Cyngor Sir Ynys Môn

Diweddariad ar gynlluniau wrth gefn Caergybi wrth i derfyn amser yr UE agosau

Mae cynlluniau wrth gefn wedi'u diweddaru sydd â'r nod o darfu cyn lleied â phosibl ar Borthladd Caergybi pan fydd cyfnod Pontio'r UE yn dod i ben ar 31 Rhagfyr wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Caergybi yw'r pwynt mynediad a gadael allweddol ar gyfer nwyddau a gludir rhwng y DU ac Iwerddon ac mae ei statws fel y porthladd fferi rholio ymlaen/rholio i ffwrdd prysuraf ond un yn y DU yn golygu ei fod yn gyswllt hanfodol yn y gadwyn gyflenwi i fusnesau ledled Cymru, y DU ac Iwerddon.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli'r rhwydwaith cefnffyrdd ac mae'n cynllunio ar gyfer effaith bosibl oedi i gludwyr sy'n teithio i Iwerddon, pan fydd yr UE yn rhoi'r rheolaethau ffin newydd ar waith ar gyfer traffig y DU ar 1 Ionawr 2021.

Bydd gweithredwyr fferi yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid cludo llwythi sydd ar eu ffordd i Iwerddon atodi gwybodaeth tollau i'w harcheb, ac os byddant yn cyrraedd heb wneud hynny ni fyddant yn gallu dod i mewn i'r porthladd.

Mae Model Gweithredu Ffiniau Llywodraeth y DU yn nodi na chaiff gwiriadau ffisegol eu cynnal ar y mwyafrif o nwyddau a ddaw i mewn i'r wlad tan fis Gorffennaf 2021 ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch y seilwaith sy'n ofynnol i gyflawni'r gwiriadau hynny.

Mae'r senario waethaf bosibl ond rhesymol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn nodi y gellid gwrthod mynediad i 40-70% o HGVs sy'n cyrraedd porthladdoedd ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio gan na fydd y ddogfennaeth gywir ganddynt. Disgwylir y ganran uchaf tua mis Ionawr. Gallai oedi hefyd arwain at wiriadau ffin newydd yn Nulyn a allai oedi hwyliadau gan achosi ôl-groniad o HGVs yng Nghaergybi.

Mae ansicrwydd parhaus ynghylch seilwaith ffiniau, gan gynnwys lleoliad safle hirdymor i gludwyr sy'n cyrraedd y wlad o Iwerddon a gaiff ei ddefnyddio pan gyflwynir gwiriadau ffin pellach yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf, wedi effeithio ar y broses gynllunio.

Fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i darfu cyn lleied â phosibl, mae'r mesurau canlynol yn cael eu cyflwyno:

  • Caiff gwrthlif dros dro ei gyflwyno ar yr A55 rhwng Cyffordd 2 - 3 gyda'r opsiwn i ymestyn os bydd angen. Bydd hyn ar waith o 28 Rhagfyr ac yn barod i'w ddefnyddio o 1 Ionawr. Caiff pob HGV na chaiff fynediad i'r porthladd ei ailgyfeirio i'r gwrthlif lle y caiff ei stacio tra bydd y gwaith papur yn cael ei gwblhau neu ei ailgyfeirio i safleoedd eraill oddi ar Gyffordd 2 os bydd lle.
  • Mae Plot 9 Parc Cybi yn cael ei baratoi fel safle stacio o ganol mis Ionawr ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i ddefnyddio man aros Roadking i dryciau fel safle o 1 Ionawr.
  • Stacio ar yr A55 yw'r opsiwn wrth gefn o hyd os na fydd lle ar unrhyw safle arall. Caiff y gwrthlif dros dro ei ddefnyddio i ailgyfeirio HGVs os bydd safleoedd eraill ar gael ar gyfer stacio. Mae hyn yn golygu y gall y safle ymddangos yn wag ar adegau ond bydd yn dal i gael ei ddefnyddio ar adegau prysur i ailgyfeirio HGVs yn ddiogel. Nid yw'n bosibl datgymalu'r gwrthlif rhwng yr adegau prysur.
  • Bydd arwyddion wedi'u gosod o 14 Rhagfyr i dynnu sylw at oedi posibl o 1 Ionawr.
  • Caiff diweddariadau eu darparu ar y cynlluniau

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Ein prif nod yw sicrhau, gymaint ag y gallwn, y byddwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar borthladd Caergybi, trigolion y dref a'r ardal ehangach.

