Cyngor Sir Ynys Môn

‘Mawredd Môn a Gwynedd’: Arddangosfa newydd gan yr Arlunydd Jenny Holland

Mae Oriel Môn yn falch o lansio arddangosfa newydd, ddydd Sadwrn 18 Mehefin, gan Jenny Holland sy’n byw yn Sir y Fflint.

Ganwyd Jenny yn Ealing, Gorllewin Llundain ym 1944. Mae hi’n cofio bod ei diddordeb mewn paentio wedi dechrau pan brynodd hi offer celf yn 15 oed gyda’i chyflog cyntaf yn gweithio mewn swydd gwyliau ysgol - mae celf wedi mynd â’i bryd ers hynny! Yn y dyddiau cynnar hynny roedd yn cael ei dylanwadu gan Cezanne a Van Goch sydd i’w weld yn ei harddull amlwg ac argraffiadol. Gwerthodd Jenny ei darn cyntaf o waith yn 17 oed ac mae hi o’r farn bod hynny wedi ei hysgogi’n arw.

Symudodd Jenny i’r Wirral gyda’i gŵr a’i dau o blant bach ym 1972 pan enillodd gystadleuaeth baentio a noddwyd gan Gyngor Sir Wirral. Mae Jenny yn nodi iddi gael ei hysbrydoli gan lythyr a ysgrifennwyd gan Van Gogh at Emile Bernard lle dywedodd “Mwynhewch gyda’ch llygaid”. Dyma ystyriaeth bwerus y mae Jenny wedi ei dilyn drwy gydol ei gyrfa wrth iddi fynd â’i llyfr brasluniau gyda hi i bobman y bydd yn mynd ac wrth iddi edrych yn agos ar ryfeddodau a lliwiau ein tirluniau newidiol.

Flynyddoedd wedyn, agorodd Jenny galeri a chwmni fframio lluniau, celfyddyd gain ac argraffu Giclee. Yn ystod y cyfnod hwn fe sefydlodd ei hun fel artist dyfrlliwiau gan gael gwaith comisiwn, addysgu amrywiaeth o grwpiau celf ac arddangos yn yr NEC.

Symudodd Jenny i Ogledd Cymru tua 20 mlynedd yn ôl, i Frynffordd i ddechrau ac yna i Ruthun, mae hi bellach yn byw yn Sychdyn, Sir y Fflint. Oherwydd salwch ei gŵr fe gaeodd Jenny ei busnes er mwyn bod yn ofalwr. Bellach ar ei phen ei hun, mae hi wedi dychwelyd at ei chariad cyntaf sef paentio olew impasto â chyllell.

Wrth grwydro, disgynodd Jenny mewn cariad ag Aberdaron ym Mhen Llyn yn y 70au cynnar a bydd hi’n dychwelyd yno’n aml. Yr arfordir sy’n ei denu fwyaf ynghyd â’r hen borthladdoedd a’r cymunedau pysgota. Mae Ynys Môn yn lleoliad arall mae Jenny yn ei ffafrio; bydd ond yn cymryd 50 munud i gyrraedd a bydd hi’n aml yn cychwyn ben bore er mwyn osgoi’r traffig a’r bobl. Bob tro roedd unrhyw ymlacio yn y rheolau Covid roedd hi’n gafael yn ei îsl a’i llyfr braslunio ac yn mynd i ddarganfod pethau newydd.

Mae Oriel Môn yn un o’i hoff fannau pan fydd hi’n Ynys Môn, meddai “Mae bob amser cymaint i’w weld wrth i’r arddangosfeydd newid – ac mae’r diweddar Kyffin Williams, rhywun arall oedd yn paentio â chyllell, wedi fy ysbrydoli bob amser. Rydw i wedi ceisio dal prydferthwch eiconig Môn a Gogledd Cymru ac rwy’n cofnodi rhywbeth sydd, yn olygfeydd newidiol – rydw i’n dymuno cofnodi’r foment hon mewn amser.”

Mae Jenny wedi cynnal nifer o arddangosfeydd unigol ac ar y cyd yn Swydd Caer, Wirral a Gogledd Cymru. Meddai Nicola Gibson, Rheolwr Profiadau Ymwelwyr Oriel Môn “Mae lluniau Jenny o Ynys Môn a Gwynedd yn arddangos prydferthwch a thawelwch ein tirlun godidog, dyma arddangosfa i godi calon a fydd yn gwneud i’n holl ymwelwyr ddymuno eu bod yn byw yma.”

Mae arddangosfa Jenny i’w gweld tan 31 Gorffennaf ac mae croeso i bawb. Mae Oriel Môn ar agor rhwng dydd Mawrth a dydd Sul, 10am i 5pm ac mae mynediad am ddim.

DIWEDD

END 6 Mehefin 2022