Cyngor Sir Ynys Môn

Gofalwr maeth o Ynys Môn yn annog eraill i faethu yn ystod Pythefnos Gofal Maeth

Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau oes yn Sir Fôn.

Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch faethu fwyaf y flwyddyn, rhwng 12 Mai a 25 Mai eleni, gyda thema sy’n dathlu pŵer perthnasoedd.

Boed yn gyswllt clôs rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy’n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch sy’n datblygu gyda gofalwyr maeth eraill o fewn cymuned, mae perthnasoedd cryf yn llinyn aur sy’n rhedeg trwy’r holl straeon maethu.

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.

Rhannodd Ian Owen ei stori am y perthnasoedd parhaol a ffurfiodd o ganlyniad i faethu trwy Faethu Cymru Môn, ers 1996.

Yn fwy diweddar, mae Ian wedi bod yn gofalu am dri pherson ifanc yn eu harddegau ac mae un ohonynt newydd ddechrau yn y brifysgol, ac yn ôl Ian, mae hynny’n gwneud y cyfan yn werth chweil.

Eglurodd Ian, “Ar ôl bod trwy gymaint gydag ambell un, mae’r perthnasoedd rydw i wedi’u ffurfio gyda rhai o’r bobl ifanc yn debycach i berthynas tad a mab neu ferch.

Nid wyf yn ystyried y lle hwn fel cartref maeth, eu cartref nhw ydyw ac mae fy nrws bob amser yn agored iddyn nhw hyd yn oed pan maent yn oedolion ac wedi symud ymlaen.

“Dyw maethu ddim yn ymwneud â fi fel gofalwr maeth yn unig – mae’r teulu cyfan yn rhan ohono, ac mae’r teulu wedi tyfu dros y blynyddoedd drwy faethu.

Mae eu gweld yn mynd i’r coleg neu’r brifysgol, yn ffurfio perthnasoedd sefydlog, cael plant eu hunain a bod yn fodlon a hapus â’u bywydau yn rhai o’r pethau hynny na feddyliais erioed y byddai rhai byth yn eu gwneud pan wnes i eu cyfarfod nhw gyntaf.”

“Mae’n wirioneddol werth chweil gweld y canlyniad terfynol.”

Dywedodd Fôn Roberts, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn:

“Mae gofalwyr maeth fel Ian yn gwneud gwahaniaeth dyddiol i blant a phobl ifanc lleol. Mae’r thema eleni yn dathlu’r cysylltiadau ystyriol hyn sy’n gallu trawsnewid bywydau.

Mae pob plentyn yn unigolyn ag anghenion unigryw. Mae ein gofalwyr maeth yn unigryw hefyd ac ein rôl yw cydweithio er mwyn eu helpu nhw i ffynnu gan gefnogi eu twf a datblygiad gyda phob cam.”

Ychwanegodd deilydd portffolio Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Môn, y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones:

“Pan fyddwch yn maethu â’r awdurdod lleol – mae gweithiwr cymdeithasol y plentyn, y staff maethu a’r gofalwyr maeth i gyd yn rhan o’r un sefydliad – rydym yn un tîm sy’n eich cefnogi. Mae’r perthnasau hyn wrth wraidd gofal maeth ac rwy’n falch o’n cymuned maethu yma ym Môn.” 

Darganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth ar wefan gofal maeth Ynys Môn.

Dewch i gwrdd â'ch tîm Maethu Cymru lleol

  • 12 Mai - Sesiwn galw heibio, Llyfrgell Caergybi (10.30am i 1pm)
  • 15 Mai - Sesiwn galw heibio, Coleg Menai Llandrillo, Llangefni (11am i 1pm)
  • 21 Mai - Sesiwn galw heibio, Ysbyty Gwynedd gyda Maethu Cymru Gwynedd (11.30am i 2.30pm)
  • 22 Mai - Sesiwn gwybodaeth ar-lein dros Microsoft Teams (12pm i 1pm)
  • 1 Mehefin – Gŵyl Gosh, Premier Inn Caergybi

Darllenwch stori lawn Ian

Gallwch ddarllen stori lawn Ian ar wefan maethu Ynys Môn.

Diwedd 9 Mai 2025

Nodiadau i olygyddion

Am Maethu Cymru

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol dielw yng Nghymru.

Am Bythefnos Gofal Maeth

  • Pythefnos Gofal Maeth™ yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau.
  • Bydd Pythefnos Gofal Maeth 2025 yn cael ei gynnal o ddydd Llun 12 Mai tan ddydd Sul 25 Mai.
  • Y thema yw Grym Perthnasoedd – oherwydd wrth galon pob taith faethu mae’r cysylltiadau sy’n gwneud byd o wahaniaeth.
  • #FCF25