Cyngor Sir Ynys Môn

Cwmni 2 Sisters yn cadarnhau bydd safle Llangefni yn cau’r mis yma

Mae Grŵp Bwyd 2 Sisters wedi cadarnhau y bydd yn cau ei ffatri prosesu ieir yn Llangefni ar Ddydd Gwener 31 Mawrth.

O 1 Ebrill ymlaen, amcangyfrifir mai dim ond oddeutu 20-25 o’r 730 o’r gweithlu presennol fydd yn parhau’n gyflogedig ar y safle.

Gwelir datganiad ar y cyd gan Grŵp Bwyd 2 Sisters a’r Undeb Unite wedi cael ei ryddhau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae hwn yn newyddion trychinebus i’r gweithlu a’u teuluoedd. Ein blaenoriaeth nawr fydd eu cefnogi cymaint ag sydd bosib a sicrhau bod holl bartneriaid tasglu 2 Sisters yn parhau i gydweithio ar eu rhan.”

“Bydd rhaid hefyd ganolbwyntio ar ddyfodol hirdymor y safle a’r effaith y bydd colli dros 700 o Swyddi yn ei gael ar ddyfodol yr Ynys a’r rhanbarth.”

Cyhoeddodd Grŵp Bwyd 2 Sisters ym mis Ionawr nad oedd ei ffatri prosesu ieir yn Llangefni yn gynaliadwy bellach a’u bod nhw'n bwriadu cau.

Aeth Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Ynys Môn, ati ar unwaith i sefydlu tasglu er mwyn cynnig cefnogaeth i’r gweithwyr a’r gymuned ehangach.

Bu hyn gynnwys sefydlu canolfan gymorth cyflogaeth yng Nghanolfan Fusnes Bryn Cefni yn y dref, gyda chymorth nifer o sefydliadau fel Cymru’n Gweithio, Cyngor ar Bopeth a Chanolfan Byd Gwaith.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J. Williams, “Ein blaenoriaethau nawr fydd darganfod swyddi newyd i'r weithwyr 2 Sisters a'u llesiant; sicrhau dyfodol hyfyw i’r safle a diogelu economi ein Hynys. Bydd ymrwymiad parhaol i gydweithio gan Lywodraeth Cymru a’r DU a phartneriaid eraill yn parhau’n hanfodol.”

Diwedd 9 Mawrth 2023