Cyngor Sir Ynys Môn

Arddangosfa Leonard McComb yn Oriel Môn

Egni, Natur, Dirgryniad

Leonard McComb RA (1930 – 2018)

Yr arddangosfa gyntaf o waith yr artist Leonard McComb RA ers 40 mlynedd, ers ei sioe yn Oriel Serpentine yn 1983, yn cael ei lansio yn Ynys Môn yn 2025.

Bydd arddangosfa Egni, Natur, Dirgryniad yn cael ei gynnal yn Oriel Môn rhwng 15 Chwefror a 3 Awst 2025. Ynys Môn a ysbrydolodd ei gysylltiad dwfn â natur a rhai o'i weithiau gorau.

Wedi'i ysbrydoli gan Van Gough a Cezanne, mae arsylwadau oesol yr artist dosbarth gweithiol Leonard McComb o bobl a'r byd naturiol yr un mor bwerus ddegawdau ar ôl eu creu. Credai’r artist fod popeth wedi’u cysylltu gan egni a dirgryniad, syniad sy’n dal yn hynod o berthnasol i gynulleidfaoedd heddiw sy'n ymwybodol o'r amgylchedd ac sy’n ganolog i’r arddangosfa hon o weithiau’r artist yn Oriel Môn sy'n ymestyn dros 50 mlynedd.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys 'Rock and Sea Anglesey', 1983, un o'r darluniau mwyaf mewn casgliad cyhoeddus, y gwaith dyfrlliw eiconig enfawr a ddiffiniodd ei yrfa yn y 70au a'r 80au, y cerflun efydd, 'Portrait of a Young Man Standing', a gymerodd ugain mlynedd i'w gwblhau, a'i baentiadau olew mwy diweddar sy'n arddangos ei ddawn arbennig i baentio portreadau.

Mae'r arddangosfa uchelgeisiol hon sy'n cynnwys darluniau a fenthycwyd gan y Tate, Oriel Gelf Manceinion, a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn dangos y cysylltiad annatod rhwng gwaith dramatig, hynod sensitif ac arwyddocaol dwys McComb â thirwedd yr oedd yn ei hadnabod mor dda.

Mae Oriel Môn yn oriel gyhoeddus ryfeddol o fawr a adeiladwyd dros ugain mlynedd yn ôl i gyflwyno rhaglen arddangos uchelgeisiol ac adrodd hanes artistig a threftadaeth yr ynys.

Bywgraffiad yr Artist

O strydoedd caled i neuaddau cysegredig: gyrfa McComb.

Er mwyn dianc rhag tlodi a thrafferthion gwleidyddol Gogledd Iwerddon yn y 1930au, dewisodd tad yr artist, Archie, a'i fam, Delia Bridgit, symud i Fanceinion pan oedd McComb yn blentyn bach.

Treuliodd yr artist ei ddyddiau cynnar yn ardaloedd caled Moss Side a Wythenshawe mewn dinas ddiwydiannol a oedd eisoes yn wynebu dirwasgiad. Er na chafodd McComb lawer o gyfleoedd artistig fel rhan o’i addysg uwchradd, cafodd McComb ei frwsys paent cyntaf gan ei dad (llythrennwr ac arlunydd amatur), a daeth y goedwig leol ger ei gartref newydd yn ffynhonnell gynnar o ysbrydoliaeth iddo gan roi cyfle i gysylltu â natur. Roedd ganddo bum brawd a chwaer, a phan fu farw ei dad yn ifanc bu’n rhaid i McComb fod yn gefn i'r teulu o oedran ifanc.

Ar ôl cwblhau cyfnod yn y Gwasanaeth Cenedlaethol, cofrestrodd yn yr ysgol nos yn Ysgol Gelf Manceinion lle cyfarfu ag artistiaid dylanwadol fel LS Lowry. Cafodd McComb lwyddiant yn yr amgylchedd newydd hwn, gan ennill ysgoloriaeth i Ysgol Gelf Slade ym 1956. Yn ystod y ddau ddegawd nesaf tra oedd yn addysgu ym Mryste, Llundain a Rhydychen, cafodd yr artist gydnabyddiaeth gan sefydliad yn Llundain a oedd yn cynnwys rhai artistiaid dosbarth gweithiol. Cafodd gwaith McComb ei gynnwys yn y sioe a guradwyd gan R.B Kitaj, sef ‘Human Clay’ yn Oriel Hayward yn 1976 (gan gynnwys Bacon, Freud, Hockney, Kossoff), Biennale Fenis yn 1980 (gan gynnwys Hir, Flannigan, Ackling, Fulton, Cragg), yna dangoswyd ei weithiau yn y Serpentine, a chynhaliwyd taith gan y Cyngor Celfyddydau yn 1983.

