Mae ein adain fapio yn cynnig amrediad eang o wybodaeth mewn perthynas â’ch cyfeiriad a’r ardal o’ch cwmpas.
Cynnal a chadw rhwng 2 Mawrth a 3 Mawrth
Ni fydd MapMôn ar gael rhwng 2 Mawrth a 3 Mawrth. Mae hyn oherwydd gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio. Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.
Ewch i MapMôn - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Sut mae MapMôn yn gweithio
Mae gan system MapMôn 3 o dabiau, sef:
- Fy Nhŷ
- Agosaf i mi
- Mapiau
Fy Nhŷ
Gan ddefnyddio’r tab Fy Nhŷ a rhoi rhif, enw a chôd post eu cartref i mewn, gallwch weld eich cartref ar fap a manylion eich eiddo.
Gallwch weld manylion am eich cynghorwyr, eich Aelod Seneddol a’ch Aelod o'r Senedd, yn ogystal ag ysgolion sy’n agos i’ch cartref a manylion y dalgylch.
Agosaf i mi
Mae’r tab hwn yn rhoi gwybodaeth am ysgolion a cheisiadau cynllunio sydd o fewn 50m i’ch cartref.
Fy Mapiau
Mae Fy Mapiau, yn cyflwyno ystod eang o opsiynau i chi o ran y wybodaeth sydd ar gael i chi ei gweld, megis:
- ceisiadau cynllunio
- ystadegau gan yr heddlu ynghylch troseddau
- mynediad i’r cefn gwlad