Adolygiadau ar-lein ac ardystiadau
Yn y canllawiau
Rhaid i wefannau sy'n cyhoeddi adolygiadau sicrhau eu bod yn rhoi'r darlun llawn i ddefnyddwyr
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban
Dylai busnesau, asiantaethau'r cyfryngau neu unigolion sy'n cyhoeddi barn ar-lein sicrhau bod y cynnwys y talwyd amdano yn glir. Fel arall gallai'r busnes, asiantaeth y cyfryngau a'r sawl sy'n cyhoeddi'r cynnwys dorri'r gyfraith.
Arweiniad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
Mae'r CMA wedi cyhoeddi canllawiau i fusnesau ar yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith ar adolygiadau ac ardystiadau ar-lein.
Mae 3 crynodeb o 60 eiliad:
- Adolygiadau Ar-lein: Gadael i'ch Cwsmeriaid weld y Gwir Lun
- Rhoi Darlun Cytbwys: Pethau i'w Gwneud ac i Beidio â'u Gwneud o ran Safleoedd Adolygu Ar-lein
- Ardystiadau ar-lein: Bod yn Agored ac yn Onest gyda'ch Cynulleidfa
Mae'r crynodebau hyn yn egluro pa safleoedd adolygu, asiantaethau cyfryngau, busnesau a chyflenwyr nwyddau neu wasanaethau ddylai wneud wrth bostio barn ar-lein i wneud yn siwr eu bod yn cydymffurfio â chyfraith diogelu defnyddwyr.
Cosbau
Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnachu arwain at gamau gorfodi ac at sancsiynau, a all gynnwys dirwy a / neu garchar. Am fwy o wybodaeth gweler 'Safonau masnachu: pwerau, gorfodi a chosbau'.
Deddfwriaeth allweddol
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2021 itsa Ltd.