Ein gweledigaeth ar gyfer y bum mlynedd nesaf yw ‘creu Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle gall bobl ffynnu.’
Byddwn yn Sioe Môn (y Primin fel y’i gelwir yn lleol) yr wythnos nesaf er mwyn amlygu sut y byddwn yn gweithio i gyflawni hyn drwy ein Cynllun y Cyngor newydd a’i nodau holl bwysig.
Bydd Cynllun y Cyngor 2023 i 2028 yn darparu canolbwynt ar gyfer yr holl benderfyniadau y byddwn yn eu gwneud yn y dyfodol; fframwaith ar gyfer gallu cynllunio a gyrru blaenoriaethu; llunio gwariant blynyddol; monitro perfformiad a’r cynnydd sydd wedi’i wneud.
Bydd mynychu un o ddigwyddiadau mwyaf yng nghalendr Ynys Môn, Sioe Môn – a gynhelir ym Mona ger Gwalchmai ar 15 a 16 Awst – yn rhoi cyfle i ni godi ymwybyddiaeth am ein gweledigaeth, ein nodau ac amcanion am y bum mlynedd nesaf.
Chwe phrif flaenoriaeth Cynllun y Cyngor yw:
- Yr iaith Gymraeg – cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith
- Gofal cymdeithasol a llesiant – rhoi’r cymorth cywir ar yr adeg cywir
- Addysg – sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol
- Tai – sicrhau fod gan bawb yr hawl i alw rhywle yn gartref
- Economi – hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi’r ynys
- Newid hinsawdd – ymateb i’r argyfwng, mynd i’r afael â newid a gweithio tuag at fod yn sefydliad sero net erbyn 2030
Bydd staff o amrywiaeth o wahanol wasanaethau wrth law er mwyn egluro sut y bydd eu rolau o ddydd i ddydd yn helpu i ddarparu Cynllun y Cyngor dros y bum mlynedd nesaf.
Eglurodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae ein presenoldeb yn Sioe Môn yn gyfle i amlygu sut mae’r cyngor sir yn gweithio ar ran trigolion a chymunedau lleol.
“Cafodd y Cynllun y Cyngor newydd ei greu gyda mewnbwn gan drigolion, busnesau, rhanddeiliaid a phartneriaid lleol. Wrth wraidd y cynllun mae ein dymuniad i barhau i gydweithio â nhw er mwyn sicrhau’r gwasanaethau gorau posibl, gwella ansawdd bywyd i bawb a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Medi, “Rydw i hefyd yn falch o weld y Sioe yn mynd o nerth i nerth yn dilyn Covid-19 ac rwy’n dymuno’r gorau i’r trefnwyr, y cystadleuwyr a’r rhai sydd â stondinau yn y Sioe dros y ddau ddiwrnod.”
Gallwch ddod o hyd i babell y cyngor sir ar stondin D112. Bydd gennym ddigwyddiadau chwaraeon i blant ac arddangosfeydd crefftau coed traddodiadol y tu allan. Bydd ein tîm Môn Actif hefyd yn rhedeg ardal chwaraeon y sioe ynghyd â’u partneriaid.
Rydym hefyd yn falch o fod yn croesawu gwirfoddolwyr o orsaf radio gymunedol yr Ynys, MônFM yn ôl, wrth iddynt ddarlledu o’r stondin.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J. Williams, “Fel Cyngor Sir, rydym yn falch iawn o fod yn ôl yn y Sioe unwaith eto, yn cefnogi’r digwyddiad arbennig hwn. Mae Sioe Môn yn codi proffil yr Ynys ac yn cefnogi ein heconomi amaethyddol a’r economi ehangach.”
“Ni allaf feddwl am unrhyw le gwell na Sioe Môn i gyfleu i bobl ein gweledigaeth a’n dyheadau ar gyfer yr ynys.”
Diwedd 7 Awst 2023
Nodyn i olygyddion
Gweledigaeth Cynllun y Cyngor yw ‘creu Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle gall bobl ffynnu.’
Mae’r chwe phrif amcan yn adlewyrchu’r meysydd allweddol y mae trigolion yn meddwl y dylai’r cyngor fod yn canolbwyntio arnynt. Cawsant eu datblygu gan ddefnyddio barn bobl leol, partneriaid, blaenoriaethau gwleidyddol a Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru.
Mae’n cael ai ategu gan werthoedd craidd y sefydliad a fydd yn cael eu defnyddio i ddatblygu ac arwain ei weledigaeth, cynlluniau strategol a gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Wrth gydnabod y gwerthoedd hyn byddwn yn:
- bod yn barchus ac yn ystyriol tuag at eraill er gwaethaf ein gwahaniaethau.
- gweithio fel tîm, gyda’n cymunedau a’n partneriaid, i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer pobl Ynys Môn.
- bod yn ymrwymedig i safonau uchel o ran ymddygiad ac uniondeb
- creu ymdeimlad o falchder mewn gweithio i’r Cyngor ac yn cyflwyno delwedd gadarnhaol o’r ynys.