Bydd gweithgareddau arbennig dros yr haf yn ceisio helpu teuluoedd gan nad yw prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu dros gyfnod y gwyliau.
Bydd nifer o weithgareddau a gynhelir gan y cyngor sir a’i bartneriaid yn cynnig prydau i blant yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwefan benodol sy’n rhoi manylion y gefnogaeth sydd ar gael gan Teulu Môn, Dechrau’n Deg, Môn Actif a’r Gwasanaeth ieuenctid ar gael drwy fynd i:
www.ynysmon.llyw.cymru/cefnogaethhaf
Bydd staff mewn gwahanol weithgareddau yn gallu cyfeirio teuluoedd at gymorth sydd ar gael gyda chostau byw – yn cynnwys Canolfan J.E.O’Toole yng Nghaergybi a CAB Ynys Môn.
Bydd y wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am fanciau bwyd lleol a Bwyd Da Môn sydd bob amser yn agored i aelodau newydd.
Eglurodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Nid ydym yn dymuno i unrhyw blentyn fynd heb fwyd dros y gwyliau haf. Rydym wedi ystyried nifer o opsiynau yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri’r gefnogaeth dros wyliau’r haf.”
“Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â’n partneriaid er mwyn sicrhau bod nifer o’r digwyddiadau hwyliog ac am ddim ar gyfer plant Ynys Môn dros yr Haf. Bydd y digwyddiadau yma’n cynnig mwynhad, nifer eang o brofiadau a’n cefnogi llesiant.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Medi, “Bydd nifer o’r digwyddiadau yma’n cynnig bwyd a byddwn hefyd yn gallu cyfeirio teuluoedd at gyngor am gostau byw a’r gefnogaeth sydd ar gael gan fanciau bwyd lleol. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r teuluoedd hynny mewn angen ar Ynys Môn dros yr wythnosau nesaf.”
Gall banciau bwyd yr ynys ddarparu bwyd ac eitemau hanfodol eraill ar gyfer y rhai hynny sy’n profi caledi ariannol.
Banc Bwyd Amlwch - ardal Twrcelyn a hyd at ardal Benllech: Ffoniwch 07845 655 892
Banc Bwyd Môn – yr holl ardaloedd eraill: Ffoniwch: 07514 897 577 / 07738 729 651
Mae mwy o wybodaeth a chefnogaeth i’w gweld yma: www.ynysmon.llyw.cymru/cefnogaethhaf
Diwedd 25 Gorffennaf 2023