Cyngor Sir Ynys Môn

Annog pob darparwr llety gwyliau i wneud eu rhan

Mae Adain Gwarchod y Cyhoedd Ynys Môn yn annog parciau gwyliau, safleoedd gwersylla a phob darparwr llety gwyliau arall ar yr ynys i weithredu'n gyfrifol a chwarae eu rhan i amddiffyn ein cymunedau a'n gwasanaethau GIG lleol.

Mae rheoliadau a chanllawiau'r Llywodraeth yn glir y dylai'r holl lety gwyliau gan gynnwys meysydd gwersylla a pharciau carafanau fod wedi cau ers 24 Mawrth 2020. Rhaid iddynt aros ar gau tan y cânt eu hysbysu fel arall, oni bai eu bod wedi'u heithrio neu wedi gofyn am ganiatad penodol a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru neu’r Awdurdod Lleol.

Rhaid i unrhyw ddarparwr llety sy'n dymuno lletya gweithwyr allweddol ofyn am ganiatâd gan yr awdurdod drwy anfon neges e-bost at ehealth@ynysmon.llyw.cymru . Dylai unrhyw fusnes sydd eisoes yn darparu llety i weithwyr allweddol, hysbysu'r awdurdod cyn gynted â phosibl fel y gall asesiad diogelwch a chyngor penodol gael ei ddarparu i gadw pawb yn ddiogel.

Ni ddylai unrhyw ddarparwr llety fod yn darparu llety gwyliau i ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn lle mae cyfyngiadau symud mewn grym - o dan unrhyw amgylchiadau. Bydd unrhyw berson a ddarganfyddir nad yw'n cydymffurfio yn cyflawni trosedd a gallai dderbyn rhybudd o gosb sefydlog / Rhybudd gwahardd neu erlyniad, y mae'r ddirwy yn ddiderfyn ar ei gyfer.

Fodd bynnag, gall busnesau hysbysebu eu llety eto yn y dyfodol, unwaith y bydd y cyfyngiadau ar symud wedi eu codi, ond rhaid iddynt aros ar gau tan y bydd y Llywodraeth yn dweud ei bod hi’n ddiogel iddynt ailagor. Hyd yma, nid yw'n hysbys pryd fydd hynny.

Dylai unrhyw un sydd â thystiolaeth o lety gwyliau yn torri'r rheolau hyn riportio'r mater drwy anfon neges i ehealth@ynysmon.llyw.cymru

Dywedodd Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd Môn, Les Pursglove, “Rydym yn gwerthfawrogi mai gwyliau'r Pasg yw dechrau’r tymor gwyliau yn y sector twristiaeth, ond yn ystod cyfnod y pandemig digynsail hwn, rydym yn annog darparwyr llety gwyliau i wneud eu rhan i atal y feirws rhag lledaenu, amddiffyn ein cymunedau a gwasanaethau iechyd lleol ac achub bywydau yn y pen draw.”

“Mae cydymffurfio â’r cyfyngiadau ar symud nid yn unig yn ofyniad cyfreithiol ond hefyd dyma’r peth cyfrifol i'w wneud. Dim ond os yw pawb yn gwneud eu rhan y bydd gennym unrhyw siawns o achub bywydau a chael y cyfyngiadau hyn wedi eu codi yn gynt.”

Diwedd 12.4.20