Cyngor Sir Ynys Môn

Croeso i Ynys Môn ‘Oed-Gyfeillgar’

Mae’r newyddion fod Ynys Môn wedi ei derbyn fel aelod swyddogol o Rwydwaith Byd-eang Cymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd wedi’i groesawu.

Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys dros 1,400 o gymunedau mewn 51 o wledydd ledled y byd. Fel aelod newydd o'r rhwydwaith, mae Ynys Môn yn rhan o symudiad byd-eang sydd yn ceisio creu cymunedau ble gall bawb edrych ymlaen at heneiddio’n dda ynddynt.

Gwnaethpwyd y cyhoeddiad swyddogol gan Bencampwr Oed-Gyfeillgar Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gwilym Jones, yn ystod cyfarfod ddiweddar o Fforwm Pobl Hŷn Ynys Môn yn M-SParc Gaerwen..

Dywedodd y Cyng Gwilym O Jones, "Ar ran Cyngor Sir Ynys Môn a’r Ynys yn ei gyfanrwydd, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Thîm Comisiynydd Pobl Hyn Cymru am y gefnogaeth yn ystod ein taith i fod yn aelodau o'r Rhwydwaith. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i adeiladu ar y berthynas bwysig hon, ac i ddatblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer trigolion yr Ynys."

Bu i’r Comisiynydd Pobl Hŷn i Gymru, Heléna Herklots CBE, longyfarch Ynys Môn am ymuno â’r Rhwydwaith Byd-eang Cymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.

Dywedodd Ms Herklots, “Mae hyn yn atgyfnerthu ymroddiad Ynys Môn i wneud ei gymunedau’n fwy oed-gyfeillgar. Bydd yn gweithio i sicrhau bod eu holl drigolion yn cael eu cefnogi i heneiddio’n dda a’n arddangos y cynnydd rydym yn gwneud yng Nghymru i ‘ychwanegu bywyd i flynyddoedd ac nid dim ond blynyddoedd i fywyd’.

“Mae ymuno a’r Rhwydwaith yn cynnig cyfle i’r Cyngor Sir a’i bartneriaid i ddysgu gan ddinasoedd, cymunedau a sefydliadau eraill ar draws y byd, ynghyd a rhannu ymarfer da a syniadau gan Ynys Môn.

Ychwanegodd, “Dwi’n falch o weld awdurdod lleol Cymraeg arall yn derbyn aelodaeth o’r Rhwydwaith WHO a’n gwybod bod nifer eraill ar draws Cymru wrthi’n cwblhau eu ceisiadau i ymuno a’r Rhwydwaith.

“Dwi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag Ynys Môn, a rheiny dal yn y broses ymgeisio, wrth i’w cynlluniau cael eu datblygu a chyflawni gyda phobl hŷn i sicrhau bod eu lleisiau a phrofiadau’n cael eu clywed a gweithredu arnynt.”

Roedd rhwydwaith o dros 100 o bartneriaid lleol ynghlwm â’r gwaith o sicrhau statws Ynys Môn Oed-Gyfeillgar.

Dywedodd deilydd portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol Môn, y Cynghorydd Alun Roberts, “Rydym yn hynod o falch o fod wedi cael ein derbyn i Rwydwaith Byd-eang Cymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n gamp ac yn anrhydedd i’r Ynys a phawb oedd ynghlwm â’r cais. Fodd bynnag, mae’r gwaith caled yn dechrau nawr, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod Ynys Môn yn gwneud y gorau o’i statws newydd a bod pawb yn gallu heneiddio’n dda.”

Ychwanegodd Seiriol Edwards - Rheolwr Strategaethau Pobl Hŷn, Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae hi’n holl bwysig nodi y dylai’r diolch mwyaf fynd i bawb sydd yn gweithio mor galed ar draws yr Ynys i sicrhau fod cefnogaeth a chyfleoedd wythnosol ar gael i drigolion Môn heneiddio’n dda.”

“Fel Cyngor Sir, rydym yn ffodus iawn o gael partneriaethau mor adeiladol gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Trydydd Sector. Mae’r ymrwymiad yma i gydweithio yn ein galluogi ymrwymiad i gydweithio yn ein galluogi i ddatblygu a chyflawni ar y cyd. Yn olaf, hoffwn ddiolch i’n Swyddog Datblygu Cymunedau Oed-Gyfeillgar, Sioned Young, am arwain y gwaith mewn ffordd mor broffesiynol a medrus.”

Am ragor o wybodaeth am fentrau heneiddio’n dda Ynys Môn cysylltwch â Sioned Young (Swyddog Datblygu Cymunedau Oed-Gyfeillgar, Cyngor Sir Ynys Môn):sionedyoung@ynysmon.llyw.cymru

Diwedd 14.7.23