Bydd taclo newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod yn flaenllaw yng ngwaith a phenderfyniadau Cyngor Sir Ynys Môn am flynyddoedd i ddod.
Datganodd y Cyngor Llawn argyfwng hinsawdd yn 2020 a ddoe (Dydd Iau, 10 Mawrth), mabwysiadodd yr aelodau, yn unfrydol, fap trywydd uchelgeisiol newydd Ynys Môn tuag at fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.
Bydd y Cynllun Tuag at Sero Net 2022-25 yn darparu ymateb cydlynus gan y Cyngor i newid yn yr hinsawdd wrth hyrwyddo newid diwylliannol i sicrhau fod gwasanaethau’n lleihau’r holl allyriadau tŷ gwydr gymaint â phosib.
Dywedodd Pencampwr Newid Hinsawdd Ynys Môn, y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, “Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom a bydd y camau a gymerwn yn awr yn diffinio bywydau cenedlaethau’r dyfodol.”
“Mae’r Cyngor Sir wedi ymrwymo i fod yn sefydliad carbon sero net. Bydd cyflawni statws carbon sero net erbyn 2030 yn sicr yn her a bydd blaenoriaethu, penderfyniadau anodd a chyfaddawd yn hanfodol. Serch hynny, gallwn gyflawni’r targed hwn trwy weithio’n effeithiol gyda phreswylwyr, staff, aelodau etholedig ac ymwelwyr. Bydd y Cynllun Tuag at Sero Net newydd yn darparu’r ffocws sydd ei angen i sicrhau ymdrech ragweithiol ac unedig i gyflawni ein targedau ar ran cenedlaethau’r dyfodol.”
Yn barod, bu’r Cyngor Sir yn cymryd camau pendant dros nifer o flynyddoedd i wireddu ei ymrwymiad newid hinsawdd. Mae prosiectau sydd eisoes yn dwyn ffrwyth yn cynnwys:
- Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni 2017-22 y Cyngor sydd wedi llwyddo i sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio 18% llai o ynni yn ei adeiladau
- Cynllun ReFit, gyda’r Cyngor yn gwneud y buddsoddiad mwyaf hyd yma (£2.4m) i leihau faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio trwy osod paneli solar, goleuadau LED ac uwchraddio systemau gwresogi yn ei adeiladau
- dechrau newid fflyd cerbydau petrol a disel y Cyngor i fod yn gerbydau trydan
- newid ac addasu 96% o oleuadau stryd i ddefnyddio goleuadau LED a lleihau faint o ynni a ddefnyddir
- penodi Rheolwr Newid Hinsawdd a phenodi aelod o’r Pwyllgor Gwaith yn Bencampwr Newid Hinsawdd
Mae rhagor o brosiectau ar y gweill ac yn gynharach yr wythnos hon, mabwysiadodd Bwyllgor Gwaith y Cyngor gynllun hirdymor newydd ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan er mwyn darparu seilwaith gwefru ar gyfer yr Ynys a helpu i leihau ôl-troed carbon. Yn barod, Ynys Môn yn un o’r ardaloedd â’r nifer uchaf o fannau gwefru cerbydau trydan y pen o’r boblogaeth yng Nghymru; ac mae’n dymuno ychwanegu at hyn pan fydd cyllid newydd ar gael.
Ychwanegodd Rheolwr Newid Hinsawdd Ynys Môn, Rhys Williams, “Mae’r Cynllun Tuag at Sero Net yn ddatblygiad annatod yn nhaith sero net y Cyngor. Yn ogystal ag adeiladu ar lwyddiannau diweddar a chydlynu cynlluniau sydd ar waith yn awr, bydd yn helpu i wireddu prosiectau newydd i leihau ein hallyriadau carbon. Rydym eisiau i blant a phobl ifanc fod yn rhan annatod o’r gwaith pwysig hwn a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i addysgu pobl ifanc a manteisio ar eu brwdfrydedd.”
Mae cynlluniau newydd eraill sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn cynnwys rhaglen gwerth £3.1m i ddarparu mesurau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio mewn 36 o’i safleoedd ar ôl derbyn benthyciad 0% trwy Raglen Ariannu Cymru.
Bydd grant ynni carbon isel gwerth £1.1m gan Lywodraeth Cymru hefyd yn golygu y bydd modd gwneud gwaith datgarboneiddio yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni ac yn Ysgol Gymuned Moelfre. Bydd y grant hwn yn caniatáu gosod systemau gwresogi carbon isel newydd yn lle systemau gwresogi tanwydd ffosil ar y ddau safle.
Diwedd 11.3.22