Ochr yn ochr â’i lwyddiant rhyngwladol fel artist annibynnol, daeth McComb yn ffigwr pwysig yn y byd addysgu, gan gyd-sefydlu Ysgol Gelf Sunningwell annibynnol yn 1973 (sydd bellach yn dathlu 50 mlynedd) i ddarparu addysg gelfyddydol fforddiadwy, gan hyrwyddo pwysigrwydd bywluniadau yn Goldsmiths yn ystod ei chyfnod celf cysyniadol yn yr 80au, ac aeth ymlaen i arwain Ysgolion yr Academi Frenhinol rhwng 1995 a 1998.

Prif Themâu Artistig

Natur oedd ffydd yr artist ac Ynys Môn oedd ei ysbrydoliaeth.

Er mai yn y brifddinas y cafodd yr artist ei lwyddiant i raddau helaeth, Ynys Môn, oddi ar arfordir Gogledd Cymru fu’r dylanwad mwyaf ar ei waith. Arferai ymweld yn rheolaidd â’r ynys ar ôl i’w fam symud yno i ddianc rhag helyntion Wythenshawe yn y 1970au. Ar yr ynys roedd cyfle i'r artist sylwi ar fyd natur ymhell o drafferthion Brixton, lle’r oedd ei gartref a'i stiwdio. Gyda mam Gatholig a thad Protestannaidd (priodas ddadleuol iawn yn Iwerddon yn y 1930au), nid oedd McComb yn ddieithr i ragrith crefyddol a dylanwad trais. Ei arsylwadau o fyd natur, ei astudiaethau amrywiol o Hanes Celf, Athroniaeth y Dwyrain, a diwylliant Celtaidd ei fagwraeth a oedd yn gyfrifol am y ffordd gyfannol yr edrychai ar ddynoliaeth a'r byd naturiol. Er bod gwaith McComb wedi'i wreiddio’n gadarn yn nhraddodiadau darlunio arsylwadol, roedd ei athroniaeth yn gwbl fodern. Nodweddir ei waith gan y syniad nad oes rhaniad rhwn dynoliaeth a natur, meddylfryd a rennir ag eco genedlaethau heddiw.

Uchafbwyntiau'r Arddangosfa

Rock and Sea Anglesey, 1983

Y darlun mwyaf mewn casgliad o Brydain yn 'dirgrynu' oddi ar y waliau.

'Rock and Sea Anglesey', 1983, yw'r gwaith mwyaf a wnaed gan yr artist ac mae’n mesur 10m x 3m. Bu’n gweithio am naw diwrnod ar y clogwyni ym Mae Benllech, gan sylwi ar gysylltiad y môr, y clogwyni, a'r awyr i greu’r gwaith hwn sy’n cyfleu egni naturiol y creigiau. Fe’i gwnaed ar 84 o dudalennau papur mawr, ar îsl gyda chreigiau calchfaen yn ei angori, ac er yr oriau a dreuliodd ar y creigiau ni chyfyngwyd ar raddfa ei waith. Gan ddefnyddio pensil, brwsh ac inc, a dyfrlliw, mae miloedd ar filoedd o linellau yn darlunio cornel ddramatig o Ynys Môn fel delwedd bwerus sy’n dirgrynu. Mae'r gwaith yn cyfleu popeth yr oedd McComb yn sefyll drosto: ei athroniaeth am y byd naturiol, arsylwadau o fywyd, a’r sylw amlwg i fanylion. Enillodd 'Rock and Sea Anglesey' Wobr Hugh Casson am Ddarlunio yn 2005 yn Sioe Haf yr Academi Frenhinol, ugain mlynedd ar ôl ei greu.

Gyda Bae Benllech ddim ond 15 munud o'r arddangosfa, mae hwn yn gyfle prin i weld y clogwyni calchfaen dramatig trwy lygaid McComb.

Ar ôl dinistrio ei holl waith yn gynnar yn y 1970au, ailddyfeisiodd McComb ei arddull gan greu cyfres o ddyfrlliwiau epig.

