Mae adran dai Cyngor Sir Ynys Môn wedi ennill gwobr fawreddog yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru 2026.
Y cyngor oedd enillydd yn y categori Cyngor Rhanbarthol neu Gorff Awdurdod Lleol y Flwyddyn ac roedd yn cydnabod ei lwyddiant wrth wireddu’r contract system solar ffotofoltaidd a storfa batri PMC 483.
Roedd y prosiect, a gyflawnwyd ar ran y cyngor gan gontractwr lleol, Anglesey Solar & Electrical Ltd, yn cynnwys dylunio, cyflenwi, gosod a chomisiynu systemau solar ffotofoltaidd a thechnoleg storfa batri o fewn stoc dai’r cyngor.
Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniad arwyddocaol y prosiect tuag at leihau allyriadau carbon o gartrefi ac adeiladau lleol, gwella effeithlonrwydd ynni a chefnogi preswylwyr trwy leihau costau ynni.
Mae newid hinsawdd yn amcan strategol allweddol yng Nghynllun y Cyngor ac mae’r wobr yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y cyngor i ymateb i’r argyfwng hinsawdd wrth weithio tuag at fod yn sefydliad sero net erbyn 2030.
Dywedodd Ned Michael, pennaeth tai cyngor Môn:
“Rydym yn hynod o falch ein bod wedi derbyn y wobr hon. Mae’n cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ein staff a phartneriaid er mwyn gwireddu gwelliannau ystyrlon ar gyfer ein preswylwyr a’n cymunedau.”
“Mae’r prosiect yma yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai, lleihau allyriadau carbon a chefnogi tenantiaid trwy leihau’r defnydd o ynni a chostau. Mae’n dangos hefyd sut y gall partneriaethau lleol lwyddo i wireddu atebion arloesol a chynaliadwy ar gyfer Ynys Môn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Deilydd Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol:
“Mae darparu cartrefi o safon uchel, fforddiadwy a hygyrch yn flaenoriaeth allweddol i’r cyngor, ac mae gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai yn rhan bwysig o gyflawni’r nod honno.”
“Mae’r wobr hon yn cydnabod ymrwymiad y cyngor i fuddsoddi mewn cartrefi sy’n addas ar gyfer y dyfodol – cartrefi sy’n gyfforddus, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy fforddiadwy i’n preswylwyr eu cynnal. Mae’r gwaith yn cefnogi’r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun y Cyngor ac mae’n dangos yr effaith gadarnhaol y gall buddsoddi mewn tai ei gael ar gymunedau ledled Ynys Môn.”
Esboniodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Deilydd Portffolio Tai, Gwastraff a Newid Hinsawdd:
“Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn parhau i fod yn un o amcanion strategol allweddol y cyngor ac mae’r wobr hon yn dangos pa mor bwysig yw camau ymarferol er mwyn ein helpu i gyrraedd ein huchelgais i fod yn sefydliad sero net erbyn 2030.”
“Mae prosiectau fel yr un yma’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy leihau allyriadau carbon o gartrefi ac adeiladau, yn ogystal â hyrwyddo ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd ledled yr ynys.”
Dywedodd, i gloi, “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu penderfyniad y cyngor i ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng hinsawdd a chreu buddion amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Anglesey Solar & Electrical Ltd, “Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i wasanaethu fel prif gontractwr PMC 483 ers iddo ddechrau ac rydym yn hynod falch bod ei lwyddiant wedi’i gydnabod yn genedlaethol. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu gweledigaeth glir cyngor Môn i fynd i’r afael â gofynion ynni’r dyfodol yn ystod cyfnod o ansefydlogrwydd ynni ynghyd â gwaith caled ac ymrwymiad pawb sydd wedi ymwneud â’r prosiect.”
“Mae ein perthynas waith â Chyngor Sir Ynys Môn yn parhau i esblygu mewn modd gadarnhaol gyda buddion y prosiect a’r tenantiaid a gefnogir wrth wraidd hynny. Mae buddion PMC 483 eisoes yn cael profi gan denantiaid ac ni allem fod yn fwy balch o’r rhan yr ydym wedi’i chwarae yn ei lwyddiant.”
Mae’r cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau a chynlluniau sy’n cefnogi gweithredu ar yr hinsawdd, gwella ansawdd tai a helpu i greu cymunedau cynaliadwy ar hyd a lled Ynys Môn.
Diwedd 5 Mehefin 2026