Defnyddiwch 'Fy Nghyfrif' ar eich cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu ffôn clyfar neu ar ddyfais Android neu Apple drwy AppMÔN i gysylltu â’r cyngor am faterion yn eich ardal neu i wneud ceisiadau am wasanaeth.
Cofiwch gallwch ddefnyddio'r un cyfrinair ar gyfer AppMÔN a 'Fy Nghyfrif'.
MEWNGOFNODI - cwsmeriaid presennol
Rydym yn cynghori eich bod yn defnyddio porwr gwe modern, wedi’i gefnogi wrth ddefnyddio Fy Nghyfrif.
Sut i gofrestru gyda 'Fy Nghyfrif' - nodiadau pwysig
Mae cofrestru'n syml ond mae ychydig o bethau i'w nodi.
- Wrth gofrestru gofynnir i chi am eich cyfeiriad - ychwanegwch eich cod post ac nid eich cyfeiriad llawn os gwelwch yn dda. Defnyddiwch y fformat canlynol os gwelwch yn dda - rhowch fwlch rhwng dau rhan y cod post e.e. LL77 7TW. Bydd cwymplen o'r cyfeiriadau sydd ar gael yn ymddangos.
- Os cewch unrhyw broblemau wrth ddod o hyd i’ch cyfeiriad neu os yw yn anghywir, adroddwch y mater wrth ddefnyddio’r ffurflen ar-lein a mi wnawn sicrhau bod eich cyfeiriad yn cael ei atodi i’r basdata.
- Wrth gofrestru i ddefnyddio’r porth am y tro cyntaf, gofynnir i chi fynd i’ch cyfrif e-bost, agor yr e-bost y byddwn ni wedi’i anfon atoch chi a chlicio ar y ddolen i actifadu’ch cyfrif. Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i borth Fy Nghyfrif neu ddefnyddio’r ffurflenni heb actifadu’ch cyfrif o’r ddolen yn yr e-bost. Os nad ydych chi’n meddwl eich bod wedi derbyn e-bost, edrychwch yn eich ffolder Spam. Gallwn wirio a gweithredu’r cyfrif os oes angen, rhowch wybod i ni os yw hyn yn rhywbeth yr ydych am i ni ei wneud - adborthcrm@ynysmon.llyw.cymru
- Sicrhewch eich bod wedi ychwanegu "noreply@ynysmon.llyw.cymru" at eich rhestr o negeseuon e-bost a dderbynnir.
- Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu dabled, (nid AppMÔN), i ddefnyddio ffurflen yna gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y sgrin mewn ffurf tirwedd er mwyn dod o hyd i'r botwm 'Cyflwyno' a chwblhau eich cais am wasanaeth.
- Cofiwch bwyso'r botwm 'Cyflwyno' i gwblhau ffurflen. Ceir y botwm yma ar y dudalen ddiwethaf ble cewch y cyfle i wirio os ydi poeth yn gywir. Os ydych yn hapus pwyswch 'Cyflwyno'.
- Mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael - Sut i gofrestru ar 'Fy Nghyfrif'
- Os ydych yn cael problemau cofrestru cysylltwch â ni - adborthcrm@ynysmon.llyw.cymru
COFRESTRU - cwsmeriaid newydd
Rydym yn cynghori eich bod yn defnyddio porwr gwe modern, wedi’i gefnogi wrth ddefnyddio Fy Nghyfrif.
Manteision cofrestru gyda’r Cyngor
- ceir mynediad at rhai ffurflenni ond os ydych wedi cofrestru e.e. archebu biniau ailgylchu newydd oherwydd bod angen eich manylion personol er mwyn cyflawni’r cais am wasanaeth
- gallwch arbed y ffurflen hanner ffordd drwy’i llenwi a’i chwblhau yn ddiweddarach
- mewnbynnu eich manylion cyswllt unwaith yn ddiogel a’u cadw yn gyfoes
- mynediad at restr o’ch adroddiadau
Defnyddio dyfais symudol?
Beth am lawrlwytho AppMÔN?
(Ddim yn hygyrch gyda thechnolegau cynorthwyol)
I wneud bywyd hyd yn oed yn haws, mae "Fy Nghyfrif" ar gael fel cymhwysiad symudol, neu'n fwy syml fel "ap". Bydd gennych fynediad i holl ymarferoldeb fersiwn y porwr gwe, ond yng nghledr eich llaw; ynghyd â'r gallu i atodi lluniau a lleoliadau GPS i'ch adroddiadau Mae yna fanteision ychwanegol hefyd o gofrestru gyda AppMÔN; bydd yn caniatáu i chi dracio ceisiadau am wasanaeth; safio ffurflenni i’w cwblhau rhywbryd eto a chael at wasanaethau ychwanegol.
Gellir ei lwytho i lawr yn gyflym ac yn rhad ac am ddim o ‘Apple iTunes store’ ar gyfer ‘iPhones’ neu ‘Google Play store’ ar gyfer ffonau clyfar Android. A fyddech cystal os gwelwch yn dda â defnyddio’r termau chwilio, appmôn, AppMÔN, appmon, ynysmon, cyngor sir ynys mon neu isle of anglesey county council wrth chwilio am yr ap yn yr ‘appstore’ perthnasol.
I gael y gorau o'ch Ap, gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi'i osod i ddiweddaru'r Ap yn awtomatig, neu ddiweddarwch yr Ap â llaw yn rheolaidd.
Noder: Nid ydym yn cymryd taliadau drwy'r Ap.
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at
digidol@ynysmon.gov.uk er mwyn i ni allu eich helpu.