Cyngor Sir Ynys Môn

Egni, natur, dirgryniad gan Leonard McComb RA (1930 i 2018)

Yr arddangosfa gyntaf o waith yr artist o Brydain ers 40 mlynedd, yn cael ei dangos yn Oriel Môn, ar yr ynys a ysbrydolodd ei gysylltiad dwfn â natur a rhai o'i weithiau gorau.

Mae'r arddangosfa uchelgeisiol hon sy'n cynnwys darluniau a fenthycwyd gan y Tate, Oriel Gelf Manceinion, a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain, yn dangos y cysylltiad annatod rhwng gwaith dramatig, hynod sensitif ac arwyddocaol dwys McComb â thirwedd yr oedd yn ei hadnabod mor dda.

Er mwyn dianc rhag tlodi a thrafferthion gwleidyddol Gogledd Iwerddon yn y 1930au, dewisodd tad yr artist, Archie, a'i fam, Delia Bridgit, symud i Fanceinion pan oedd McComb yn blentyn bach.

Treuliodd yr artist ei ddyddiau cynnar yn ardaloedd caled Moss Side a Wythenshawe mewn dinas ddiwydiannol a oedd eisoes yn wynebu dirwasgiad.

Er na chafodd McComb lawer o gyfleoedd artistig fel rhan o’i addysg uwchradd, cafodd McComb ei frwsys paent cyntaf gan ei dad (llythrennwr ac arlunydd amatur), a daeth y goedwig leol ger ei gartref newydd yn ffynhonnell gynnar o ysbrydoliaeth iddo gan roi cyfle i gysylltu â natur.

Ar ôl cwblhau cyfnod yn y Gwasanaeth Cenedlaethol, cofrestrodd yn yr ysgol nos yn Ysgol Gelf Manceinion lle cyfarfu ag artistiaid dylanwadol fel LS Lowry. Cafodd McComb lwyddiant yn yr amgylchedd newydd hwn, gan ennill ysgoloriaeth i Ysgol Gelf Slade ym 1956.

Yn ystod y ddau ddegawd nesaf tra oedd yn addysgu ym Mryste, Llundain a Rhydychen, cafodd yr artist gydnabyddiaeth gan sefydliad yn Llundain a oedd yn cynnwys rhai artistiaid dosbarth gweithiol.

Er mai yn y brifddinas y cafodd yr artist ei lwyddiant i raddau helaeth, Ynys Môn, fu’r dylanwad mwyaf ar ei waith. Arferai ymweld yn rheolaidd â’r ynys ar ôl i’w fam symud yn y 1970au. Ar yr ynys roedd cyfle i'r artist sylwi ar fyd natur ymhell o drafferthion Brixton, lle’r oedd ei gartref a'i stiwdio.

Er bod gwaith McComb wedi'i wreiddio’n gadarn yn nhraddodiadau darlunio arsylwadol, roedd ei athroniaeth yn gwbl fodern. Nodweddir ei waith gan y syniad nad oes rhaniad rhwn dynoliaeth a natur, meddylfryd a rennir ag eco genedlaethau heddiw.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys Rock and Sea Anglesey, 1983, un o'r darluniau mwyaf mewn casgliad cyhoeddus, yn mesur 10m x 3m. Bu’n gweithio am naw diwrnod ar y clogwyni ym Mae Benllech, gan sylwi ar gysylltiad y môr, y clogwyni, a'r awyr i greu’r gwaith hwn sy’n cyfleu egni naturiol y creigiau. Fe’i gwnaed ar 84 o dudalennau papur mawr, ar îsl gyda chreigiau calchfaen yn ei angori, ac er yr oriau a dreuliodd ar y creigiau ni chyfyngwyd ar raddfa ei waith.

Gan ddefnyddio pensil, brwsh ac inc, a dyfrlliw, mae miloedd ar filoedd o linellau yn darlunio cornel ddramatig o Ynys Môn fel delwedd bwerus sy’n dirgrynu. Mae'r gwaith yn cyfleu popeth yr oedd McComb yn sefyll drosto: ei athroniaeth am y byd naturiol, arsylwadau o fywyd, a’r sylw amlwg i fanylion. Enillodd Rock and Sea Anglesey Wobr Hugh Casson am Ddarlunio yn 2005 yn Sioe Haf yr Academi Frenhinol, ugain mlynedd ar ôl ei greu.

Ar ôl dinistrio ei holl waith yn gynnar yn y 1970au, ailddyfeisiodd McComb ei arddull gan greu cyfres o ddyfrlliwiau epig. Mae dyfrlliwiau McComb o'r 1970au yn dirgrynu gydag egni haniaethol sy'n drosiad o gred gadarn yr artist fod pob peth byw wedi'i gysylltu.

Ailddiffiniodd y gweithiau mawr hyn y defnydd o gyfrwng a gysylltir â brasluniau bach. Mae uchafbwyntiau'r arddangosfa'n cynnwys Woman by a Window, 1980 (2m x 1.6m), astudiaeth sy'n dangos merch noethlymun yn eistedd ac yn syllu allan drwy ffenestr mewn lleoliad trefol. Does dim byd ‘Rhamantaidd’ am y gwaith hwn, yn hytrach mae McComb yn dangos merch fodern mewn lleoliad realistig yn myfyrio.

