Cyngor Sir Ynys Môn

Addewid o drydan glân yn hwb i gynlluniau ynni newydd

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi croesawu addewid Llywodraeth y DU i sicrhau pŵer fforddiadwy, glân a dibynadwy i gartrefi a busnesau erbyn 2035.

Yn ddiweddar, bu’r Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Gwir Anrhydeddus Kwasi Kwarteng AS, ddatgelu cynlluniau ar gyfer darparu system drydan wedi’i datgarboneiddio.

Bydd cynlluniau yn canolbwyntio ar adeiladu sector ynni diogel, wedi’i ddatblygu gartref - a fydd yn cynnwys technolegau gwyrdd megis gwynt y môr ac ynni niwclear - er mwyn cefnogi’r newid o ddibyniaeth ar danwyddau ffosil ac amlygiad i brisiau ynni cyfanwerthol byd-eang cyfnewidiol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae addewid Llywodraeth y DU i ddod â’i ymrwymiad i ddatblygu system bŵer wedi’i datgarboneiddio’n llawn ymlaen 15 mlynedd yn newyddion cadarnhaol iawn.”

“Os yw’r cynlluniau hyn yn mynd i gael eu gwireddu, rhaid i brosiectau niwclear newydd chwarae rôl sylweddol yn hynny. Mae hyn yn newyddion da i safle Wylfa yn Ynys Môn, gan mai hwn fel y gwyddwn, yw’r safle gorau ar gyfer datblygu yn y DU. Mae’r Ynys wedi dangos ei chefnogaeth ar gyfer datblygiad newydd ar safle’r Wylfa am nifer o flynyddoedd; ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan er mwyn darparu cynhyrchiad ynni glân a dibynadwy.”

“Byddai datblygiad safle Wylfa yn alinio â gweledigaeth Rhaglen Ynys Ynni'r Cyngor, sydd â’r nod o greu cyfleoedd am swyddi, twf economaidd a ffyniant. Byddai’r cyfleoedd hyn yn elwa pobl a busnesau ar yr Ynys a ledled gogledd Cymru.”

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi manylion pellach ar ei gynlluniau ehangach i gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050, drwy ei strategaeth sero-net, a gyhoeddir cyn i’r DU gynnal yr uwchgynhadledd hinsawdd UN COP26 yng Nglasgow.

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Deilydd Portffolio’r Economi a Phrosiectau Mawr, “Mae trigolion Ynys Mon wedi cael eu siomi gormod o weithiau. Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif, mae rhaid i ni weld yr arian sydd ei angen er mwyn cyflymu datblygiadau ynni newydd a sicrhau bod datblygiad niwclear yn mynd ymlaen ar safle’r Wylfa. Mae cynnwys cyllid ar gyfer y cam cyn-ddatblygu yn yr Adolygiad Cynhwysfawr ar Wariant ddiwedd y mis hwn yn hanfodol a hynny o ran y gallu i gyflawni sero-net ac adfywio economi Ynys Môn yn yr hirdymor.”

Diwedd 18 Hydref 2021