Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cais Porthladd Rhydd llwyddiannus yn cynnig hwb economaidd i Ogledd Cymru

Wedi'i bostio ar 23 Mawrth 2023

Mae’r newyddion am gais Porthladd Rhydd llwyddiannus i Ynys Môn wedi ei groesawu gan arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi.

Mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi cadarnhau y bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn un o ddau borthladd rhydd i’w sefydlu yng Nghymru.

Cafodd y cais ei ddatblygu drwy bartneriaeth cyfartal rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line – perchnogion Porthladd Caergybi a chyflogwr lleol sylweddol ers 27 mlynedd.

Mae sicrhau statws porthladd rhydd bellach â’r potensial i ddarparu gwir newid i gymunedau ledled Ynys Môn a rhanbarth ehangach gogledd Cymru. Bydd y cyngor sir a Stena Line rŵan yn bwrw ymlaen i baratoi achos busnes llawn.

Mae porthladdoedd rhydd yn diddymu rhwystrau masnach ac yn darparu hawddfreintiau sy’n symleiddio sut y gall busnesau weithredu. Yn ôl amcangyfrifon modelu, byddai’r porthladd rhydd yn denu gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad sydd wir ei angen, yn cynnwys tua 3,500 i 13,000 o swyddi cyflog uchel ar draws y rhanbarth.

Dywedodd arweinydd y cyngor sir a’r deilydd portffolio datblygiad economaidd, y Cynghorydd Llinos Medi, “Bydd statws porthladd rhydd yn bwysig er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair ar gyfer pobl Ynys Môn a gogledd Cymru yn ehangach. Yn y tymor hir, gobeithiwn y bydd yn creu datblygiadau economaidd a chyflogaeth gynaliadwy ar draws y rhanbarth.

“Mae gormod o’n pobl ifanc wedi gorfod gadael eu cymunedau er mwyn dod o hyd i swyddi da a sicrhau eu dyfodol. Rydym am i hynny newid a gall Porthladd Rhydd helpu.

Ychwanegodd, “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ganlyniad i lawer iawn o waith caled gan ein staff a’n partneriaid. Hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw ac i bobl Môn a Gogledd Cymru am gefnogi ein cais.”

“Byddwn rŵan yn cydweithio â Stena Line a phartneriaid allweddol eraill er mwyn paratoi achos busnes cynhwysfawr a chadarn a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn cefnogi ein nod o greu cymunedau sy’n iach, yn llewyrchus ac yn ffynnu a bydd yn helpu i gadw’r Gymraeg yn fyw ar yr ynys.”

Mae gan gais Ynys Môn gefnogaeth busnesau sylweddol o amrywiaeth o wahanol sectorau a diwydiannau gan gynnwys Rolls Royce, Bechtel a Last Energy ynghyd â phartneriaid addysgol sylweddol megis Prifysgol Bangor. Bydd hyn yn arwain at barth tollau diogel yng Nghaergybi ac ar safleoedd eraill ar Ynys Môn gyda threfniadau treth a thollau wedi eu cynllunio i ddenu buddsoddiadau sylweddol ar lefel domestig a rhyngwladol.”

Bydd statws porthladd rhydd hefyd yn darparu hwb sylweddol i Raglen Ynys Ynni'r cyngor sir - sy’n anelu i fod yn ganolfan ar gyfer ymchwil a datblygiad ynni carbon isel, cynhyrchiant arloesedd a gwasanaethu - ac mae’n cefnogi ei darged uchelgeisiol o gyflawni sero net erbyn 2030.

Dywedodd y prif weithredwr, Dylan J. Williams, “Rydym yn falch o fod wedi gallu gweithio ochr yn ochr â Stena Line, cwmni y mae gennym berthynas waith hir ac aeddfed â nhw, er mwyn paratoi’r cais Porthladd Rhydd hwn. Bydd y bartneriaeth yn parhau i fod yn hanfodol yn y dyfodol wrth i ni edrych i baratoi achos busnes llawn er mwyn sicrhau statws Porthladd Rhydd i Ynys Môn.”

“Fel cyngor sir, credwn fod y potensial gan statws Porthladd Rhydd i ddenu buddsoddiadau newydd sylweddol ynghyd ag arian er mwyn datblygu isadeiledd newydd, na fyddai ar gael fel arall.”

Mae Porthladd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot hefyd wedi derbyn statws porthladd rhydd yng Nghymru.

Diwedd 23 Mawrth 2023


Wedi'i bostio ar 23 Mawrth 2023