Cyngor Sir Ynys Môn

Disgyblion Môn yn arwain y ffordd gyda Menter Gerdded Genedlaethol

Mae disgyblion ar Ynys Môn, a’u teuluoedd wedi bod yn manteisio ar fuddion teithio llesol i’r ysgol yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid i saith ysgol gynradd ar Ynys Môn er mwyn cymryd rhan yn ’Living Streets WOW: Walk to School challenge sy’n annog teithio llesol i’r ysgol, ac o’r ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Bodedern, Ysgol Gymuned Y Fali, Ysgol Y Graig, Ysgol Llandegfan, Ysgol Llanfechell, Ysgol Corn Hir ac Ysgol Llanfawr yn cymryd rhan yn y fenter ar hyn o bryd.

Mae’r her genedlaethol yn fenter sy’n cael ei harwain gan ddisgyblion sy’n mynd ati i gofnodi sut maen nhw wedi teithio i’r ysgol bob dydd gan ddefnyddio traciwr teithio rhyngweithiol. Byddant yn derbyn bathodyn os ydynt wedi teithio’n gynaliadwy unwaith yr wythnos am fis, boed yn cerdded, beicio, defnyddio sgwter neu ddyfais arall ar olwynion.

Mae’r fenter yn cynyddu ymgysylltiad yn ogystal â chyfraddau teithio’n llesol i’r ysgol. Hefyd mae’n cefnogi iechyd a llesiant disgyblion a lleihau tagfeydd a llygredd.

Ers cymryd rhan yn y fenter, mae’r saith ysgol ar yr Ynys wedi gweld cynnydd cyfartaledd o 27% mewn teithio llesol i’r ysgol.

Ym mis Mehefin, cafodd Ysgol Llanfawr ei henwi fel un o’r ysgolion ‘WOW’ mwyaf actif ac ymroddedig ledled Cymru. Yn sgil y cyflawniad hwn, roedd yr ysgol ymhlith y 10 uchaf ar y bwrdd buddugoliaeth genedlaethol, a hynny yn erbyn 200 o ysgolion eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, deilydd portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg Ynys Môn, “Rydym yn falch iawn o’r ffordd mae ein hysgolion wedi cyfrannu at yr her gadarnhaol hon. Mae wedi arwain at ganlyniadau gwych, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o ysgolion yn lansio eu heriau eu hunain yn y dyfodol agos.”

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Newid Hinsawdd Ynys Môn, “Mae’n galonogol gweld ffigyrau cadarnhaol yn cael eu cofnodi. Mae teithio llesol yn cynnig llawer o fuddion, mae’n arwain at iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol gwell. Mae hefyd yn lleihau tagfeydd, llygredd aer, allyriadau carbon ac mae’n gwella diogelwch ar y ffyrdd y tu allan i giatiau’r ysgol.

“Mae cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn teithio llesol yn cefnogi ein nod i gyrraedd statws carbon net sero erbyn 2030, a’r addewidion newid hinsawdd sydd wedi’u hamlinellu yng Nghynllun y Cyngor (2023 i 2028).”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.livingstreets.org.uk/walk-to-school/

Diwedd 25 Gorffennaf 2024