Mae cais am arian sylweddol fydd yn helpu i adfywio canol tref Caergybi ac yn hybu ei ffyniant wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU.
Cyflwynodd Cyngor Sir Ynys Môn gais gwerth miliynau o bunnoedd i’r Gronfa Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) ym mis Awst 2022.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU (Dydd Iau, 19 Ionawr) fod cais Caergybi ymysg y rhai llwyddiannus yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol.
Bydd cais “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” yn helpu i atal dirywiad canol y dref a dod â’r balchder yn yr ardal yn ôl i drigolion. Bydd yn helpu i drawsnewid y dref drwy sicrhau gwerth £22.5 miliwn o fuddsoddiad, gan gynnwys £17 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro, a byddai’n darparu dros £54 miliwn o fuddion i’r gymuned leol.
Roedd y cais yn cynnwys pecyn cyffrous o brosiectau er mwyn cynyddu cyflogaeth; gwella’r hyn sydd gan ganol y dref i’w gynnig a gwella profiadau ymwelwyr; cynyddu’r nifer o bobl sy’n cerdded ac yn gwario yn y stryd fawr a darparu lleoliad modern er mwyn bodloni anghenion busnes a chynyddu mynediad i’r celfyddydau, diwylliant a hamdden.
Fel tref fwyaf yr Ynys, mae Caergybi yn cynnwys rhai o’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Bydd y cais llwyddiannus yn gweld asedau lleol allweddol yn cael eu hehangu er mwyn gwneud yr ardal yn well lle i fyw ac ymweld ag ef.
Roedd cais Caergybi wedi’i alinio’n ofalus ag amcanion Papur Gwyn y Gronfa Ffyniant Bro ac fe’i hystyriwyd fel yr unig un oedd â chyfle realistig o dderbyn cefnogaeth ac o lwyddo yn y broses ymgeisio gystadleuol.
Bu Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caergybi, Môn CF, Canolfan Celfyddydau Ucheldre a’r Eglwys yng Nghymru i ddeall anghenion yr ardal a chyflwyno pecyn o ymyraethau yng Nghaergybi a’r cyffiniau.
Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn rhaglen gyllid gystadleuol sy’n cael ei asesu a’i gweinyddu gan Lywodraeth y DU. Awdurdodau Lleol yw’r unig gyrff sy’n gallu cyflwyno ceisiadau i’r gronfa sy’n ymwneud â thair prif flaenoriaeth; cefnogi adfywiad canol trefi a’r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol ac asedau diwylliannol a threftadaeth.
Cafodd y cais “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” ei gyflwyno yn dilyn proses mynegiant o ddiddordeb cychwynnol ac yn dilyn rhoi ystyriaeth ofalus i’r meini prawf ariannu gan Lywodraeth y DU.
Prif elfennau’r cynnig
Mae prif elfennau’r cynnig yn cynnwys:
• Estyniad sylweddol i Ganolfan Gelfyddydau Ucheldre - i ddarparu cyfleusterau gwell a mwy o gapasiti er mwyn galluogi’r sefydliad diwylliannol allweddol hwn i dyfu a chyrraedd mwy o bobl.
• Adnewyddu Eglwys Cybi Sant, un o brif asedau treftadaeth Caergybi, ynghyd ag Eglwys y Bedd, er mwyn sefydlu hwb cymunedol i helpu pobl leol a dod a mwy o fwrlwm i ganol y dref.
• Estyniad sylweddol i Gyngor Tref Caergybi a Hwylfan Canolfan Empire – dau o brif atyniadau dan do’r dref, i ymorol am y galw cynyddol a gwella edrychiad Traeth Newry i ddarparu cyfleusterau gwell i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
• Bydd Môn CF yn rhoi rhaglen ar waith i adfer adeiladau gwag, gan dargedu rhai o’n hadeiladu mwyaf ac amlycaf i greu mannau cymunedol cynaliadwy a bywiog, a sicrhau bod yr adeiladu hyn yn cael eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
• Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ymestyn ei raglen Trawsnewid Treflun hynod lwyddiannus i adnewyddu adeiladau treftadaeth er mwyn helpu i ddadwneud y dirywiad yng nghanol y dref.
• Gwelliannau pellach i Ganolfan Dreftadaeth Parc y Morglawdd, yn cynnwys gwella’r llwybrau a’r ardal gyhoeddus a’r llwybrau a chysylltiadau rhwng y Parc Gwledig a chanol y dref, fel bod mwy o bobl yn cael cyfle i ddysgu am dreftadaeth Caergybi, Ynys Cybi ac Ynys Môn.