Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Logos aelodaeth a honiadau o gymeradwyaeth

Yn y canllawiau

Gwnewch yn siwr fod gennych hawl i ddefnyddio logo aelodaeth neu 'cymeradwywyd gan' cyn i chi wneud hynny

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Gellir defnyddio logos sy'n dynodi aelodaeth neu gymeradwyaeth gan sefydliad yn ddilys gan fusnesau. Fodd bynnag, gall eu camddefnyddio, bwriadol neu fel arall, arwain at fantais fasnachol, gan alluogi gwaith i gael ei gaffael yn annheg, a gall fod yn gyfystyr â thorri'r gyfraith.

Mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 (CPR) yn benodol yn gwahardd busnesau rhag arddangos unrhyw fath o farc ymddiriedolaethol, marc ansawdd neu gymhwyster cyfatebol os nad oes ganddynt yr awdurdod i wneud hynny. Mae hefyd yn torri'r rheoliadau er mwyn darparu gwybodaeth anwir neu dwyllodrus.

Pa fusnesau sy'n defnyddio logos?

Mae llawer o sectorau masnach yn hyrwyddo'u gweithgareddau drwy ddefnyddio logos. Mae enghreifftiau'n bodoli o logos a ddefnyddir gan y diwydiant adeiladu, sefydliadau moduro, proffesiynau, ffederasiynau masnach adwerthu, gwasanaethau cyllid ac yswiriant, twristiaeth, diwydiannau arlwyo, plymwyr a thrydanwyr.

Beth mae logos yn ei gyfleu i gwsmeriaid?

Mae unrhyw fusnes sy'n defnyddio logo sy'n cynrychioli aelodaeth neu gymeradwyaeth yn annog darpar gwsmer i dybio budd sy'n deillio o un neu ragor o'r canlynol:

  • cymeradwyo safon gwasanaeth
  • hyfforddiant neu gymhwyster personél y cwmni
  • cydymffurfio â rheolau neu godau ymddygiad
  • bodolaeth gweithdrefnau cwyno/cyflafareddu
  • ymrwymiadau i fod yn ' fasnachwyr teg ' neu wedi'u cymeradwyo gan sefydliadau adnabyddus fel cynghorau, llywodraethau ac ati

Sut mae logos yn cael eu defnyddio?

Defnyddir logos mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys eu harddangos ar/yn:

  • eiddo busnes/cwmni, cywain, baneri, cerbydau a dillad
  • papur pennawd busnes/cwmni a deunydd ysgrifennu arall
  • llyfrynnau a thaflenni masnach a defnyddwyr
  • hysbysebion a gyhoeddir mewn papurau newydd ac ar gyfeiriaduron teledu, ffôn a masnach
  • gwefannau busnes/cwmni

Y gyfraith

Pe bai'n annilys ar y pryd, byddai defnyddio logo mewn unrhyw un o'r amgylchiadau uchod yn torri amodau'r CPR. Gweler ' Diogelu defnyddwyr rhag masnachu annheg ' i gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hyn.

Mae'r CPR yn benodol yn gwahardd busnesau rhag arddangos unrhyw fath o farc ymddiriedolaethol, marc ansawdd neu gymhwyster cyfatebol os nad oes ganddynt yr awdurdod i wneud hynny. Maent hefyd yn gwahardd unrhyw fath o hawliad bod busnes, neu ei wasanaeth, wedi cael ei gymeradwyo, ei awdurdodi neu ei gymeradwyo gan gorff cyhoeddus neu breifat pan nad yw (felly, hawliadau ysgrifenedig nad ydynt yn wir wedi'u gwahardd hefyd, yn ogystal â'r defnydd o logos). Maent hefyd yn gwahardd busnes rhag honni ei fod yn llofnodwr cod ymddygiad os nad yw'r busnes yn aelod/llofnodwr.

Mae darparu gwybodaeth anwir neu dwyllodrus sy'n peri i ddefnyddwyr ymrwymo i gontractau na fyddent fel arall wedi ymrwymo iddynt yn arwain at dorri'r Rheoliadau hyn yn gyffredinol - er enghraifft, defnyddwyr yn contractio gyda busnes yn unig oherwydd eu bod yn gweld logo masnach gymdeithas ac felly roeddent yn meddwl y byddent yn cael gwarchodaeth ychwanegol pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.

Dylid cymeryd gofal arbennig wrth ddefnyddio'r logo Gas Safe. Y Gofrestr Gas Safe yw'r unig gynllun cofrestru peiriannydd nwy a gymeradwywyd gan yr HSE o dan y Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnydd) 1998. O dan y cynllun hwn, mae'n rhaid i bob peiriannydd nwy sydd am wneud gwaith nwy domestig a phenodol arall ym Mhrydain Fawr gofrestru gyda'r cynllun hwn.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol, os ydych yn hysbysebu i fusnesau eraill, bod y Rheoliadau Gwarchod Busnes Rhag Gwaith Marchnata Camarweiniol 2008 yn ei gwneud yn drosedd i gamarwain busnes yn fwriadol. Mae rheolau hefyd yn y Rheoliadau hyn ynghylch hysbysebu cymharol. Gweler ' Marchnata busnes i fusnes ' i gael rhagor o wybodaeth.

Os nad ydych yn siwr a yw unrhyw un o'ch deunydd hysbysebu neu farchnata yn mynd yn groes i'r ddeddfwriaeth uchod dylech ofyn am gyngor gan eich gwasanaeth safonau masnach lleol. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn cyn cyhoeddi'r ddogfen.

Rhagofalon penodol ar gyfer busnesau

Wrth wneud cais am aelodaeth neu gymeradwyaeth sefydliad, cynghorir busnesau na ddylent ddechrau defnyddio unrhyw logo hyd nes yr awdurdodir hynny gan y sefydliad. Dylid cymryd gofal pan ddaw aelodaeth neu gymeradwyaeth busnes i ben, yn codi'n arbennig o'r canlynol:

  • unrhyw lithriad mewn aelodaeth
  • hysbysu neu ganslo gan sefydliad am unrhyw reswm, megis methiant i gwrdd â safonau neu ofynion eraill

Dylai busnesau fod yn arbennig o ofalus wrth:

  • defnyddio deunydd ysgrifennu, gwefannau, cyhoeddiadau, safleoedd, ac ati
  • darparu copi i asiantaethau hysbysebu, neu eu awdurdodi i'w defnyddio

Cyfrifoldeb busnesau yw sicrhau na wneir unrhyw hawliadau annilys am aelodaeth neu gymeradwyaeth (p'un a ydynt wedi'u gwneud eu hunain neu ar eu rhan, gan gynnwys gan asiantaethau hysbysebu).

Datganiadau llafar

Nid oes rhaid i ddatganiadau fod yn ysgrifenedig er mwyn torri'r gyfraith. Byddai unrhyw ddatganiadau anwir neu dwyllodrus ynghylch aelodaeth neu gymeradwyaeth busnes a wneir gan fusnesau neu eu staff yn torri'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a all gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau '.

Ddeddfwriaeth allweddol

Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998

Rheoliadau Diogelu Busnes Rhag Marchnata Camarweiniol 2008

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Hydref 2019

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.