Cyngor Sir Ynys Môn

‘Adfywio trwy arlunio’

Arddangosfa Gilly Thomas a Louise Morgan yn Oriel Môn 11 Medi i 31 Hydref 2021.

Bydd un o’r arddangosfeydd mwyaf eclectig a gwreiddiol yn agor yn y Brif Oriel Gelf yn Oriel Môn ar yr 11 Medi. Mae’n bleser gan yr Oriel groesawu Gilly Thomas a Louise Morgan, dwy artist gwahanol iawn, a fydd yn arddangos eu gwaith gyda’i gilydd am y tro cyntaf.

Dywedodd Gilly Thomas, "Rydw i wedi treulio bron i 50 mlynedd yn gwneud a dysgu Celf, a thua 40 mlynedd o’r rheiny yma yng Nghymru. Rydw i’n aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig, ac hefyd yn arddangos fy ngwaith yn oriel Ffin y Parc. Efallai y bydd rhai ohonoch y cofio fy arddangosfa unigol yn Oriel Môn, Uncanny Connections.

"Fe wnes i gwrdd â Louise am y tro cyntaf mewn sesiwn bywlunio a dwi’n cofio meddwl ‘Mae hon yn ecsentrig!’ Mae’n berson deinamig ac angerddol ac un o’r bobl mwyaf diwyd i mi eu cyfarfod erioed, ac rydym yn rhannu’r un awch i creu celf sydd ag ystyr iddo.

"Gyda’i gilydd fel ddylai’n dulliau gwahanol greu arddangosfa ddiddorol iawn.

"Mae’r ddwy ohonom yn hapus i rannu’r arddangosfa ‘Adfywio trwy Arlunioyn Oriel Môn yn y gofod enfawr sydd ar gael yno, a gyda chefnogaeth broffesiynol yr Oriel.

Cerdd a Chelf – os ydych chi’n artist peidiwch â rhoi’r gorau iddi, byth.”

Ychwanegodd Louise Morgan “Tyfais i fyny yn yr ardal leol (Bethel ger Caernarfon) ac mae gen i gof plentyn o fy nhad yn paentio efo olew. Fel plentyn ac oedolyn ifanc roeddwn yn hoff iawn o fraslunio a doeddwn i fyth heb bensil yn fy llaw. Yn dilyn y dirwasgiad yn yr 80au, penderfynais astudio meddyginiaeth yn y Brifysgol, roedd cymhlethdod y cwrs, gweithio fel meddyg a chael plant yn golygu nad oedd llawer o le i gelf yn fy mywyd. Fodd bynnag, yn dilyn marwolaeth annisgwyl fy chwaer 'fengach fe ddechreuais baentio eto fel ffordd o fynegi fy ngalar. Cefais fy ysbrydoli gan raddfa’r tirluniau lleol a’r ffordd yr oedd beirdd Cymru yn paentio drwy eiriau. Gweithiais yn yr awyr agored gan ddod i gael fy adnabod fel y “Doctor Paentio”. Dechreuais weithio fel artist amser llawn ddeg mlynedd yn ôl.

"Fe wnes i gyfarfod Gilly mewn sesiwn arlunio byw. Yn debyg i mi, roedd hi’n angerddol dros fynegi ei hun drwy gelf. Cefais fy nenu’n syth at ei brwdfrydedd ac roeddwn yn teimlo’n gartrefol iawn gyda’i gonestrwydd am fy ngwaith. Mae’r gonestrwydd hwnnw wedi hwyluso fy natblygiad fel artist. Yn aml iawn mewn ysgol gelf bydd “llais yr artist” yn cael ei ystyried yn rhywbeth pwysig ond mae’n gred gen i y gall un artist ganu sawl cân gyda’r lleisiau i gyd yn ffurfio côr. Dyna dwi’n anelu ato yn fy nghelf a dyna dwi’n ei weld yng ngwaith celf Gilly Thomas. Felly, roedd yn benderfyniad hawdd cynnal arddangosfa gyda’n gilydd.

"Rydym yn ffodus iawn o fod yn arddangos yn Oriel Môn, mae’r galeri yn groesawgar gydag agwedd broffesiynol ac mae nifer o atyniadau eraill sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r arddangosfa”.

Dau artist gwahanol iawn y mae’r ddau ohonynt yn cydnabod y grym unigol sydd gan Gelf er mwyn dod yn rhyw fath o warchodwr, yn wir rywbeth sy’n hanfodol. Mae Gilly Thomas yn mwyngloddio am y delweddau gwibiog sy’n gallu dangos teimladau mewn modd gweledol. Weithiau’n hynod, weithiau’n absẃrd, mae’r grym yno i gael gwared ar gythreuliaid ond hefyd awgrymu dehongliadau cysylltiol. Cryptig, eironig ac obsesiynol, mae’r gweithiau hyn yn cael teitlau a allai gadarnhau neu gamgyfeirio. Mae lluniau a phaentiadau Louise Morgan wedi eu hysbrydoli gan farddoniaeth Cymraeg, ei rhyfeddod o’r tirlun ac etifeddiaeth ingol yn yr amgylchedd naturiol o hanes diwydiannol yn diflannu. Yn y stiwdio, mae hi wedyn yn gweithio mewn modd arbrofol a mynegiannol ar y pwnc hwn gan ddatblygu’r posibiliadau aneirif o baent a marciau arloesol gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau. Yn llawn o deimladau treigl amser, mae’r gweithiau pwerus hyn yn galw ar ysbrydion cenedlaethau’r gorffennol.

Mae’r arddangosfa ‘Adfywio trwy Arlunioar agor tan yr 31 Hydref, ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae Oriel Môn ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sul, rhwng 10am a 5pm. Gofynnir i gwsmeriaid lynu wrth y gweithdrefnau diogelwch tra byddant ar y safle.

Bydd Caffi Dewi Oriel Môn yn gweini rhwng 10am a 3.45pm (archeb olaf 3.15pm). Mae seddi ar gael tu mewn a tu allan ond fe’ch cynghorir i archebu ymlaen llaw rhag cael ei siomi. Cewch aros wrth eich bwrdd am 1 ½ awr. I archebu bwrdd yn y caffi, ffoniwch Caffi Dewi Oriel Môn: 01248 751 516.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch:-01248 724444 / oriel@ynysmon.llyw.cymru

Diwedd 6 Medi 2021