Mae Garden Trees South London, 1980 (24.2 x 119.5cm) yn dangos croestoriad o foncyffion coed yn erbyn wal yng ngardd yr artist yn Brixton. Mae’r ffordd ofalus y mae McComb yn llunio ei linellau yn gwneud i’r wal a'r coed yn y paentiad edrych bron yn anwahanadwy, fel trosiad ar gyfer yr egni naturiol hollbresennol yn y lleoliadau mwyaf trefol. Mae tri darn o waith llai, Rocks at Amlwch (90 x 112cm), Rocks at Anglesey (141 x 115cm), a Cherry Blossom (89 x 110cm), yn dangos ansawdd tebyg ar raddfa lai.

Roedd McComb hefyd yn gerflynwr medrus ac mae cerflun enwocaf yr artist, Portrait of a Young Man Standing, 1963-1983,sydd i’w weld yn yr arddangosfa hon, yn gerflun efydd maint llawn o ddyn gyda llaw agored a dwrn caeedig. Creodd McComb, a bryderai’n fawr am y gwrthdaro yn ystod y degawd megis y Rhyfel Oer a Rhyfel Fietnam, y cerflun hwn fel delwedd gadarnhaol o ddynoliaeth.

Mae llaw agored y ffigwr a'r dwrn caeedig yn symbol o allu dyn i gyflawni "gweithredoedd pwerus a thyner, yn gorfforol ac yn ddeallusol. Cymerodd ugain mlynedd i'r gwaith (rhan o gasgliad Oriel Gelf Manceinion) gael ei gwblhau, gyda'r fersiwn derfynol yn cael ei chreu mewn efydd llathredig yn 1983. Mae'r cerflun cyntaf sydd wedi'i orchuddio â deilen aur i'w weld yng Nghasgliad y Tate.

Yn ystod ei fywyd, pur anaml y gwnâi McComb bortreadau wedi’u comisiynu, yn hytrach dewisodd baentio ffrindiau, teulu, cydweithwyr, myfyrwyr, ac weithiau pobl y cyfarfu â nhw ar y stryd. Fel ei arsylwadau o'r byd naturiol, roedd McComb eisiau cyfleu’r egni a welai yn y bobl yr oedd yn eu harsylwi.

I McComb, doedd y portread ddim yn symbol o statws, ond yn gyfle i gysylltu â bywyd mewnol y rhai o'i gwmpas, yr egni mewnol. O ddiwedd y 90au-2000 ymlaen canolbwyntiodd McComb ar gyfres o bortreadau sy'n cynrychioli pinacl aeddfedrwydd yr artist. Efallai bod portread McComb o'r nofelydd Doris Lessing a enillodd Wobr Nobel, 1999 (Casgliad Oriel Bortreadau Cenedlaethol), ymgyrchydd yn erbyn arfau niwclear, a gwrthwynebydd apartheid yn enghraifft o McComb yn cysylltu ag enaid hoff cytûn.

Mae portread McComb o Phillipa Cooper, 2002, merch un o'i ffrindiau agosaf, yn dangos merch yn ei harddegau yn erbyn patrwm o garped Persiaidd oedd gan yr artist yn ei stiwdio. Mae naws hyfryd i'r gwaith hwn ac mae’n gosod y ferch ifanc hon, y gwelodd hi’n tyfu i fyny, yn erbyn cefndir o ddelweddau o fyd natur. Mae'r gwaith yn atgyfnerthu'r syniad bod dyn a natur yn un wrth ddarlunio personoliaeth a thalu teyrnged i blentyn a ystyriai fel aelod o’r teulu.

Efallai mai portread pwysicaf yr artist yw’r portread o’i fam. Mae’r gwaith hwn, sy’n dangos sensitifrwydd arbennig, yn ganlyniad i oes o arsylwi ac yn mynegi'r cwlwm unigryw rhwng y fam a'r plentyn.

Yn y portread mae Delia Bridgit, ym mlynyddoedd olaf ei bywyd, yn eistedd yn dawel gyda phaned o de yn ei llaw yn Ynys Môn, ac yn synfyfyrio. Darlunia McComb wyneb ei fam yn fanwl drwy linellau a marciau tebyg i’r rai sydd i'w gweld yn Rock and Sea. Mewn rhyw ffordd fach, mae'r portread rhyfeddol hwn o'i fam yn cynnwys yr hyn a olygai’r ynys iddo yn ei hanfod, sef man a fu’n ffynhonnell ysbrydoliaeth bwysig i'r artist a lle daeth Delia Bridgit, ar ôl bywyd caled, o hyd i'w chartref a heddwch.

"Mae fy ngwaith i gyd yn deillio o deimladau am harddwch siapiau natur ac egni. Mae darlunio’n broses o chwilio i ddarganfod siâp anghymesur unigryw ac egni mewnol ffurfiau natur. Yn hyn o beth, mae popeth rwy'n ei ddarlunio, ei baentio, ei gerflunio yn bortread boed yn lili wen fach, yn fynydd, yn ben dynol" - Leonard McComb RA.

Allwch weld Egni, Natur, Dirgryniad gan Leonard McComb RA (1930 – 2018) tan Awst 3. Mae Oriel Môn ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sul, 10.00am tan 5.00pm ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Cysylltwch am fwy o wybodaeth, 01248 724444 / www.orielmon.org

DIWEDD 1 Ebrill 2025