Cyngor Sir Ynys Môn

Achos newydd o Coronafeirws yn Ysgol Syr Thomas Jones

Mae yna achos newydd o Coronafeirws yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

Cafodd rhieni a staff eu hysbysu yn gynharach heddiw (Dydd Gwener, Hydref 23ain) ac maent wedi derbyn cyngor a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nid oes tystiolaeth i awgrymu fod ymlediad o fewn y sefydliad a bydd Ysgol Syr Thomas Jones yn agor ar gyfer y dosbarthiadau sydd heb eu heffeithio ar ôl y cyfnod hanner tymor (heblaw am blynyddoedd 9-13, a fydd yn dilyn canllawiau cyfnod atal byr Coronafeirws Llywodraeth Cymru).

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi derbyn manylion yr achos positif ac mae disgyblion a staff perthnasol wedi derbyn cyngor i hunanynysu am 14 diwrnod; ac i gadw llygad am unrhyw rai o symptomau’r feirws, gan gynnwys:

  • peswch newydd neu gyson
  • tymheredd uchel neu
  • colli synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu, neu newid iddynt
  • Dylai’r rhai sydd wedi eu cynghori i hunanynysu mynd am brawf Coronafeirws os ydynt yn datblygu unrhyw rai o’r symptomau yma, hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol:

Gellir mynd am brawf wrth fynd i’r Ganolfan Brofi (ar agor 10:00 - 16:00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul yma) sydd wedi sefydlu ar faes parcio Swyddfa’r Sir yn Llangefni. Cewch fynediad drwy Lôn Stad Ddiwydiannol Llangefni (gyferbyn a ATS Euromaster, LL77 7JA).

Sylwch: Nid oes angen i chi archebu lle ymlaen llaw ac mae’n hanfodol eich bod yn aros adref (hunanynysu) nes i chi gael eich canlyniadau yn ôl.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan, “Mae cyfraddau Coronafeirws yn cynyddu ar yr Ynys ar hyn o bryd ac mae’n debyg iawn yn byddwn yn gweld achosion eraill ymysg plant ysgol.”

Ychwanegodd, “Mae’n rhaid i ni barhau i frwydro’n erbyn y feirws ofnadwy yma. Mae’n hanfodol ein bod ni gyd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru drwy’r adeg. Golchwch eich dwylo yn rheolaidd, gwisgwch orchudd wyneb pan fo rhaid a chadwch bellter cymdeithasol. Rydym yn estyn ein dymuniadau gorau i’r plentyn, y teulu a chymuned yr ysgol.”

Mae Cyngor Môn yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion ac mae gan bob un mesur yn eu lle er mwyn ceisio cyfyngau ar ledaeniad posib y feirws. Mae'r rhain yn cynnwys glanhau ychwanegol, rhannu dosbarthiadau a hyrwyddo hylendid da ymysg disgyblion.

Mae’r wybodaeth a roddwyd i rieni a staff wedi ei gyhoeddi dan gyfarwyddyd Tîm rhanbarthol Profi, Olrhain a Diogelu ar ran Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Diwedd 23.10.20