Mae dyfrlliwiau McComb o'r 1970au yn dirgrynu gydag egni haniaethol sy'n drosiad o gred gadarn yr artist fod pob peth byw wedi'i gysylltu. Ailddiffiniodd y gweithiau mawr hyn y defnydd o gyfrwng a gysylltir â brasluniau bach. Mae uchafbwyntiau'r arddangosfa'n cynnwys 'Woman by a Window', 1980 (2m x 1.6m), astudiaeth sy'n dangos merch noethlymun yn eistedd ac yn syllu allan drwy ffenestr mewn lleoliad trefol. Does dim byd ‘Rhamantaidd’ am y gwaith hwn, yn hytrach mae McComb yn dangos merch fodern mewn lleoliad realistig yn myfyrio. Mae'r ffigwr, yr ystafell, a'r olygfa o'r ffenestr wedi'u cysylltu trwy’r linellau dyfrlliw niferus. Roedd y dechneg hon yn drosiad ar gyfer y cysylltiad, yr egni a'r dirgryniad yr oedd artistiaid yn ceisio ei gyfleu. Mae ansawdd arallfydol i'r gweithiau golau ac etheraidd hyn sy'n cael ei gyferbynnu â naws pruddglwyfus trefol. Roedd yr artist yn ystyried bywluniadau fel ymarfer myfyriol a defnyddiodd hyn fel sail i'w ymarfer. Nid yw'r paentiadau byth yn rhamantiadd, ond yn hytrach yn ymgais i gyfleu’r ysbryd dynol o fewn natur.

Mae 'Garden Trees South London', 1980 (24.2 x 119.5cm) yn dangos croestoriad o foncyffion coed yn erbyn wal yng ngardd yr artist yn Brixton. Mae’r ffordd ofalus y mae McComb yn llunio ei linellau yn gwneud i’r wal a'r coed yn y paentiad edrych bron yn anwahanadwy, fel trosiad ar gyfer yr egni naturiol hollbresennol yn y lleoliadau mwyaf trefol. Mae tri darn o waith llai, 'Rocks at Amlwch' (90 x 112cm), 'Rocks at Anglesey' (141 x 115cm), a 'Cherry Blossom' (89 x 110cm), yn dangos ansawdd tebyg ar raddfa lai. Mae'n rhy anodd ystyried y gweithiau hyn fel bywydau llonydd syml neu arsylwadau o natur gan fod ei ddull hynod sensitif, lle mae’r cefndir a’r blaendir yn un, yn golygu eu bod bron yn haniaethol. Efallai ei fod yn esbonio dyfyniad mwyaf adnabyddus yr artist: "Mae pob darn o gelf yn ddehongliad haniaethol o Natur ac o gelf y gorffennol" - Leonard McComb.

Pŵer golau: cerfluniau sy'n darlunio egni a golau mewn symudiadau unigol.

Yn 'Sunlight on Sea Waves', 1983, mae'r artist yn lleihau disgleirdeb wyneb y môr i bum ffurf donnog. Mae'r gwaith yn fach ond yn bwerus, mae'r tonnau efydd disglair yn cyfleu egni trwy olau plyg. Yn wahanol i 'Rock and Sea Anglesey' y gallech edrych arno am oriau, mae 'Sunlight on Sea Waves' fel fflach, eiliad o egni sy'n creu argraff ar eich meddwl. Mae 'Four Lobes a Two Forms' yn hynod gyfarwydd heb fod yn ddarlun o ffurf naturiol benodol. Mae'r gweithiau hyn fel hedyn; maent yn cynrychioli twf ac mae eu harwyneb tynn, disglair yn ein hatgoffa o densiwn croen afal. 'Three Trees', 1983, yw un o gerfluniau mwyaf yr artist – nid yw’r gwaith wedi’i arddangos o'r blaen. Mae’r ffurfiau’n troelli’n naturiol fel petai'r artist yn ceisio dychmygu coeden yn tyfu. Trwy osod y tair ffurf yn agos at ei gilydd, mae'r artist yn cyfleu golau ac egni rhwng y ffurfiau. Mae un boncyff yn adlewyrchu un arall, sy'n adlewyrchu un arall, sy'n adlewyrchu un arall.

O natur i ryfel, mae McComb yn cyflwyno delwedd gadarnhaol o ddynoliaeth.

