Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn parhau i weithio mewn partneriaeth a Chynghorau Tref a busnesau lleol er mwyn cefnogi canol trefi a’r economi leol, gyda chymorth ariannol gan gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae Covid-19 wedi taro busnesau yn galed ac mae’r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i’w cefnogi wrth i’r Ynys ddod dros y cyfnod clo.
Mae arwyddion cadw pellter cymdeithasol a marcwyr wedi eu harddangos mewn trefi a phentrefi prysur gan ein Contractwyr Priffyrdd Griffiths a bydd mwy yn cael eu harddangos cyn hir. Mae’r marcwyr wedi eu rhoi yn y mannau prysuraf megis Caergybi, Biwmares, Llangefni, Rhosneigr, Bae Trearddur a Llanfairpwll.
Mae Pecynnau Cefnogi Busnesau wedi eu rhoi gan Cymunedau’n Gyntaf Môn (MônCF) i 100 o fusnesau lleol, sy’n cynnwys diheintydd dwylo, weips diheintio, masgiau wyneb a menig. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar Covid, templed asesiad risg a dolen i gwrs Covid-19 ardystiedig ar-lein. Mae pecynnau cefnogi busnes pellach ar gael drwy gysylltu â Môn CF ( jennifer@moncf.co.uk ).
Gyda chefnogaeth gan Menter Môn, mae’r Cyngor Sir wedi bod yn cynnal cyfarfodydd Zoom gyda chynrychiolwyr y pum cyngor tref a’r cynghorau cymuned yn y pentrefi arfordirol prysuraf. Mae cyflenwadau o arwyddion cadw pellter cymdeithasol a sticeri llawr wedi eu cynhyrchu a’u hanfon at y cynghorau hyn ac mae cyllid wedi’i roi er mwyn iddynt allu gwneud mesurau addasu Covid megis darparu seddau, meinciau picnic a phlanhigion ychwanegol a gwneud addasiadau i doiledau cyhoeddus.
Mae parcio am ddim yng nghanol trefi (Porthaethwy, Caergybi, Amlwch, Llanfairpwll a Rhosneigr) hefyd wedi’i ymestyn tan 30 Medi mewn ymgais i annog pobl i siopa’n lleol a chefnogi busnesau lleol.
Meddai’r Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygiad Economaidd, “Mae’r Cyngor Sir yn falch iawn o allu cefnogi canol trefi’r Ynys yn ystod y cyfnod heriol hwn. Hoffem annog pawb i ymweld â chanol eu trefi lleol er mwyn cefnogi’r economi lleol. Mae hefyd yn bwysig fod pawb yn cadw’n ddiogel drwy gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb lle bo’r angen a golchi eu dwylo yn rheolaidd.”
Diwedd 21.09.2020