe (Dydd Iau, Mehefin 6), bu’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething ddysgu sut mae Cynghrair Pobl Seiriol yn cynnwys trigolion mewn penderfyniadau ac yn helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Ymwelodd Mr Gething â Biwmares lle arwyddodd cynrychiolwyr o Gynghrair Pobl Seiriol, Canolfan Biwmares a Chyngor Sir Ynys Môn Femorandwm o Ddealltwriaeth er mwyn cynorthwyo cydweithio pellach a chynaliadwy – y cyntaf ar yr ynys.
Bydd y ddogfen yn arwain Cynghrair Pobl Seiriol wrth iddi ymchwilio i ffyrdd y gall y gymuned gymryd mwy o gyfrifoldeb am bethau lleol a chomisiynu ei gwasanaethau ei hun. Mae hefyd yn nodi’r amcanion allweddol a’r egwyddorion cydweithio ynghyd â strwythurau llywodraethiant a rolau a chyfrifoldebau perthnasol.
Gyda chefnogaeth gan Medrwn Môn a Chyngor Môn, mae Cynghrair Pobl Seiriol yn cael ei gadeirio gan Feddyg Teulu lleol sydd newydd ymddeol, Dr Steve MacVicar.
Dywedodd Dr MacVicar, “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i ward Seiriol a’i thrigolion. Bydd y memorandwm o ddealltwriaeth yn chwarae rôl pwysig o ran cydweithio parhaol rhwng y partneriaid wrth i ni geisio gwella iechyd, lles a ffyniant yr ardal leol i’r dyfodol.”
Ychwanegodd, “Dwi’n ddiolchgar i Medrwn Môn a’r Cyngor Sir am eu cymorth wrth ddatblygu’r bartneriaeth arloesol hon; ac i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, am ymuno â ni yma heddiw.”
Sefydlwyd prosiect Adeiladau Cymuned Seiriol gyntaf dair blynedd yn ôl gan ymgysylltu â’r gymuned leol, cynghorau tref a chymuned a’r cynghorwyr sir lleol.
Cefnogir y prosiect hwn gan Medrwn Môn sy’n gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol a Chyngor Môn. Mae Cynghrair Pobl Seiriol eisoes wedi ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu darpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol a gallent rŵan weithio i ddatblygu meysydd blaenoriaeth eraill megis tai fforddiadwy, creu swyddi a thrafnidiaeth.
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a’r deilydd portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd Llinos Medi, “Mae arwyddo’r Memorandwm o Ddealltwriaeth yn pwysleisio ymrwymiad yr holl bartneriaid i barhau i gydweithio. Mae hefyd yn adlewyrchu nod y Cyngor Sir o fodloni egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.”
“Bydd y Cyngor Sir yn helpu i ddarparu cyngor arbenigol gan amrywiaeth o wahanol wasanaethau er mwyn bodloni anghenion grŵp llywio Cynghrair Pobl Seiriol wrth iddynt ymchwilio i feysydd eraill o ddiddordeb. Gobeithiaf hefyd, dros amser, y bydd modd efelychu’r prosiect mewn rhannau eraill o’r ynys.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, “Rwy'n croesawu'n fawr y fenter gydweithredol newydd yma sydd â'r nod o gefnogi pobl hŷn wrth iddynt dderbyn gofal yn eu cartrefi a hynny’n osgoi gorfod mynd i'r ysbyty. Dyma'r union fath o ddarpariaeth gofal newydd yr wyf am ei weld mwy ohono. Mae'n esiampl ragorol o weithio mewn partneriaeth ac yn integredig ac rwy'n gobeithio y gall rannau eraill o Gymru ddysgu o'r ffordd yma o gydweithio.”
Ychwanegodd Prif Swyddog Medrwn Môn, Sian Purcell, “Ar ôl gweithio gyda Chynghrair Pobl Seiriol dros y bedair blynedd diwethaf, rydym yn wir gredu bod y datblygiad yma’n ffordd gyffrous ac arloesol o gwrdd ag anghenion lleol. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi galluogi i bobl ymateb i'w hanghenion eu hunain trwy greu ffordd arloesol o ddarparu gofal. Rydym yn ffyddiog mai hwn fydd y cyntaf o nifer o fentrau cydweithredol a sefydlir yn Seiriol ac ar hyd yr ynys.”
Dywedodd Alwyn Rowlands, Cadeirydd Canolfan Biwmares, “Rydym yn falch o fod yn rhan o'r bartneriaeth arloesol yma yn ward Seiriol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i sicrhau ei fod yn mynd o nerth i nerth.”
Diwedd 7.6.19
Nodyn i Olygyddion:
Cafodd y Memorandwm o Ddealltwriaeth ei arwyddo gan y partneriaid canlynol.
Cynghrair Pobl Seiriol cymdeithas anghorfforedig y mae ei haelodau yn cynnwys cymunedau Seiriol, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau lleol a’r trydydd sector; Canolfan Hamdden Biwmares a'r Cylch cwmni cyfyngedig drwy warant ac elusen gofrestredig a Chyngor Sir Ynys Môn.