“O dan yr amgylchiadau presennol, gweithredu gwrthlif dros dro ar yr A55 o fis Ionawr yw'r unig opsiwn pendant i sicrhau y gellir parcio HGVs nad ydynt yn barod i deithio mewn ffordd ddiogel o ran Covid, a sicrhau y gall traffig lleol barhau i lifo o amgylch Caergybi o 1 Ionawr. Rydym yn bwriadu sicrhau mynediad i Roadking fel prif safle daliad, ac yn gyfochrog â hynny, rydym yn dechrau gwaith brys ym Mharc Cybi i sicrhau bod mwy o le ar gael yn ystod mis Ionawr.

Nid yw cyflwyno gwrthlif yn rhywbeth rydym am ei wneud ond mae angen ei wneud. Mae'r ansicrwydd a wynebwn yn golygu bod yn rhaid i ni gymryd bob cam i osgoi tarfu ar borthladd a thref Caergybi.

“Mae hon yn sefyllfa nad ydym wedi ei hwynebu erioed o'r blaen ac er bod y rhagolygon gwaethaf posibl ond rhesymol yn nodi y gellid gwrthod mynediad i rhwng 40 a 70 y cant o gludwyr ar y dechrau, gallai'r sefyllfa go iawn fod yn wahanol.

“Wrth i ni weld i ba raddau y mae hyn yn digwydd yn ymarferol, a cheisio sicrhau bod llefydd ychwanegol ar gael i lorïau ym Mharc Cybi, byddwn yn adolygu faint o le fydd ei angen ac yn ceisio dod â'r gwrthlif i ben cyn gynted ag y byddwn yn hyderus na fydd ei angen mwyach ac y bydd yn ddiogel i ni wneud hynny.

“Rydym bob amser wedi nodi'n glir y gallai dull Llywodraeth y DU o ddatblygu ein cydberthynas fasnachu yn y dyfodol â'r UE beri risg fawr o darfu ar bethau yng Nghymru, yn enwedig ar y ffin. Mae ansicrwydd o hyd ynghylch materion allweddol.

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid ledled y gogledd, gan gynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, i wneud popeth posibl i ddiogelu porthladd Caergybi, cynnal y llwybr hanfodol hwn a tharfu cyn lleied â phosibl ar gymunedau."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, "Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddiogelu safle Caergybi fel un o'r prif byrth rhyngwladol a tharfu cyn lleied â phosibl ar y dref a'i thrigolion yn ystod y cyfnod pontio sydd ar ddod."

"A ninnau ar fin gadael yr UE, rydym yn cefnogi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gyflawni'r nodau pwysig hyn.

"Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod traffig yn symud yn ddiogel ac yn effeithlon drwy Borthladd Caergybi, gan ddiogelu ein cymunedau lleol ar yr un pryd."

Noder

  • Gallai gwrthlif ar yr A55 ddarparu lle i 240 o HGVs pe bai safleoedd eraill yn llawn neu pe na bai'n bosibl gwneud defnydd llawn o Barc Cybi a Roadking
  • Gall Plot 9 Parc Cybi ddal 150 o HGVs o bosibl a bydd yn barod o ganol mis Ionawr
  • Gall man aros Roadking i dryciau ddal 180 o HGVs o bosibl
  • Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am Reoli Traffig ar y rhwydwaith cefnffyrdd a bydd yn arwain y gwaith o geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar y rhwydwaith o 1 Ionawr. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynlluniau ar gyfer seilwaith ffiniau gan gynnwys safleoedd i ymdrin â gwiriadau ffin pellach hyd at 1 Gorffennaf 2021