Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cais am arian sylweddol wedi’i gyflwyno er mwyn adfywio Caergybi

Wedi'i bostio ar 5 Awst 2022

Mae cais am arian sylweddol a allai sicrhau bod Caergybi yn ffynnu wedi ei gyflwyno i Lywodraeth y DU.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflwyno’n ffurfiol ei gais, gwerth miliynau o bunnoedd, er mwyn ceisio trawsnewid y dref.

Nod “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” yw stopio dirywiad canol y dref a dod â’r balchder yn yr ardal yn ôl i drigolion.

Mae’r cais yn cynnwys pecyn cyffrous o brosiectau er mwyn cynyddu cyflogaeth; gwella’r hyn sydd gan ganol y dref i’w gynnig a gwella profiadau ymwelwyr; cynyddu’r nifer o bobl sy’n cerdded ac yn gwario yn y stryd fawr a darparu lleoliad modern er mwyn bodloni anghenion busnes a chynyddu mynediad i’r celfyddydau, diwylliant a hamdden.

Petai’r cais yn llwyddiannus, byddai’n sicrhau gwerth £22.5 miliwn o fuddsoddiad gan gynnwys £17 Miliwn o’r Gronfa Codi’r Gwastad (Levelling Up Fund) a byddai’n darparu dros £54 miliwn o fuddion i’r gymuned leol.

Disgwylir i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad ar y broses ymgeisio gystadleuol yn ystod yr hydref.

Mae tref fwyaf yr Ynys, Caergybi, yn cynnwys rhai o’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Byddai’r cais yn gweld asedau lleol allweddol yn cael eu hehangu er mwyn gwneud yr ardal yn well lle i fyw ac ymweld ag ef.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caergybi, Môn CF, Canolfan Ucheldre a’r Eglwys yng Nghymru i ddeall anghenion yr ardal a chyflwyno pecyn o ymyrraethau yng Nghaergybi a’r cyffiniau.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir a’r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Roedd angen i ni sicrhau bod ein cais wedi’i ystyried yn ofalus ac yn manteisio ar gyfleoedd Cronfa Codi’r Gwastad, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau a chyfleoedd pobl leol.”

“Rydym wedi gweithio’n ofnadwy o agos gyda’n partneriaid ers bron i flwyddyn i ddatblygu eu syniadau ac mae gennym gais cryf sy’n bodloni holl ofynion Llywodraeth y DU. Roeddem hefyd angen cymeradwyaeth yr AS lleol Virginia Crosbie, sydd wedi cefnogi’r cais yn llawn.”

Ychwanegodd, “Gan fod y cais bellach wedi’i gyflwyno mae gennym ychydig o amser tan yr hydref cyn y byddwn yn clywed. Os ydym yn llwyddiannus, gall hyn fod yn gam mawr tuag at adfywiad Caergybi, gyda buddion yn lledu ar draws yr Ynys gyfan.”

Dywedodd Virginia Crosbie AS, “Rwy’n falch iawn o allu cefnogi’r cais gan Gyngor Sir Ynys Môn a diolch i’r swyddogion am eu gwaith. Mae’n hynod bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i wneud yr hyn a allwn yn lleol i ddatblygu, drwy wella’r economi a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a darparu mwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.”

“Rwyf wedi gweld fy hun faint o waith sydd wedi’i wneud i baratoi’r cais hwn a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb a gymerodd ran, o drigolion, busnesau, Cyngor Tref Caergybi, a’r holl bartneriaid eraill. Mae gennym gais uchelgeisiol i drawsnewid yr ardal. Mae Ynys Môn eisoes wedi derbyn bron i £200 miliwn o arian gan Lywodraeth y DU ers i mi ddod yn Aelod Seneddol a byddaf yn parhau i weithio’n galed yn San Steffan i sicrhau bod Ynys Môn yn parhau i fod ar y blaen ac yn ganolog i bolisi Llywodraeth y DU.”

Cafodd y cais “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” ei gyflwyno yn dilyn proses mynegiant o ddiddordeb cychwynnol ac yn dilyn rhoi ystyriaeth ofalus i’r meini prawf ariannu gan Lywodraeth y DU.

Mae’r cais yn alinio’n ofalus ag amcanion y Papur Gwyn Cronfa Codi’r Gwastad ac fe’i hystyriwyd fel yr unig un oedd â chyfle realistig o dderbyn cefnogaeth ac o lwyddo yn y broses ymgeisio gystadleuol hon.

Diwedd 5 Awst 2022

Darganfod mwy: Cronfa Codi'r Gwastad - Caergybi


Wedi'i bostio ar 5 Awst 2022