Mae arddangosfa drawiadol sy’n dangos gwaith Charles Tunnicliffe a’r Academi Gelf Frenhinol yn cael ei chynnal ar hyn o bryd yn Oriel Charles F Tunnicliffe yn Oriel Môn.
Ers i Oriel Môn agor ei drysau yn 1991, mae ymwelwyr o bedwar ban byd wedi tyrru yma i weld y gwaith rhagorol gan yr arlunydd bywyd gwyllt enwog a fu’n byw ger yr Aber godidog ym Malltraeth, ble bu’n cofnodi ac yn paentio nifer fawr o wahanol fathau o adar.
Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ei gysylltiad â’r Academi Gelf Frenhinol yn Llundain. Yn 1928, dangosodd Charles Tunnicliffe ei ddau ddarn cyntaf o waith yn arddangosfa haf yr Academi Frenhinol. Bu’n arddangos ei waith yn rheolaidd drwy gydol y 1930au ac yn 1944, cafodd ei dderbyn fel aelod cyswllt am ei waith fel ysgythrwr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fe’i etholwyd yn aelod llawn o’r AF a dyna gychwyn perthynas ddisglair a llwyddiannus gydag un o’r sefydliadau celf mwyaf uchel ei barch yn y byd.
Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Adeiladau a Chasgliadau, Oriel Môn, “Mae’r arddangosfa hon yn ymchwilio i berthynas yr arlunydd gyda’r AF ac yn amlygu rhai o’r gweithiau a gyflwynodd yn ystod ei yrfa faith. Mae’r arddangosfa’n cynnwys detholiad diddorol o engrafiadau pren, ysgythriadau a lluniau dyfrlliw ac yn rhoi blas i ni o allu artistig anhygoel Charles Tunnicliffe.”
Bydd arddangosfa Charles Tunnicliffe a’r Academi Gelf Frenhinol yn cael ei chynnal hyd 23 Chwefror, 2020. Mae Oriel Môn ar agor bob dydd rhwng 10.00am a 5.00pm a cheir mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda ar 01248 724444 / www.orielynysmon.info
Diwedd 16.09.19