Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion sydd wedi derbyn canlyniadau TGAU heddiw.
Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones, y Deilydd Portffolio, “Rydym yn falch o lwyddiant ein pobl ifanc. Mae canlyniadau heddiw yn dystiolaeth o flynyddoedd o waith caled, ac mae’n bwysig ein bod yn dathlu llwyddiant, gallu ac ymroddiad ein pobl ifanc. Mae’n amserol hefyd i ddiolch i’r staff yn ein hysgolion sydd yn gweithio’n galed i gefnogi’r disgyblion i ennill y cymwysterau hyn, ar yr un pryd â dechrau paratoi ar gyfer yr holl newidiadau sydd i ddod ym myd addysg.
Nododd Arwyn Williams, y Pennaeth Dysgu: “Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion, a dymunaf yn dda i bob un o ddisgyblion Môn wrth iddynt symud i gyfnod newydd yn eu bywydau. Hoffem ddiolch hefyd i rieni'r disgyblion am eu cefnogaeth ar hyd y daith”.