Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Unedau mesur

Yn y canllawiau

Y byrfoddau cywir (symbolau) i'w defnyddio wrth nodi unedau o bwysau neu gyfaint at ddibenion masnachu

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Unedau metrig

Os ydych yn nodi unedau o bwysau neu gyfaint, dim ond y byrfoddau a ganiateir (symbolau) y gellir eu defnyddio. Dangosir y rhain yn y tabl isod.

Unedau mesur Symbol
metr m
centimetr cm
millimetr mm
metr sgwâr m2
metr ciwbig m3
litr l or L
centilitr cl or cL
mililitr ml or mL
tunnell t
cilogram kg
gram g
miligram mg

Ni chaniateir ffracsiynau pendrwm (oni bai ei fod yn ymwneud â ffracsiwn o beint). Er enghraifft, ni ellir mynegi 500 g fel 1/2  kg.

Os yw'r gair 'net' yn cael ei ddefnyddio ni ellir ei dalfyrru.

Unedau imperialaidd atodol

Gellir dangos unedau imperialaidd hefyd, ond rhaid iddynt beidio â bod yn fwy amlwg na'r dangosiad metrig. Dangosir yr unedau a ganiateir yn y tabl isod.

Unit of measurement Abbreviation
galwyn gal
chwart qt
peint pt
owns hylif fl oz
pwys lb
owns oz

Ac eithrio lle bo'r gyfraith ac arfer masnach yn pennu fel arall, dylai hylifau gael eu marcio â chyfaint (ml neu L er enghraifft) a chynhyrchion eraill yn ôl pwysau (g, kg, ac ati).

O dan Reoliadau Pwysau a Mesurau (Marcio Meintiau a Byrfoddau Unedau) 1987, rhaid i'r dynodiadau niferoedd fod yn hawdd i'w gweld, yn ddarllenadwy, ac yn annileadwy; rhaid iddynt hefyd fod o uchder lleiafswm, yn dibynnu ar faint y pecyn.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a all gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.

Ddeddfwriaeth allweddol

Rheoliadau Pwysau a Mesurau (Marcio Meintiau a Byrfoddau Unedau) 1987

Rheoliadau Pwysau a Mesurau (Nwyddau wedi'u Pecynnu) 2006

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014

 

Canllawiau newydd: Ebrill 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.