Mae cae chwaraeon 3G newydd Caergybi wedi agor ar ôl cwblhau’r gwaith tair wythnos yn gynnar – diolch i’r tywydd braf diweddar!
Bydd y cyfleuster chwaraeon modern gwerth £150,000, sydd wedi ei leoli ym Mharc Caergybi, yn cymryd lle cae Millbank ar gampws yr Ysgol Uwchradd.
Daeth Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Tref Caergybi ynghyd yn ddiweddar i gydweithio er mwyn gwella’r cyfleuster chwaraeon yn y dref. Buont yn gweithio â’i gilydd er mwyn creu astudiaeth dichonolrwydd, dylunio cynllun a dod o hyd i nawdd grant holl bwysig.
Llwyddodd Cyngor Tref Caergybi sicrhau grant o £135,000 gan Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon ar y cyd Cymru ac fe roddwyd caniatâd cynllunio i’r prosiect ym mis Chwefror.
Mae’r hen gyrtiau tennis ym Mharc Caergybi yn cael eu troi’n gae chwarae 3G newydd a fydd yn addas ar gyfer hyfforddiant rygbi ynghyd â phêl-droed, diolch i badiau sioc pwrpasol o dan yr wyneb. Bydd y llifoleuadau a’r ffensys hefyd yn cael eu huwchraddio.
Dywedodd Clerc Cyngor Tref Caergybi, Robert Henderson, “Bydd y cae chwarae 3G newydd ym Mharc Caergybi yn rhoi hwb sylweddol i gyfleusterau’n lleol.”
“Rydym yn falch iawn fod y gwaith ar y cyfleuster newydd wedi ei orffen yn gynnar, gan roi cyfle i’n plant a’n pobl ifanc ni wneud defnydd ohono yn ystod gwyliau haf.”
“Hoffwn ddiolch i Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon ar y Cyd Cymru am eu cymorth ariannol hael ac i Wasanaeth Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn am gydweithio gyda ni er mwyn darparu rhywbeth a fydd yn adnodd chwaraeon newydd rhagorol i’r dref.”
Bydd Cyngor Tref Caergybi hefyd yn adleoli’r cyrtiau tennis fel rhan o’r datblygiad. Mae astudiaeth dichonolrwydd ar y gweill i edrych ar y posibilrwydd o greu maes parcio newydd. Mae Caffi’r Pafiliwn hefyd wedi ei ailwampio ac mae mwy o seddi allanol wedi eu hychwanegu i’r parc.
Ychwanegodd deilydd portffolio Hamdden y Cyngor Sir, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Er effaith difrifol Coronafeirws, mae ein swyddogion wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau prosiect ymarferol a chost effeithiol. Rydym wedi gwneud hyn mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caergybi ac rwy’n hynod ddiolchgar i’w staff ac aelodau am eu cefnogaeth.”
“Fe wnaethom addo diweddaru’r hen gyfleuster Millbank, nad oedd yn addas, ac rydym wedi cydweithio â Chyngor Tref Caergybi er mwyn darparu adnodd cymunedol newydd o safon uchel.”
Bydd y cyfleuster ym Mharc Caergybi ar gael i ysgolion lleol yn ystod y dydd ac i grwpiau chwaraeon gyda’r nosau ac ar benwythnosau.
Mae Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon ar y Cyd Cymru yn cynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru.
Mae’r Cyngor Tref yn y broses o greu gwefan a system llogi bwrpasol ar gyfer y safle. Os am logi’r cae 3G newydd, yn y cyfamser, dylid ffonio Caffi’r Pafiliwn yn y Parc ar 01407 763662.
Diwedd 4.8.21