Cyngor Sir Ynys Môn

Achosion Coronafeirws yn cynyddu’n frawychus o gyflym ar Ynys Môn

Mae cynnydd brawychus o gyflym yn nifer yr achosion o’r Coronafeirws ar Ynys Môn wedi arwain at apêl o’r newydd gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi a’r Prif Weithredwr, Annwen Morgan.

Mae’r holl drigolion yn cael eu hannog i ddilyn cyfyngiadau Lefel 4 Cymru yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o’r Coronafeirws ar Ynys Môn ers y Flwyddyn Newydd.

Ddoe (dydd Mawrth, 5 Ionawr) yn unig, roedd y data lleol a gasglwyd yn dangos 29 o achosion newydd ar Ynys Môn.

Mae’r Tîm Profi, Olrhain, Amddiffyn wedi cofnodi 88 o achosion positif o’r Coronafeirws yn y pum diwrnod diwethaf yn unig. Cofnododd Ynys Môn 229 achos drwy gydol mis Rhagfyr. Yn seiliedig ar y ffigyrau hyn, gallem fod yn wynebu ein lefel uchaf o achosion ers dechrau’r pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, “Wrth i nifer yr achosion gynyddu’n sylweddol ar Ynys Môn, mae hi bellach yn bwysicach nac erioed ein bod ni’n dilyn y canllawiau hollbwysig. Mae’r rheolau yno i amddiffyn ein hanwyliaid, ein cymunedau a’r GIG.”

“Rwy’n llawn dderbyn fod y 10 mis olaf wedi bod yn hynod o anodd a heriol i bawb. Fodd bynnag, ni allwn adael i’r gwaith caled yr ydym wedi’i wneud hyd yma fynd yn wastraff. Rhaid i ni barhau i fod mor wyliadwrus â phosib.”

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae mwy na 14% o’r 839 o drigolion Ynys Môn a brofwyd wedi derbyn canlyniad positif – cynnydd o 8% ar yr wythnos flaenorol.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan, “Rydym ar hyn o bryd yn gweld lefelau uchel o’r Coronafeirws mewn pobl o bob oedran. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn trosglwyddiad cymunedol ac o fewn cartrefi. Rwy’n apelio eto ar bobl i gadw eu hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau a chymunedau Ynys Môn yn ddiogel drwy gydymffurfio’n llawn â’r cyfyngiadau hyn.”

Ychwanegodd, “Mae’r Ganolfan Brofi ar gael yn Llanfairpwll ac rwy’n annog unrhyw un ar Ynys Môn sydd ag unrhyw symptomau i drefnu prawf cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn mynd am brawf, mae’n hanfodol fod pawb yn eich cartref yn hunanynysu ar unwaith tan i chi gael canlyniad y prawf.”

Rhaid i drigolion Ynys Môn sy’n dangos symptomau Coronafeirws drefnu prawf cyn ymweld â’r ganolfan brofi. Gellir trefnu prawf drwy ffonio 119 neu drwy’r wefan: https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19

Mae’r ganolfan brofi wedi ei lleoli ym maes parcio rhannu a theithio St Tysilio ac mae ar agor rhwng 9:30am a 3:30pm.

I gadw Ynys Môn a Chymru yn ddiogel:

  • aros gartref
  • cyfarfod pobl yr ydych yn byw gydag yn unig
  • gweithio o gartref os gallwch
  • gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen
  • golchi eich dwylo’n rheolaidd
  • agor ffenestri i ganiatáu awyr iach i mewn
  • aros 2 fetr wrth unrhyw un nad ydych yn byw gydag

Am fwy o wybodaeth am Gyfyngiadau lefel 4 ac am atebion i gwestiynau cyffredion ewch i wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4

Diwedd 06.01.21