Cyngor Sir Ynys Môn

Achosion coronafeirws Caergybi yn achosi pryder sylweddol

Mae Grŵp Atal a Gwyliadwriaeth Covid-19 Ynys Môn yn pryderu’n fawr am y nifer cynyddol o achosion positif yn ardal Caergybi.

Hyd yma'r mis hwn, mae 54% o’r 174 achos positif o coronafeirws ar Ynys Môn – wedi eu hadnabod gan y tȋm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) - wedi bod yng Nghaergybi a’r cyffiniau.

Er bod cysylltiad rhwng rhai achosion a’r achos diweddar yn Ysbyty Gwynedd, mae cynnydd mewn achosion o drosglwyddo’r haint mewn cartrefi, rhwng cartrefi ac mewn mannau gwaith yn ardal Caergybi hefyd, ac mae hyn yn peri pryder mawr.

Ar hyn o bryd, mae’r tîm aml-asiantaeth sy’n gweithio i ddiogelu trigolion yn edrych ar ffyrdd o atal y lledaeniad – a gallai hyn gynnwys cau ysgolion eto yn ogystal a cyfnod clo lleol.

Anogir trigolion i:

  • hunanynysu ar unwaith os ydyn nhw, neu unrhyw un arall yn eu cartref, yn dangos unrhyw un o symptomau Coronafeirws ac i fynd am brawf cyn gynted â phosib. Mae uned brofi wedi’i lleoli ar hyn o bryd ym maes parcio Cilgant Stanley, Caergybi
  • rhannu’r holl wybodaeth berthnasol ag olrheinwyr ac ymgynghorwyr Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) os ydych yn cael prawf positif - y lleoedd yr ydych wedi ymweld â nhw a’ch cysylltiadau. Gallai peidio â datgelu’r wybodaeth iddynt beryglu iechyd eich ffrindiau, eich teulu a’r gymuned ehangach
  • Dilyn canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, sef: Peidiwch â mynd i gartrefi pobl eraill; gweithiwch gartref os yw’n bosib; cyfyngwch ar nifer y bobl yr ydych yn eu cyfarfod yn gymdeithasol a siopwch ar eich pen eich hun os gallwch

Dywedodd Dylan Williams, Cadeirydd y Grŵp Atal a Gwyliadwriaeth a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Môn, “Mae’r sefyllfa yng Nghaergybi a’r cynnydd diweddar mewn achosion yn hynod o bryderus. Mae’n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan yn awr drwy ddilyn y canllawiau hollbwysig - cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd pan fod angen i ni wneud hynny, a pheidio â chymysgu â theulu a ffrindiau. Rydym yn deall bod y mesurau hyn yn anodd i bawb, ond dyma’r unig ffordd y gallwn fynd yn ôl at ryw fath o normalrwydd.”

“Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid a byddwn yn cyflwyno’r diweddariad diweddaraf i Lywodraeth Cymru yn fuan. Bydd y sefyllfa bresennol yng Nghaergybi yn cael lle amlwg mewn unrhyw drafodaethau yn ystod y dyddiau nesaf.”

Mae meddygfeydd hefyd yn dechrau cysylltu â phobl ynglŷn â derbyn ail ddos y brechlyn ac mae’n bwysig iawn fod pobl yn mynychu eu hapwyntiadau er mwyn sicrhau bod y brechiadau’n cael yr effaith mwyaf posib.

Ychwanegodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Môn, “Mae hi bron i flwyddyn ers cyflwyno’r cyfnod clo cyntaf oherwydd y coronafeirws. Er bod y cyfnodau clo hyn wedi bod yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd – maent wedi cael effaith niweidiol ar bawb. Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn ofnadwy o anodd a heriol i bob un ohonom, ond ni allwn laesu ein dwylo a difetha’r holl waith caled. Mae’n rhaid i ni barhau i fod mor wyliadwrus â phosib a pharhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol er mwyn diogelu ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau.”

Ar hyn o bryd mae canolfan brofi symudol Caergybi wedi ei lleoli ym maes parcio Cilgant Stanley. Dylai trigolion sydd ag unrhyw symptomau, a phawb sy’n byw yn eu cartref, ddechrau hunanynysu a dylid trefnu prawf cyn gynted â phosib. Os ydych yn cael prawf, mae’n hanfodol fod pawb sy’n byw yn eich cartref yn parhau i hunanynysu nes eich bod yn cael eich canlyniad.

Dylai trigolion archebu prawf cyn ymweld â’r ganolfan brofi drwy ffonio 119 neu ddefnyddio’r porth ar-lein: https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19

Diwedd 16.3.21

Nodiadau ar gyfer Golygyddion:

Mae Grŵp Atal a Gwyliadwriaeth Covid-19 Ynys Môn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Cyngor Sir, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a Meddygfeydd Ynys Môn.