Mae arolygon safle a gwaith cynllunio sylweddol wedi ei ymgymryd ag ef yn Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi wrth i ni barhau i ymateb i’r argyfwng RAAC.
Mae dyluniadau adfer wedi eu datblygu wrth i ni edrych ar ehangu’r capasiti dysgu yn y ddwy ysgol.
Ysgol David Hughes (Porthaethwy)
Diweddariad 22 Medi
Mae’r gwaith o osod sgaffaldiau wedi dechrau ac fe ddylai hyn alluogi mynediad at ardal y chweched dosbarth erbyn Dydd Llun 25 Medi. Bydd hyn yn rhoi hwb sylweddol drwy ryddhau gofod ychwanegol a darparu mwy o gapasiti dysgu o fewn yr ysgol.
Ysgol Uwchradd Caergybi
Diweddariad 22 Medi
Mae disgwyl i waith adfer y ffreutur gychwyn Dydd Llun 25 Medi a dylai gymryd oddeutu tair wythnos. Ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn galluogi mynediad llawn i’r ffreutur. Rydym hefyd yn datblygu rhaglen raddol i gynnal gwaith adfer mewn ardaloedd eraill o’r ysgol sydd wedi’u heffeithio gan RAAC cyn gynted â phosib.
O ddydd Llun 25 Medi, mae’r ysgol yn cynyddu'r mynediad at addysgu wyneb yn wyneb fesul un grŵp blwyddyn y dydd. Bydd dysgu ar-lein yn parhau i gael ei ddarparu i’r grwpiau blwyddyn sydd ddim yn adeilad yr ysgol yn ystod yr wythnos.
Eglurodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J. Williams, “Rydym yn parhau i gydweithio’n agos â phenaethiaid ac rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau a wynebir gan ddisgyblion, rhieni a staff ysgolion. Rydym wedi gwneud cynnydd da yn David Hughes a Caergybi ond yn anffodus bydd yn cymryd amser i gyflawni’r gwaith a fydd yn galluogi defnydd pellach o’r adeiladau hyn.”
“Rydym yn cydweithio’n agos â’r gymuned ysgolion, contractwyr allanol a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru er mwyn dod o hyd i ateb cynaliadwy ac, yn bwysicaf oll, ateb diogel i’r problemau RAAC hyn.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Llinos Medi, “Rydym yn cydnabod fod y sefyllfa yn un rhwystredig a diolch i bawb am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”
“Gallwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu, mor gyflym â phosibl, er mwyn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu dychwelyd i gael eu dysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl.”
Mwy o wybodaeth a diweddariadau yma: www.ynysmon.llyw.cymru/gwybodaeth-raac
Diwedd 22 Medi 2023
Nodyn i olygyddion
Gan fod y sefyllfa mewn perthynas â RAAC yn newid yn barhaus byddwn yn cyhoeddi unrhyw ddiweddariadau mewn perthynas â’r sefyllfa yn ein dwy Ysgol Uwchradd a effeithir arnynt ar ein tudalen benodol newydd ar y wefan: www.ynysmon.llyw.cymru/gwybodaeth-raac
Bydd Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes hefyd yn parhau i ddiweddaru rhieni / gwarcheidwaid yn uniongyrchol.