Cyngor Sir Ynys Môn

Camgymeriad debyd uniongyrchol y Dreth Gyngor

Cyfrifon wedi talu ddwywaith

Hoffai’r cyngor sir ymddiheuro yn ddiffuant i’r trigolion hynny a effeithiwyd arnynt a chadarnhau bod camau wedi eu cymryd er mwyn cywiro’r camgymeriad.

Ddoe (29 Rhagfyr) tynnwyd ein sylw at y ffaith bod tua 1,300 o drigolion, a dalodd eu treth cyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar 21 Rhagfyr 2022, wedi talu ail ddebyd uniongyrchol mewn camgymeriad.

Digwyddodd hyn oherwydd methiant yn ein prosesau a hoffem ymddiheuro’n arw am yr anghyfleustra a’r poen meddwl a achoswyd.

Ar gyfer y rhai hynny sydd wedi talu ddwywaith mewn camgymeriad, bydd ad-daliad llawn am yr ail daliad yn cael ei roi yn ôl yn eich cyfrif heddiw (30 Rhagfyr 2022).

Rydym yn ymwybodol efallai bod rhai ohonoch eisoes wedi cysylltu â’ch banc ac wedi derbyn ad-daliad llawn yn barod. Fodd bynnag, gan nad ydym yn ymwybodol o fanylion pawb a allai fod wedi cael ad-daliad, rydym wedi penderfynu rhoi ad-daliad i bawb a effeithiwyd heddiw.

Byddwn yn cysylltu â’r rhai hynny sydd wedi derbyn dau ad-daliad yn y flwyddyn newydd er mwyn gwneud trefniadau amgen i dalu’r balans sy’n weddill yn ôl.

Os oes unrhyw un a dalodd ddwywaith wedi derbyn unrhyw gostau gan eu banc o ganlyniad i’r camgymeriad, cysylltwch â Thîm Refeniw'r Cyngor er mwyn trafod sut y gallwn ad-dalu unrhyw gostau a gawsoch.

Gellir cysylltu â’r tîm drwy ffonio 01248 750057 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Refeniw - opsiwn 3 - neu anfonwch neges e-bost at refeniw@ynysmon.llyw.cymru

Cyfrifon lle nad oes talid wedi’i gymryd

Rydym hefyd yn ymwybodol fod y rhai hynny a fyddai wedi disgwyl bod taliad yn cael ei gymryd ar 29 Rhagfyr heb weld taliad yn digwydd.

Ar gyfer y rhai hynny sydd heb dalu yn ôl y disgwyl, mae’r cyfarwyddyd i gasglu taliad mis Rhagfyr wedi’i roi i’n banc unwaith eto a bydd y taliad yn cael ei gymryd o’ch cyfrif ar 3 neu 4 Ionawr 2023.

Mae ein prosesau mewnol yn cael eu hadolygu er mwyn gallu adnabod lle gallwn wneud unrhyw welliannau angenrheidiol.

Rydym yn ymwybodol iawn, yn ystod y cyfnod argyfwng costau byw hwn, fod nifer o deuluoedd ac unigolion yn ei chael hi’n anodd i ymdopi’n ariannol. Mae camgymeriadau fel hyn ond yn ychwanegu ar y pryderon ariannol hyn ac unwaith eto, ymddiheurwn yn ddiffuant.