Mae cerflun enwocaf yr artist, 'Portrait of a Young Man Standing', 1963-1983, yn gerflun efydd maint llawn o ddyn gyda llaw agored a dwrn caeedig. Creodd McComb, a bryderai’n fawr am y gwrthdaro yn ystod y degawd megis y Rhyfel Oer a Rhyfel Fietnam, y cerflun hwn fel delwedd gadarnhaol o ddynoliaeth. Mae llaw agored y ffigwr a'r dwrn caeedig yn symbol o allu dyn i gyflawni "gweithredoedd pwerus a thyner, yn gorfforol ac yn ddeallusol". Yn seiliedig ar astudiaeth bywyd o fodel yn ystod ei gyfnod yn addysgu ym Mryste, mae'r gwaith yn ein hatgoffa o gerfluniau’r Aifft a'r Hen Roeg. Cymerodd ugain mlynedd i'r gwaith (rhan o gasgliad Oriel Gelf Manceinion) gael ei gwblhau, gyda'r fersiwn derfynol yn cael ei chreu mewn efydd llathredig yn 1983, ac mae i’w weld yn yr arddangosfa. Mae'r cerflun cyntaf sydd wedi'i orchuddio â deilen aur i'w weld yng Nghasgliad y Tate.

Artist oedd yn paentio 'pobl' yn hytrach na gwneud 'portreadau'.

Yn ystod ei fywyd, pur anaml y gwnâi McComb bortreadau wedi’u comisiynu, yn hytrach dewisodd baentio ffrindiau, teulu, cydweithwyr, myfyrwyr, ac weithiau pobl y cyfarfu â nhw ar y stryd. Fel ei arsylwadau o'r byd naturiol, roedd McComb eisiau cyfleu’r egni a welai yn y bobl yr oedd yn eu harsylwi. I McComb, doedd y portread ddim yn symbol o statws, ond yn gyfle i gysylltu â bywyd mewnol y rhai o'i gwmpas, yr egni mewnol.

Mae gan 'Portrait of Louise', 1980, pensil ar bapur, ansawdd tebyg i 'Rock and Sea' - wedi'i lunio o filoedd o linellau a’r ansawdd yn arbennig. Mae ei bortread o'i ffrind 'Carel Weight', 1990 (Casgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol), yn dirgrynu gydag ansawdd tebyg, lle cyflwynir personoliaeth ac osgo ei ffrind trwy linellau siglog sy'n dawnsio ar draws wyneb y gwaith. O ddiwedd y 90au i 2000 ymlaen canolbwyntiodd McComb ar gyfres o bortreadau sy'n cynrychioli pinacl aeddfedrwydd yr artist. Efallai bod portread McComb o'r nofelydd 'Doris Lessing' a enillodd Wobr Nobel, 1999 (Casgliad Oriel Bortreadau Cenedlaethol), ymgyrchydd yn erbyn arfau niwclear, a gwrthwynebydd apartheid yn enghraifft o McComb yn cysylltu ag enaid hoff cytûn. Mae portread McComb o 'Phillipa Cooper', 2002, merch un o'i ffrindiau agosaf, yn dangos merch yn ei harddegau yn erbyn patrwm o garped Persiaidd oedd gan yr artist yn ei stiwdio. Mae naws hyfryd i'r gwaith hwn ac mae’n gosod y ferch ifanc hon, y gwelodd hi’n tyfu i fyny, yn erbyn cefndir o ddelweddau o fyd natur. Mae'r gwaith yn atgyfnerthu'r syniad bod dyn a natur yn un wrth ddarlunio personoliaeth a thalu teyrnged i blentyn a ystyriai fel aelod o’r teulu.

Efallai mai portread pwysicaf yr artist yw’r portread o’i fam. Mae’r gwaith hwn, sy’n dangos sensitifrwydd arbennig, yn ganlyniad i oes o arsylwi ac yn mynegi'r cwlwm unigryw rhwng y fam a'r plentyn. Yn y portread mae Delia Bridgit, ym mlynyddoedd olaf ei bywyd, yn eistedd yn dawel gyda phaned o de yn ei llaw yn Ynys Môn, ac yn synfyfyrio. Darlunia McComb wyneb ei fam yn fanwl drwy linellau a marciau tebyg i’r rai sydd i'w gweld yn 'Rock and Sea'. Mewn rhyw ffordd fach, mae'r portread rhyfeddol hwn o'i fam yn cynnwys yr hyn a olygai’r ynys iddo yn ei hanfod, sef man a fu’n ffynhonnell ysbrydoliaeth bwysig i'r artist a lle daeth Delia Bridgit, ar ôl bywyd caled, o hyd i'w chartref a heddwch.

"Mae fy ngwaith i gyd yn deillio o deimladau am harddwch siapiau natur ac egni. Mae darlunio’n broses o chwilio i ddarganfod siâp anghymesur unigryw ac egni mewnol ffurfiau natur. Yn hyn o beth, mae popeth rwy'n ei ddarlunio, ei baentio, ei gerflunio yn bortread boed yn lili wen fach, yn fynydd, yn ben dynol" - Leonard McComb RA.

 

Diwedd 28 Tachwedd 2024